Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Help i chwilio am waith

Gallwch gael help i ennill sgiliau newydd, i ddod o hyd i waith neu i aros mewn gwaith gan amrywiaeth o sefydliadau, gan gynnwys Canolfannau Gwaith, gwasanaethau gyrfaoedd a mudiadau gwirfoddol.

Canolfannau gwaith

Y Ganolfan Byd Gwaith sy'n gyfrifol am y rhwydwaith cenedlaethol o Ganolfannau Gwaith. Mae'r rhain yn rhoi cyngor gofalus ar bob cam wrth i chi chwilio am swydd ac yn gwneud yn siŵr eich bod yn gwybod pa fudd-daliadau neu lwfansau y gallwch eu hawlio. Gallant eich cefnogi hefyd os ydych yn pryderu am effaith eich anabledd ar eich swydd bresennol.

Gall eich Canolfan Waith leol eich helpu a'ch cefnogi beth bynnag yw eich sefyllfa - hyd yn oed os nad oes gennych unrhyw brofiad gwaith neu heb weithio ers amser maith.

Cynghorwyr Cyflogaeth i Bobl Anabl

Efallai y byddwch chi a'ch ymgynghorydd o'r Ganolfan Byd Gwaith yn penderfynu y byddai rhagor o gyngor a help arbenigol yn syniad da. Gallant wedyn drefnu i chi gael cyfweliad gydag Ymgynghorydd Cyflogaeth i Bobl Anabl.

Byddant yn cael gwybod am eich galluoedd a'r math o waith a fyddai'n addas i chi, ac wedyn yn llunio cynllun gweithredu gyda chi er mwyn eich helpu i gael swydd neu i fynd ar gwrs hyfforddi.

Cynghorwyr ar gyfer y bobl sy'n hawlio budd-dal analluogrwydd

Mae gan y rhan fwyaf o Ganolfannau Gwaith gynghorwr arbenigol a all eich cefnogi os ydych chi'n hawlio budd-dal analluogrwydd neu eich atgyfeirio at fwy o gymorth arbenigol.

Llwybrau at Waith

Os ydych chi'n hawlio budd-dal analluogrwydd am y tro cyntaf, neu'n hawlio eto ar ôl toriad oddi wrth dderbyn budd-dal, cewch eich ystyried yn awtomatig ar gyfer Llwybrau at Waith fel amod o dderbyn y budd-dal.

Wrth ddweud budd-dal analluogrwydd, rydym yn golygu:

  • Lwfans Cyflogaeth a Chymorth
  • Budd-dal Analluogrwydd
  • Cymhorthdal Incwm ar sail analluogrwydd
  • Cymhorthdal Incwm tra'ch bod yn apelio yn erbyn penderfyniad nad ydych yn analluog i weithio
  • Lwfans Anabledd Difrifol

Mae Llwybrau at Waith yn gallu helpu pobl sy'n hawlio budd-dal analluogrwydd i ddechrau gweithio, neu ddychwelyd i waith cyflogedig. Mae'r gwasanaeth yn cynnig cefnogaeth unigol a mynediad at wahanol fathau o gymorth.

Cynlluniau a rhaglenni gwaith

Os oes gennych chi anabledd sy'n effeithio ar y math o waith y gallwch ei wneud, efallai y byddwch yn gymwys i ymuno â rhai o'r llu rhaglenni sydd ar gael i bobl sydd wedi bod yn ddi-waith ers cryn amser.

Derbyn budd-daliadau anabledd a salwch tra'n gweithio

Lwfans Byw i’r Anabl

Mae Lwfans Byw i'r Anabl yn fudd-dal y gellir ei dalu os ydych mewn neu allan o waith neu mewn hyfforddiant, cyhyd ag y bo eich anghenion gofal neu eich anghenion symudedd yn cwrdd â’r amodau hawlio. Os ydych yn derbyn Lwfans Byw i'r Anabl ac ar fin dechrau gweithio neu yn ailddechrau gweithio, bydd eich Lwfans Byw i'r Anabl yn aros yr un fath cyn belled nad yw eich anghenion gofal ac/neu eich anghenion symudedd wedi newid.

Fodd bynnag, os ydych yn cychwyn neu yn dychwelyd i'r gwaith neu i hyfforddiant oherwydd bod eich anghenion gofal neu/ac eich anghenion symudedd wedi newid ac os nad ydych wedi egluro'r newid hwn wrth yr Adran Gwaith a Phensiynau, yna mae'n rhaid i chi eu hysbysu fel y gellir adolygu eich dyfarniad budd-dal ac, os yw'n angenrheidiol, gwneud penderfyniad newydd. Gallai hyn arwain at gynnydd neu at leihad yn y swm Lwfans Byw i'r Anabl y mae gennych chi'r hawl i'w gael.

Lwfans Cyflogaeth a Chymorth a Budd-dal Analluogrwydd - 'Gwaith a Ganiateir'

Os ydych yn derbyn Lwfans Cyflogaeth a Chymorth neu Fudd-dal Analluogrwydd, efallai y byddwch yn gallu gweithio rhywfaint. Gelwir hyn yn Waith a Ganiateir. Os ydych yn derbyn Lwfans Cyflogaeth a Chymorth neu Fudd-dal Analluogrwydd a chyflog, gallai hyn effeithio ar y budd-daliadau sy'n gysylltiedig ag incwm yr ydych yn eu derbyn megis Budd-dal Tai neu Fudd-dal Treth Gyngor.

Cyngor personol ar yrfaoedd a dysgu gan nextstep

Os ydych chi'n chwilio am gyngor personol am yrfaoedd a dysgu, cysylltwch â chynghorydd a threfnu i siarad wyneb yn wyneb. Beth bynnag yr ydych yn dymuno ei wneud, o newid swydd neu ddysgu rhywbeth newydd i ymestyn eich sgiliau, gallwch siarad yn gyfrinachol â chynghorydd, a chynllunio'ch cam nesaf.

Allweddumynediad llywodraeth y DU