Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Os oes angen cymorth cyflogaeth ychwanegol arnoch oherwydd anabledd, gall eich Canolfan gwaith lleol eich cyfeirio at un o’i Gynghorwyr Cyflogaeth i Bobl Anabl.
Gall Cynghorwyr Cyflogaeth i Bobl Anabl (DEAs) roi cymorth a chefnogaeth i chi beth bynnag yw'ch sefyllfa. Gallant eich helpu i ddod o hyd i waith neu feithrin sgiliau newydd hyd yn oed os ydych wedi bod yn ddi-waith am gyfnod hir, os mai ychydig o brofiad o waith sydd gennych, neu os nad oes gennych brofiad o waith o gwbl.
Gall Cynghorydd Cyflogaeth i Bobl Anabl gynnig y canlynol ichi:
Gall asesiad cyflogaeth eich helpu i nodi eich galluoedd a'ch cryfderau. Ar ei ddiwedd, byddwch chi a'r Cynghorydd wedi llunio cynllun gweithredu o gamau y gallwch eu cymryd i gyflawni eich nodau o ran cyflogaeth.
Bydd eich asesiad cyflogaeth fel arfer yn cael ei gynnal yn eich canolfan waith leol. Byddwch yn cael cyfweliad gyda'ch Cynghorydd, a fydd yn gyfle i'r ddau ohonoch wneud y canlynol:
Fel rhan o'r asesiad, efallai y gofynnir ichi wneud rhai tasgau ymarferol a gwaith ysgrifenedig. Bydd y tasgau hyn yn debyg i dasgau cyffredin a wneir mewn gwahanol fathau o waith.
Gall yr asesiad bara hanner diwrnod neu fwy, yn dibynnu ar eich anghenion unigol chi. Bydd y Cynghorydd yn trafod hyd eich asesiad gyda chi ymlaen llaw.
Byddwch chi a'ch Cynghorydd yn trafod eich asesiad ac yn cytuno ar gynllun gweithredu i'ch helpu chi gyflawni eich nodau o ran swydd. Gall eich cynllun gweithredu gynnwys hyfforddiant neu gymryd rhan yn y rhaglen 'Paratoi at Waith'.
Ni fydd asesiad cyflogaeth yn effeithio ar eich budd-daliadau. Gallwch hawlio costau teithio am fynd i gael asesiad.