Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Mynediad at Waith - cymorth ymarferol yn y gwaith

Gall Mynediad at Waith eich helpu os yw eich iechyd neu'ch anabledd yn effeithio ar y ffordd yr ydych yn gwneud eich gwaith. Mae'n rhoi cyngor a chefnogaeth i chi a'ch cyflogwr gyda chostau ychwanegol a allai godi o ganlyniad i'ch anghenion.

Ynghylch Mynediad at Waith

Efallai y gall Mynediad at Waith dalu am yr offer sydd eu hangen arnoch i weithio, am addasu safleoedd i ddiwallu eich anghenion, neu am weithiwr cefnogi. Gall hefyd dalu at gostau cyrraedd eich gwaith os na allwch ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus.

Os bydd angen cyfathrebwr arnoch mewn cyfweliadau am swyddi, gall Mynediad i Waith helpu gyda hyn hefyd.

Pwy all gael Mynediad at Waith

Mae'n bosib y gallwch gael Mynediad at Waith os ydych:

  • mewn swydd gyflogedig
  • yn ddi-waith ac ar fin dechrau gweithio
  • yn dd-waith ac ar fin dechrau Treial Gwaith
  • os ydych chi'n hunangyflogedig

a bod eich anabledd neu gyflwr eich iechyd yn eich rhwystro rhag gallu gwneud rhannau o'ch swydd.

Efallai nad yw eich anabledd neu gyflwr eich iechyd yn cael cryn effaith ar yr hyn rydych yn ei wneud bob dydd, ond ei fod yn cael effaith hirdymor ar ba mor dda y gallwch wneud eich gwaith.

Sut mae cysylltu â Mynediad at Waith

Os teimlwch fod y math o waith yr ydych yn ei wneud yn cael ei effeithio gan anabledd neu gyflwr iechyd sy'n debygol o bara am 12 mis neu fwy, cysylltwch â'ch canolfan Mynediad at Waith ranbarthol i holi a allwch gael help.

Fel arall, holwch yr Ymgynghorydd Cyflogaeth i Bobl Anabl yn eich swyddfa Canolfan Byd Gwaith leol am Fynediad at Waith.

Cael help - y broses

Os ydych yn debygol o fod yn gymwys i gael Mynediad at Waith, anfonir ffurflen gais atoch i'w llenwi a'i dychwelyd.

Pan gaiff y ffurflen wedi'i llenwi ei dychwelyd, bydd ymgynghorydd Mynediad at Waith yn cysylltu â chi. Fel arfer bydd yr ymgynghorwr yn siarad â chi a'ch cyflogwr er mwyn dod i benderfyniad ynghylch y gefnogaeth orau ar eich cyfer. Yn y rhan fwyaf o achosion, gellir gwneud hyn dros y ffôn, ond gellir trefnu cyfarfod os oes raid.

Weithiau, efallai y bydd angen cyngor arbenigol, a bydd yr ymgynghorydd Mynediad at Waith yn helpu i drefnu hyn. Er enghraifft, efallai y bydd eich ymgynghorydd yn trefnu i fudiad arbenigol gynnal asesiad ac argymell cefnogaeth briodol.

Yn yr achos hwn, anfonir adroddiad ysgrifenedig a chyfrinachol at yr ymgynghorydd Mynediad at Waith, a fydd yn defnyddio'r wybodaeth hon i'w helpu i benderfynu ar y lefel gefnogaeth briodol.

Cyfrifoldebau eich cyflogwr

Unwaith i'ch ymgynghorydd benderfynu ar y pecyn cefnogaeth y teimla sy'n briodol, bydd yn gofyn i'r Ganolfan Byd Gwaith gymeradwyo'i argymhellion yn ffurfiol. Byddwch chi a'ch cyflogwr wedyn yn derbyn llythyr yn eich hysbysu o'r gefnogaeth sydd wedi'i chymeradwyo ar eich cyfer a'r grant sydd ar gael.

Cyfrifoldeb eich cyflogwr - neu'ch cyfrifoldeb chi os ydych yn hunangyflogedig - yw trefnu'r gefnogaeth y cytunwyd arni a phrynu'r cyfarpar angenrheidiol. Yna gall eich cyflogwr hawlio ad-daliad o'r costau cymeradwy gan Mynediad at Waith.

Eich grant Mynediad at Waith

Bydd faint o gymorth y gallwch ei dderbyn gan Fynediad at Waith yn amrywio yn dibynnu ar ba gymorth sydd ei angen arnoch, ers pryd yr ydych chi wedi bod yn gweithio ac a ydych chi'n hunangyflogedig.

Gall Mynediad at Waith dalu hyd at 100 y cant o'r costau cymeradwy:

  • os ydych chi'n ddi-waith ac yn cychwyn swydd newydd
  • os ydych chi'n hunangyflogedig
  • os ydych chi'n gweithio i gyflogwr ac wedi bod yn gwneud y gwaith am lai na chwe wythnos

Beth bynnag yw'ch statws cyflogaeth, bydd Mynediad at Waith hefyd yn talu hyd at 100 y cant o'r costau a gymeradwyir ar gyfer cymorth gyda'r canlynol:

  • gweithwyr cefnogi
  • costau mynd yn ôl ac ymlaen i’r gwaith
  • cefnogaeth cyfathrebwr mewn cyfweliad

Bydd Mynediad at Waith yn talu cyfran o'r costau cefnogi os yw bob un o'r canlynol yn berthnasol i chi:

  • rydych yn gweithio i gyflogwr
  • rydych wedi bod yn gwneud y swydd ers chwe wythnos neu fwy
  • os oes angen cyfarpar arbennig arnoch neu addasiadau i adeiladau

Bydd yr ymgynghorydd Mynediad at Waith yn cytuno ar union lefel y rhannu costau gyda'ch cyflogwr.

Ar ôl blwyddyn neu ddwy, bydd Mynediad at Waith yn adolygu eich amgylchiadau a'r gefnogaeth a gewch.

Allweddumynediad llywodraeth y DU