Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Grant gan y cyngor lleol yw'r Grant Cyfleusterau i'r Anabl. Fe'i rhoddir i gynorthwyo gyda'r gost o wneud addasiadau i'ch cartref er mwyn i chi allu parhau i fyw yno. Telir y grant pan fo'r cyngor o'r farn bod y newidiadau'n angenrheidiol i ddiwallu'ch anghenion, a bod y gwaith yn rhesymol ac yn ymarferol.
Gallwch hawlio os ydych chi, neu rywun sy'n byw yn eich eiddo, yn anabl ac:
Gall landlord wneud cais ar ran tenant anabl.
Dim ond yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon y mae'r Grantiau Cyfleusterau i'r Anabl ar gael. Dylai pobl sy'n byw yn yr Alban gysylltu ag adran gwasanaethau cymdeithasol eu cyngor lleol i gael gwybodaeth am unrhyw grantiau a all fod ar gael.
Gellir defnyddio grant i wneud addasiadau er mwyn i chi allu symud yn fwy hwylus o amgylch eich cartref ac i mewn ac allan o'ch cartref a/neu i ddarparu cyfleusterau hanfodol yn y cartref.
Os ydych chi’n anabl, mae'r mathau derbyniol o waith yn cynnwys:
Bydd therapydd galwedigaethol yn edrych ar eich amgylchiadau ac yn gallu argymell pa fath o addasiadau y mae angen eu gwneud.
Mae'r swm a gewch fel arfer yn seiliedig ar asesiad ariannol - 'prawf modd' - o'ch incwm wythnosol cyfartalog mewn perthynas â'ch gwariant. Nid oes prawf modd ar gyfer teuluoedd plant anabl sydd dan 19 oed.
Bydd y prawf modd yn ystyried unrhyw gynilion dros derfyn penodol. Bydd rhai budd-daliadau – gan gynnwys Lwfans Byw i'r Anabl a Chymhorthdal Incwm – yn cael eu hanwybyddu fel arfer.
Os oes gennych bartner, bydd incwm y ddau ohonoch yn cael ei asesu ar y cyd. Mae cyfalaf yn cael ei gynnwys yn y prawf modd. Anwybyddir £6,000 cyntaf unrhyw gynilion.
Defnyddir amrediad o bremiymau a lwfansau ar gyfer pob gwariant hanfodol, er enghraifft, rhent/morgais a gwariant personol. Nid yw gwariant gwirioneddol yn cael ei ystyried.
Yn dibynnu ar ganlyniad yr asesiad hwn, gall maint y cymorth ariannol a gynigir amrywio o 0 i 100 y cant o'r gost.
Sut y cyfrifir y dyfarniad
Mae'r dyfarniad yn gweithio fel hyn:
Mae uchafswm y grant y mae’n rhaid i gyngor ei dalu yn £25,000 y cais yng Ngogledd Iwerddon, £30,000 yn Lloegr a £36,000 yng Nghymru, llai unrhyw gyfraniad asesedig gennych chi. Os yw cost y gwaith cymwys yn fwy, gall y cyngor ddefnyddio pwerau dewisol i godi'r swm.
Ni fydd Grant Cyfleusterau i'r Anabl yn effeithio ar unrhyw fudd-daliadau yr ydych yn eu cael ar hyn o bryd.
Dilynwch y ddolen i gael gwybodaeth am sut i wneud cais, sut mae'r Grant Cyfleusterau i'r Anabl yn cael ei dalu, a beth i'w wneud nesaf.