Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Byw'n annibynnol os ydych chi'n ddall neu â nam ar eich golwg

Mae amrywiaeth o gyfarpar ar gael i'ch helpu i fyw'n annibynnol yn eich cartref os ydych chi'n ddall neu'n rhannol ddall.

Cymorth gan eich cyngor lleol

Yn aml, darperir cymhorthion a chyfarpar drwy adran gwasanaethau cymdeithasol eich cyngor lleol. Gall Gwasanaeth Llygaid y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (GIG) mewn Ysbytai hefyd ragnodi amrywiaeth o gymhorthion i bobl sy'n rhannol ddall.

Mae gan bawb sy'n ddall neu'n rhannol ddall hawl i gael asesiad iechyd a gofal cymdeithasol gan eu cyngor lleol. Mae hyn yn golygu y bydd rhywun o'r gwasanaethau cymdeithasol yn asesu eich anghenion i sicrhau y cewch y cyfarpar a'r gwasanaethau sy'n iawn i chi.

Gall eich adran gwasanaethau cymdeithasol leol eich rhoi mewn cysylltiad â gweithiwr adsefydlu a all eich helpu i ddysgu ffyrdd newydd o reoli tasgau bob dydd.

Gall gweithwyr adsefydlu hefyd eich dysgu sut i symud o gwmpas yn ddiogel a sut i gyfathrebu'n haws - er enghraifft, drwy eich dysgu i deipio neu ddefnyddio cymhorthion ysgrifennu a meddalwedd cyfathrebu.

Cyfarpar syml i wneud bywyd yn haws

Offer a dyfeisiau

Mae amrywiaeth eang o offer a theclynnau ar gael i'w gwneud yn haws i bobl ddall a rhannol ddall reoli tasgau'r cartref. Dyma rai enghreifftiau:

  • dyfeisiau sy'n rhoi gwybod i chi pan fydd pot o hylif yn dechrau berwi
  • dyfeisiau sy'n gwneud sŵn pan fydd cwpan neu gynhwysydd rydych chi'n tywallt hylif iddo bron yn llawn
  • cyllyll â chyfeirydd y gellir ei addasu i'ch helpu i dorri tafellau o'r un trwch
  • clociau larwm a watshis cyffwrdd

Gallwch brynu eitemau sydd wedi'u dylunio'n benodol ar gyfer pobol ddall a phobl â nam ar eu golwg, a chael cyngor am gyfarpar arbenigol gan rai elusennau a mudiadau eraill, gan gynnwys Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol y Deillion (RNIB).

Ffonau a thechnoleg hwylus

Mae'r cynhyrchion cyfrifiadurol a'r systemau ffôn sy'n arbennig o ddefnyddiol i bobl ddall a phobl gyda nam ar eu golwg yn cynnwys y canlynol:

  • ffonau symudol â botymau teimladwy â bylchau rhyngddynt, a nodwedd i ddarllen negeseuon testun ar goedd
  • ffonau gyda bysellbad mawr iawn mewn gwahanol liwiau
  • teclynnau darllen sgrin cyfrifiadur
  • meddalwedd chwyddhau

Cyfarpar a gwasanaethau ar gyfer ymlacio yn y cartref

Does dim rhaid i golli eich golwg olygu na allwch fwynhau'r teledu, llyfrau a chyfryngau printiedig eraill megis papurau newydd a chylchgronau. Dyma rai cynhyrchion a allai fod yn ddefnyddiol:

  • llyfrau a phapurau newydd sy'n siarad
  • Llyfrau a chylchgronau Braille, Moon a phrint bras
  • disgrifiadau sain ar gyfer y teledu
  • chwyddhaduron ar gyfer sgriniau teledu

Os ydych wedi'ch cofrestru'n ddall gyda'ch cyngor lleol, mae gennych hawl i gael gostyngiad o 50 y cant ar eich trwydded deledu.

Allweddumynediad llywodraeth y DU