Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Hyfforddiant preswyl ar gyfer oedolion anabl

Rhaglen sy'n helpu pobl anabl sy'n ddi-waith yn y tymor hir i gael swydd a'i chadw neu hunangyflogaeth yw hyfforddiant preswyl ar gyfer oedolion anabl.

Darperir y rhaglen pan nad oes rhaglenni eraill addas ar gael yn lleol.

Cynhelir yr hyfforddiant mewn lleoliad preswyl mewn adeiladau hwylus. Dysgir y cyrsiau gan staff gyda gwybodaeth arbenigol am faterion anabledd.

Mae'r rhaglenni'n cael eu teilwra i helpu hyfforddeion i gael swydd trwy gyfuniad o arweiniad, profiad gwaith, hyfforddiant galwedigaethol (mewn gwaith) a chymwysterau cymeradwy.

Pwy sy'n gymwys

Bydd hyfforddiant preswyl ar gyfer oedolion anabl yn eich helpu:

  • os ydych yn breswyliwr DU
  • os oes gennych anabledd synhwyraidd neu gorfforol, neu anhawster dysgu
  • os ydych chi yn 18 neu drosodd
  • os na allwch gael gafael ar hyfforddiant lleol addas
  • os ydych yn ddi-waith a bod y potensial gennych i weithio, gan gynnwys gwaith gyda chefnogaeth

Byddwch yn derbyn lwfans yn ystod eich hyfforddiant. Bydd eich costau preswyl, a all gynnwys rhywfaint o gostau teithio hefyd, yn cael eu talu gan yr Uned Hyfforddiant Preswyl.

Mathau o gyrsiau

Mae'r cyrsiau'n amrywio o goleg i goleg, gyda thros 50 o gyrsiau hyfforddiant galwedigaethol ar gael drwy'r rhaglen. Mae llawer yn arwain at Gymwysterau Galwedigaethol Cenedlaethol (NVQs). Dyma ddetholiad ohonynt:

  • gweinyddiaeth
  • technegydd clyweledol
  • swyddi yn y maes adeiladu
  • arlwyo
  • peirianwyr beiciau
  • addurno
  • electroneg
  • peirianneg
  • garddwriaeth
  • technoleg gwybodaeth
  • hamdden/twristiaeth/teithio
  • stiwdio recordio
  • adwerthu
  • teleweithio
  • ailorffen cerbydau

Bydd hyd y cyrsiau'n amrywio yn ôl eich anghenion, ond ni fyddant yn hwy na 52 wythnos. Mae rhai rhaglenni hyfforddiant yn benodol ar gyfer pobl â nam ar eu clyw neu ar eu golwg.

Ble y cynhelir y cyrsiau

Ceir 9 o ddarparwyr cyrsiau arbenigol ar draws Lloegr. Does dim darparwyr yng Nghymru na’r Alban, ond os ydych chi’n gymwys cewch fynychu cwrs yn Lloegr, ble bynnag yr ydych yn byw.

Sut i wneud cais

I wneud cais am hyfforddiant preswyl, dylech gysylltu â'ch Ymgynghorydd Cyflogaeth i Bobl Anabl yn eich Canolfan Gwaith leol. Byddant hwythau wedyn yn edrych ar yr opsiynau sydd ar gael i chi. Gallant hefyd roi gwybodaeth i chi am fudd-daliadau y gallech eu derbyn yn ystod y rhaglen.

Sut i gael gwybod mwy

Gallwch gael rhagor o wybodaeth am hyfforddiant preswyl drwy gysylltu â:

Residential Training Unit, Government Office For The North East, Citygate, Gallowgate, Newcastle upon Tyne, NE1 4WH

Ffôn: 0191 202 3579

Minicom : 0191 202 3515

E-bost: rtu@gone.gsi.gov.uk

Allweddumynediad llywodraeth y DU