Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Gyda phwy y dylid cysylltu i gael gwybodaeth am fudd-daliadau anabledd a gofalwyr

Bydd hyn yn dibynnu ar ba fudd-dal yr ydych yn ei hawlio - ac a ydy'ch hawliad wedi cychwyn neu beidio.

Budd-daliadau anabledd - cyn i chi wneud hawliad

Gwasanaeth cyngor a gwybodaeth dros y ffôn ydy'r Llinell Ymholiadau Budd-daliadau y gallwch ei ffonio os ydych chi'n wael neu'n anabl neu'n gofalu am rywun ac yn gweithredu ar eu rhan.

Rhif ffôn: 0800 88 22 00

Ffôn testun: 0800 24 33 55

Gallwch hefyd ddefnyddio gwasanaeth Text Relay RNID.

Mae’r llinell ar agor rhwng 8.30am a 6.30 pm o ddydd Llun i ddydd Gwener a rhwng 9.00 am a 1.00 pm ar ddydd Sadwrn.

Mae'r Llinell Ymholiadau Budd-daliadau yn rhoi cyngor cyffredinol am fudd-daliadau. Dylai ymholiadau ynghylch hawliad penodol am fudd-dal gael eu cyfeirio at y swyddfa sy'n delio gyda'ch hawliad.

Budd-daliadau anabledd - ar ôl i chi wneud hawliad

Gallwch gael cyngor am hawliadau Lwfans Byw i'r Anabl a'r Lwfans Gweini gan Linell Gymorth Lwfans Byw i'r Anabl a'r Lwfans Gweini, a ddylai fod yn gallu cael gafael ar eich cofnodion.

Rhif ffôn: 08457 123 456

Ffôn testun: 08457 22 44 33

Gallwch hefyd ddefnyddio gwasanaeth Text Relay RNID.

Mae'r llinell gymorth ar agor rhwng 7.30 am a 6.30 pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

E-bost:

Gwasanaeth-Cwsmeriaid@dwp.gsi.gov.uk

Esbonio penderfyniad ynghylch budd-dal

Os ydych am i rywun esbonio penderfyniad sy'n ymwneud â'ch hawliad am Lwfans Byw i'r Anabl neu'r Lwfans Gweini, gallwch hefyd cysylltu â Llinell Gymorth Lwfans Byw i'r Anabl a'r Lwfans Gweini. Bydd y staff yn eich helpu i ddeall y rhesymau pam y gwnaethpwyd y penderfyniad.

Lwfans Gofalwr

Os ydych yn hawlio Lwfans Gofalwr, cysylltwch â'r Uned Lwfans Gofalwr.

Lwfans Cyflogaeth a Chymorth a Budd-dal Analluogrwydd

Os ydych yn ystyried hawlio Lwfans Cyflogaeth a Chymorth neu Fudd-dal Analluogrwydd, cysylltwch â'r ganolfan gyswllt. Mae’r llinellau ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener, rhwng 8 am a 6 pm.

Rhifau'r ganolfan gyswllt:

Rhif ffôn 0800 055 6688
Ffôn testun 0800 023 4888

Os ydych eisoes yn derbyn Lwfans Cyflogaeth a Chymorth neu Fudd-dal Analluogrwydd, dylech gysylltu â'r swyddfa sy'n delio gyda'ch hawliad. Gallwch ddod o hyd i’r cyfeiriad a’r rhif ffôn ar lythyron a dderbyniwch gan y swyddfa.

Allweddumynediad llywodraeth y DU