Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Iau, 4 Hydref 2012

Cynnyrch technoleg hwylus

Gall cyfarpar arbenigol neu gyfarpar wedi'i addasu hwyluso'r defnydd o gyfrifiaduron. Gall hyn fod gartref, yn y gwaith, yn yr ysgol, yn y coleg neu yn y brifysgol.

Mae nifer o wahanol fathau o gyfarpar ar gael; dim ond ychydig o syniadau a geir isod.

Os ydych chi'n ddall neu â nam ar eich golwg

Mae gwahanol fathau o ddarllenwyr sgrîn cyfrifiadurol ar gael. Mae rhai yn rhoi gwybod i chi, trwy lais synthetig, yr hyn yr ydych yn ei deipio. Mae eraill yn darllen beth sydd ar dudalen we. Mae darllenwyr ar gael hefyd gyda dyfais allbwn Braille.

Mae meddalwedd chwyddo yn chwyddo rhan neilltuol o sgrîn cyfrifiadur.

Gall systemau camera cylch cyfyng chwyddo testun a phrint ac wedyn arddangos fersiwn wedi'i chwyddo ar sgrîn cyfrifiadur neu ar deledu. Ceir hefyd fersiynau cludadwy 'arunig' lle nad oes angen teledu na chyfrifiadur.

Gellir gosod sticeri ar fysellau bysellfwrdd safonol sydd naill ai'n cyflwyno'r llythrennau a'r rhifau ar ffurf Braille, neu'n cynyddu maint y nodau.

Os oes gennych chi anabledd corfforol

  • gall bysellfwrdd mwy ar eich cyfrifiadur helpu os oes gennych anawsterau o ran deheurwydd
  • mae dyfeisiau ar gael yn lle bysellfyrddau ond sy'n llai a does dim angen cymaint o ymdrech i wasgu'r allweddau
  • mae 'bysellfwrdd ar-y-sgrîn' yn golygu mai dim ond llygoden sydd ei hangen ar y defnyddiwr i ddewis nodau ar y sgrîn
  • yn lle llygoden safonol gellir defnyddio ffyn rheoli neu beli tracio a all fod yn haws eu rheoli a'u defnyddio
  • mae pwyntyddion a ffyn ar gael y gellir eu cysylltu i'r pen a'u defnyddio i wasgu bysellau ar fysellfwrdd
  • fel gyda ffonau symudol, gall testun rhagfynegi helpu i gyflymu'r gyfradd deipio - ar ôl teipio dwy neu dair llythyren, mae'r defnyddiwr yn cael nifer o eiriau i ddewis o'u plith

Os oes gennych chi anhawster dysgu

Mae bysellfyrddau wedi'u symleiddio ar gael sydd, er enghraifft, yn cynnwys llythrennau'r wyddor yn unig. Gall y llythrennau hefyd fod mewn llythrennau bach. Mae gan fysellfyrddau eraill fysellau mwy neu fysellau lliw.

Gellir cael meddalwedd sy'n cyflwyno gwybodaeth yn symlach ar y sgrîn. Hefyd, gellir cael seiniau, lleisiau a cherddoriaeth wrth ichi gwblhau gweithredoedd a thasgau penodol

Gall meddalwedd arall helpu i ddatblygu sgiliau dysgu yn cynnwys llythrennedd, rhifedd, cerddoriaeth a gemau

Cymorth a chyngor gan elusennau

Mae rhai elusennau a mudiadau gwirfoddol yn rhoi cyngor defnyddiol am sut i wneud cyfrifiaduron a thechnoleg gwybodaeth (TG) yn haws eu defnyddio ar gyfer pobl ag anableddau penodol. Maent hefyd yn darparu gwybodaeth am y mathau o dechnoleg gynorthwyol y gallwch eu prynu.

Mae rhai mudiadau'n rhedeg cynlluniau sy'n helpu pobl gydag anableddau i gael y manteision gorau posibl o dechnoleg. Gall y rhain gynnwys:

  • darparu offer cyfrifiadurol am ddim neu ar fenthyg
  • hyfforddi pobl i osod a defnyddio cyfarpar

Mae rhai mudiadau'n cynnig hyfforddiant TG mwy ffurfiol i wella cyfleoedd pobl anabl o ran gyrfa.

Cymorth gan y llywodraeth

Yn dibynnu ar eich amgylchiadau, mae cynlluniau'r llywodraeth yn cynnig arian a chefnogaeth ar gyfer cael gafael ar dechnoleg neu ar gyfer addasu technoleg.

Eithriadau rhag TAW ar nwyddau a gwasanaethau i bobl anabl

Does dim rhaid i bobl anabl dalu TAW wrth iddyn nhw brynu cyfarpar sydd wedi'i gynllunio ar gyfer eu defnydd hwy yn unig neu pan fyddan nhw'n cael addasu cyfarpar ar eu cyfer. Mae hyn yn cynnwys caledwedd a meddalwedd y cyfrifiadur

Os yw'r feddalwedd neu galedwedd cyfrifiadurol yn arf i'ch helpu chi i oresgyn nawsterau cyfathrebu sy'n gysylltiedig â'ch anabledd, ac i'w ddefnyddio gennych gartref (yn hytrach nag yn y gwaith), efallai na fydd yn rhaid ichi dalu TAW wrth ei brynu, neu pan fydd yn cael ei drwsio neu ei wasanaethu.

Addysg a chymorth ariannol

Mae'r rhan fwyaf o ysgolion yn cynnig cyngor am dechnoleg ac efallai fod offer arbenigol ar gael ar eich cyfer.

Os ydych mewn addysg uwch, efallai eich bod yn gymwys i dderbyn Lwfansau Myfyrwyr Anabl. Ymysg pethau eraill, gall y lwfansau hyn eich helpu i dalu am offer a meddalwedd os oes eu hangen arnoch i astudio.

Mynediad at Waith

Cynllun gwaith yw Mynediad at Waith sy'n cynnig cefnogaeth ymarferol i bobl anabl a'u cyflogwyr i'w helpu i oresgyn problemau yn y gwaith. Gall gynnwys helpu i dalu am gyfarpar arbennig ar gyfer gweithiwr anabl.

Yn yr adran hon...

Allweddumynediad llywodraeth y DU