Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Grantiau Cyfleusterau i’r Anabl - sut mae gwneud cais

Grant a roddir gan gynghorau lleol yw'r Grant Cyfleusterau i'r Anabl. Fe'i rhoddir i gynorthwyo gyda'r gost o wneud addasiadau i'ch cartref er mwyn i chi allu parhau i fyw yno.

Sut i wneud cais

Cysylltwch ag adran tai neu adran iechyd yr amgylchedd eich cyngor lleol a gofynnwch iddynt anfon ffurflen gais atoch.

Rhaid i chi wneud cais am grant cyn i chi ddechrau ar unrhyw waith - ni chewch grant fel arfer os byddwch yn dechrau ar waith cyn i'r cyngor gymeradwyo'r cais.

Rhaid i'r cyngor lleol eich hysbysu o ganlyniad eich cais, drwy lythyr, o fewn chwe mis i ddyddiad y cais.

Gwneud cais am Grant Cyfleusterau i’r Anabl

Eich awdurdod lleol, neu eich cyngor, fydd yn penderfynu a fyddant yn dyfarnu Grant Cyfleusterau i'r Anabl. Bydd y ddolen isod yn gofyn i chi deipio ble'r ydych chi'n byw ac yna'n mynd â chi at wefan eich awdurdod lleol.

Cymeradwyaeth cynllunio a rheoliadau adeiladu

Fel gydag unrhyw waith adeiladu, bydd angen i chi wneud cais ar wahân am unrhyw gymeradwyaeth sy'n ofynnol o ran caniatâd cynllunio neu reoliadau adeiladu.

Mae’n bwysig sicrhau bod y gwaith yn cael ei wneud yn iawn. Os oes angen gwneud gwaith sylweddol, efallai y bydd y cyngor yn gofyn i chi gyflogi pensaer neu syrfëwr cymwys i gynllunio a goruchwylio'r gwaith. Os cewch grant, gallwch ei ddefnyddio i dalu am eu ffioedd.

Nid oes gan eich cyngor lleol ddim cyfrifoldeb dros safon y gwaith a wneir gan adeiladwr. Os bydd unrhyw broblemau gyda safon y gwaith, bydd yn rhaid i chi ddelio â hwy eich hun. Ceir gair i gall am ddod o hyd i adeiladwyr a phlymwyr da ac ati yn adran cartref a chymuned y wefan hon.

Sut mae’r grant yn cael ei dalu?

Weithiau caiff y grant ei dalu mewn rhandaliadau, ac weithiau caiff ei dalu'n llawn ar ôl i'r gwaith gael ei orffen. Efallai y bydd y cyngor yn talu'r contractwr yn uniongyrchol, neu'n rhoi siec i chi ei rhoi iddo. Byddant yn cytuno ar hyn gyda chi ar y dechrau.

Gwneir y taliadau:

  • pan fydd y cyngor yn fodlon bod y gwaith (neu ran o'r gwaith) wedi'i gwblhau'n foddhaol ac yn unol ag amodau'r grant
  • pan gyflwynir anfoneb, hawliad neu dderbynneb ar ôl talu am y gwaith, a'r rheini'n rhai derbyniol

Os gwnaethpwyd y gwaith gan yr ymgeisydd neu gan berthynas, dim ond anfonebau am ddeunyddiau neu wasanaethau a brynwyd sy'n dderbyniol.

Sut i apelio

Os gwrthodir Grant Cyfleusterau i'r Anabl i chi, neu os ydych chi'n anhapus gyda'r swm a ddyfarnwyd i chi, gallwch apelio yn erbyn y penderfyniad. Gofynnwch i’ch cyngor lleol am eu trefn gwyno ac apelio.

Os nad ydych yn fodlon â'r canlyniad ar ôl apelio i'r cyngor, gallwch gofrestru'ch cwyn gyda'r Ombwdsmon Llywodraeth Leol.

Ymholiadau cyffredinol

I wneud cais neu i holi am gais, cysylltwch â'ch cyngor lleol.

Am ymholiadau cyffredinol ynghylch Grantiau Cyfleusterau i'r Anabl gallwch gysylltu â'r Adran Cymunedau a Llywodraeth Leol.

Ffôn: 0303 444 3709

E-bost: disabled.facilitiesgrants@communities.gsi.gov.uk

Gallwch hefyd ddod o hyd i fwy o wybodaeth am Grantiau Cyfleusterau i'r Anabl ar wefan yr Adran Cymunedau a Llywodraeth Leol.

Allweddumynediad llywodraeth y DU