Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Canllaw i gymorth ariannol ar gyfer pobl anabl

Ceir ystod eang o gymorth ariannol sy'n gysylltiedig ag anabledd, gan gynnwys budd-daliadau, credydau treth, grantiau a chonsesiynau. Golwg gyffredinol a geir yma gyda dolenni i wybodaeth manwl.

Y prif fudd-daliadau anabledd a salwch

Lwfans Byw i’r Anabl

Gallwch gael y budd-dal hwn os oes angen help arnoch i symud o gwmpas a/neu i ofalu amdanoch eich hun oherwydd eich bod yn wael, yn anabl neu'n derfynol wael. Rhaid i chi hawlio cyn i chi gyrraedd 65 oed.

Lwfans Gweini

Budd-dal di-dreth yw’r budd-dal hwn ar gyfer pobl sy’n 65 neu’n hŷn a chanddynt salwch neu anabledd a bod angen cymorth gyda gofal personol arnynt.

Lwfans Cyflogaeth a Chymorth

Os na allwch chi weithio oherwydd salwch neu anabledd, efallai y gallwch chi gael Lwfans Cyflogaeth a Chymorth (ESA).

Cyflwynwyd y Lwfans Cyflogaeth a Chymorth ar 27 Hydref 2008. Mae'n disodli'r Budd-dal Analluogrwydd a'r Cymhorthdal Incwm, a delir o ganlyniad i salwch neu anabledd.

Budd-dal Analluogrwydd

Mae'r Budd-dal Analluogrwydd a'r Cymhorthdal Incwm, a delir o ganlyniad i salwch neu anabledd, wedi'i ddisodli gyda'r Lwfans Cyflogaeth a Chymorth i hawlwyr newydd yn unig.

Os ydych chi eisoes yn cael Budd-dal Analluogrwydd, byddwch yn parhau i'w gael.

Iechyd a byw'n annibynnol

Taliadau uniongyrchol - trefnu eich gofal a'ch gwasanaethau eich hun

Os ydy'ch cyngor lleol wedi'ch asesu ac yn dweud bod angen gwasanaethau gofal a chymorth arnoch, efallai y byddwch am ddewis taliadau uniongyrchol. Gyda'r rhain, cewch brynu a threfnu eich cymorth eich hun yn hytrach na'i dderbyn yn uniongyrchol gan y gwasanaethau cymdeithasol.

Cyfarpar ar gyfer byw'n annibynnol

Efallai y gallwch gael cymorth tuag at gost cyfarpar i'ch galluogi chi i fyw yn annibynnol yn eich cartref eich hun, neu tuag at gost addasu cyfarpar safonol yn y cartref er mwyn i chi allu'u defnyddio.

Cyfarpar personol, presgripsiynau a theithio i ysbyty

Efallai fod gennych hawl i gael cymorth tuag ato gostau iechyd megis presgripsiynau'r GIG am ddim, gofal deintyddol, costau teithio i'r ysbyty, ynghyd ag offer megis cadeiriau olwyn a chymhorthion clyw.

Gostyngiad Treth ar Werth (TAW) ar gyfarpar a gwasanaethau

Efallai y gellir cael gostyngiad TAW ar rai nwyddau os yw'r eitem wedi'i dylunio, neu ei haddasu, yn gyfan gwbl at ddefnydd person anabl. Mae hyn yn cynnwys rhai mathau o gyfarpar meddygol, hoistiau a rhai mathau o welyau y gellir eu haddasu, ynghyd â rhai cerbydau arbennig.

Dyma wasanaethau a all fod yn gymwys am ostyngiad: gosod cyfarpar, addasu cyfarpar a rhai addasiadau i adeiladau.

Y Gronfa Byw'n Annibynnol

Mae taliadau a ddyfernir gan Gronfa Byw'n Annibynnol yn helpu i gefnogi pobl ag anabledd difrifol i'w galluogi i fyw'n annibynnol yn hytrach nag mewn cartref gofal. Mae'r arian ar gyfer talu am ofal personol a domestig.

Cyflogaeth

Cynlluniau gwaith

Mae 'Mynediad at Waith' yn gynllun sy'n gallu darparu cymorth ymarferol i chi yn y gwaith. Mae hyn yn cynnwys talu tuag at offer arbennig, neu am weithiwr cefnogi neu gymorth gyda'r costau teithio ychwanegol o deithio i'r gwaith os nad ydych yn gallu defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus.

Ceir nifer o gynlluniau gwaith i helpu pobl anabl i gael gwaith.

Grant Swydd

Efallai y gallwch hawlio Grant Swydd pan fyddwch yn derbyn swydd amser llawn. Byddwch hefyd wedi bod yn hawlio rhai budd-daliadau am o leiaf 26 wythnos cyn cychwyn ar eich swydd newydd; mae'r rhain yn cynnwys Budd-dal Analluogrwydd a Chymhorthdal Incwm.

Eich incwm - mewn gwaith neu allan o waith

Credyd Treth Gwaith

Os ydych yn gweithio ond ar gyflog isel, gallwch wneud cais am y Credyd Treth Gwaith i ychwanegu at eich enillion. Efallai y cewch fwy os oes person anabl yn byw gyda chi.

Cymhorthdal Incwm

Os ydych chi rhwng 16 a 60 oed, ar incwm isel, yn ddi-waith, neu’n gweithio am lai nag 16 awr yr wythnos ar gyfartaledd, gallwch hawlio Cymhorthdal Incwm. Effeithir ar Gymhorthdal Incwm gan gynilion.

Efallai y byddwch yn gymwys i gael y Premiwm Anabledd, y Premiwm Anabledd Difrifol neu'r Premiwm Anabledd Uwch.

Byddwch hefyd yn gymwys yn awtomatig i gael Budd-dal Tai a Budd-dal y Dreth Cyngor ac efallai y gallwch chi dderbyn help tuag at gostau iechyd, megis presgripsiynau.

Lwfans person dall

Mae'r lwfans person dall yn gadael i chi dderbyn rhywfaint o incwm heb orfod talu treth. Mae'r swm yn cael ei ychwanegu at eich lwfans treth personol.

Teuluoedd a phlant anabl

Credyd Treth Plant

Lwfans ar gyfer rhieni a gofalwyr plant neu bobl ifanc sy'n dal mewn addysg amser llawn yw'r Credyd Treth Plant. Efallai y cewch fwy os ydych yn gofalu am blentyn anabl.

Lwfans Byw i’r Anabl

Gallwch hawlio Lwfans Byw i'r Anabl ar gyfer plentyn gydag anabledd neu salwch meddwl neu gorfforol difrifol os oes angen llawer mwy o help arnynt neu lawer mwy o ofal na phlant eraill o'r un oed.

Grant Mamolaeth Cychwyn Cadarn

Dyma un taliad i helpu tuag at gost babi newydd os ydych ar incwm isel ac yn derbyn mathau eraill o gymorth ariannol gan gynnwys Cymhorthdal Incwm a/neu Gredyd Treth Gwaith lle mae elfen anabledd neu elfen anabledd difrifol yn gynwysedig.

Cartrefi a thai

Y Dreth Cyngor

Efallai y bydd gennych hawl i gael gostyngiad yn eich bil Treth Cyngor os oes gan eich cartref rai nodweddion sy'n hanfodol er mwyn i chi allu byw yno - er enghraifft, os oes gennych estyniad ar gyfer ystafell wely ar y llawr gwaelod. Os yw hyn yn rhoi eich eiddo mewn band prisio uwch, efallai y cewch ostyngiad cyfwerth ag un band yn eich bil.

Budd-dal Tai a Budd-dal y Dreth Cyngor

Telir Budd-dal Tai a Budd-dal y Dreth Cyngor gan gynghorau lleol. Os ydych ar incwm isel ac yn talu rhent, hawliwch y Budd-dal Tai.

Os ydych ar incwm isel ac yn talu'r Dreth Cyngor, hawliwch Fudd-dal y Dreth Cyngor.

Grantiau Cyfleusterau i'r Anabl

Grant gan y cyngor lleol yw'r Grant Cyfleusterau i'r Anabl i gynorthwyo gyda chost gwneud addasiadau hanfodol i'ch cartref i’ch galluogi i barhau i fyw yno.

Disgownt ar drwydded deledu

Os ydych wedi'ch cofrestru'n ddall, gallwch gael gostyngiad o 50 y cant ar gost trwydded deledu.

Cerbydau a chludiant

Y cynllun parcio Bathodyn Glas

Mae’r cynllun Bathodyn Glas yn darparu nifer o fanteision parcio i bobl anabl gydag anawsterau cerdded difrifol sy’n teithio fel gyrwyr neu fel teithwyr.

Y Cynllun Motability

Gall y Cynllun Motability eich helpu gyda phrydlesu neu brynu car, sgwter neu gadair olwyn â phŵer os ydych yn derbyn cyfradd uwch elfen symudedd y Lwfans Byw i'r Anabl.

Mae'n bosib cael 'gostyngiad' TAW wrth brydlesu neu logi rhai mathau o gyfarpar neu gerbydau.

Eithriad rhag talu treth cerbyd

Gallwch wneud cais am eithriad rhag talu treth cerbyd os ydych yn derbyn cyfradd uwch elfen symudedd y Lwfans Byw i’r Anabl neu’r Atodiad Symudedd Pensiwn Rhyfel.

Trafnidiaeth gyhoeddus a chymunedol

Efallai fod gan eich cyngor lleol gynlluniau tacsi neu galw'r gyrrwr ar waith, er enghraifft, defnyddio talebau neu docynnau. Efallai eich bod yn gymwys i gael tocyn bws a/neu Docyn Trên i Bobl Anabl hefyd.

Addysg

Lwfansau i Fyfyrwyr Anabl

Mae Lwfansau Myfyrwyr Anabl yn rhoi cymorth i fyfyrwyr mewn addysg uwch sydd, oherwydd eu hanabledd, yn wynebu costau ychwanegol. Gallant helpu i dalu am gyfarpar arbenigol a chymorth personol heb fod yn feddygol.

Cyflogaeth - anafiadau a salwch a achoswyd yn y gwaith neu gan waith

Budd-dal Anabledd Anafiadau Diwydiannol

Os ydych yn anabl oherwydd damwain yn y gwaith neu'n anabl oherwydd afiechyd neu fyddardod a achoswyd gan y gwaith, gallech dderbyn Budd-dal Anafiadau Diwydiannol.

Lwfans Gweini Cyson

Os oes angen sylw a gofal dyddiol arnoch oherwydd anabledd a chithau'n hawlio Budd-dal Anabledd Anafiadau Diwydiannol, gallwch hawlio'r Lwfans Gweini Cyson.

Os ydych wedi gwasanaethu yn Lluoedd Arfog Ei Mawrhydi

Pensiwn Anabledd Rhyfel

Efallai y gallwch hawlio'r Pensiwn Anabledd Rhyfel os ydych chi wedi'ch anafu neu wedi'ch gwneud yn anabl o ganlyniad i ryfel neu yn sgil gwasanaethu yn Lluoedd Arfog Ei Mawrhydi cyn 6 Ebrill 2005. Ni allwch hawlio os ydych yn dal yn gwasanaethu yn y Lluoedd Arfog.

Lwfans Gweini Cyson

Os oes angen sylw a gofal dyddiol arnoch oherwydd anabledd a chithau'n hawlio Pensiwn Anabledd Rhyfel, gallwch hawlio'r Lwfans Gweini Cyson.

Cynllun Iawndal y Lluoedd Arfog

Mae Cynllun Iawndal y Lluoedd Arfog (AFCS) yn darparu iawndal os ydych wedi'ch anafu, neu os oes gennych salwch yn sgil gwasanaethu yn y Lluoedd Arfog ar 6 Ebrill 2005 neu ar ôl hynny.

Gofalu am rywun?

Os ydych yn gofalu am rywun anabl, dewch i wybod am y cymorth ariannol ac ymarferol sydd ar gael i ofalwyr - gan gynnwys asesiadau gofalwr a Lwfans Gofalwr - yn adran 'Gofalu am rywun' Cross & Stitch.

Additional links

Chi a'ch arian

Siop wybodaeth un stop ar gyfer cyllid personol, a gaiff ei darparu gan Cynilion a Buddsoddiadau Cenedlaethol

Cysylltiadau defnyddiol

Allweddumynediad llywodraeth y DU