Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Gwneud cais am ganiatâd cynllunio ar-lein

Cyflwyno cais cynllunio ar-lein, cwblhau ffurflen gais er mwyn ei hanfon neu barhau â chais sy'n bodoli eisoes.

Trosolwg

Gallwch wneud cais ar-lein drwy ddefnyddio gwefan y Porth Cynllunio, sef adnodd cynllunio ac adeiladu ar-lein Llywodraeth y DU.

Canllawiau ar wneud cais

Mae'r Porth Cynllunio yn rhoi canllawiau cam wrth gam ac esboniadau fideo ar gyfer gwneud nifer o fathau gwahanol o geisiadau. Mae'r rhain yn cynnwys:

  • caniatâd cynllunio llawn ac amlinellol
  • caniatâd adeilad rhestredig ac ardal gadwraeth
  • tystysgrifau datblygiad cyfreithlon - mae'r rhain yn profi bod newidiadau a wnewch i adeilad yn 'ddatblygu a ganiateir' (e.e. bod gwaith penodol a wnewch ar eich cartref heb ganiatâd cynllunio yn gyfreithlon)
  • caniatâd hysbysebu

Cyflwyno cais

Mae gwasanaeth ar-lein y Porth Cynllunio yn eich galluogi i wneud y canlynol:

  • atodi dogfennau ategol i'ch cais
  • gweithio allan y ffi am wneud cais a'i thalu'n ddiogel
  • creu a phrynu cynllun lleoliad (a elwir weithiau yn gynllun lleoliad safle) - mae hwn yn dangos ardal y safle a'r ardaloedd cyfagos

Sut i wneud cais

Er mwyn gwneud cais, dilynwch y ddolen isod. Bydd angen i chi gofrestru ar wefan y Porth Cynllunio er mwyn cyflwyno a chael gweld manylion cais.

Additional links

Cyngor budd-daliadau ar-lein

Os oes angen cyngor ar fudd-daliadau, pensiynau a chredydau arnoch, defnyddiwch y gyfrifiannell ar-lein i weld beth y gallech ei gael

Cymorth gyda ffeiliau PDF

I weld ffeiliau PDF bydd angen Adobe Reader arnoch. Mae’r rhaglen ar gael yn rhwydd os nad yw gennych eisoes

Allweddumynediad llywodraeth y DU