Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Lwfans Byw i'r Anabl – eich amgylchiadau

Mae eich hawl i gael Lwfans Byw i’r Anabl a'r swm a gewch yn seiliedig ar yr wybodaeth a roddoch i'r Gwasanaeth Anabledd a Gofalwyr. Os bydd yr wybodaeth hon yn newid o gwbl, eich cyfrifoldeb chi yw dweud wrth y Gwasanaeth Anabledd a Gofalwyr. Fe allant edrych ar eich hawl i gael Lwfans Byw i’r Anabl a faint y dylech chi ei gael.

Beth i’w wneud os mae’ch amgylchiadau yn newid

Rhoi gwybod am newid mewn amgylchiadau

Eich cyfrifoldeb chi yw dweud wrth y Gwasanaeth Pensiwn, Anabledd a Gofalwyr am unrhyw newidiadau. Efallai y bydd eich budd-dal yn parhau ar yr un raddfa, yn lleihau, yn cynyddu neu’n dod i ben, gan ddibynnu ar beth sydd wedi newid.

Os ydych chi'n hawlio Lwfans Byw i’r Anabl ar ran rhywun arall, eich cyfrifoldeb chi yw dweud wrth y Gwasanaeth Pensiwn, Anabledd a Gofalwyr am unrhyw newidiadau.

Os bydd y Gwasanaeth Pensiwn, Anabledd a Gofalwyr yn talu gormod i chi, fel arfer bydd rhaid i chi dalu’r arian yn ôl. Os na fyddwch chi'n dweud wrthynt fod eich amgylchiadau wedi newid, fe allech chi gael eich erlyn.

I roi gwybod am newid mewn amgylchiadau, cysylltwch â’r Llinell gymorth Budd-daliadau Anabledd.

Newidiadau y mae angen i chi roi gwybod i’r Gwasanaeth Anabledd a Gofalwyr amdanynt

Eich anabledd neu’ch cyflwr meddygol

Nid yw Lwfans Byw i’r Anabl yn seiliedig ar eich anabledd ond ar yr anghenion sy’n deillio ohono. Felly hyd yn oed os na fydd eich anabledd yn newid, efallai y bydd eich anghenion a’ch gallu i ymdopi yn newid. Efallai eich bod:

  • wedi newid eich meddyginiaeth
  • angen mwy neu lai o gymorth i gyflawni tasgau bob dydd
  • yn cael trafferth cerdded neu ei bod yn cymryd mwy o amser i chi gerdded yr un pellter

Dyma enghreifftiau o newidiadau mewn amgylchiadau:

  • trefniadau gofal – rydych chi neu rywun rydych yn hawlio ar ei gyfer yn mynd i’r ysbyty neu i gartref gofal
  • eich cyflwr – gallai llawdriniaeth, megis cael clun newydd, ei gwneud yn haws i chi gerdded
  • meddyginiaeth – gallai meddyginiaeth fwy effeithiol eich galluogi i fynd allan o’r tŷ heb oruchwyliaeth
  • cymhorthion symudedd – yn sgil cael coes ffug, efallai eich bod nawr yn gallu cerdded heb i hynny achosi llawer o boen nac annifyrrwch i chi
  • anghenion gofal personol – efallai eich bod nawr angen help lawer gwaith yn ystod y nos i godi o'r gwely ac i fynd i'r toiled

Efallai mai newidiadau graddol yw'r rhain, felly gall fod yn anodd nodi'r union ddyddiad y daeth y newidiadau hyn i’r amlwg. Os ydych chi’n ansicr a yw’r newid yn effeithio ar eich budd-dal, eich cyfrifoldeb chi yw cysylltu â’r Gwasanaeth Anabledd a Gofalwyr i gael gwybod.

Ysbytai’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (GIG)

Bydd angen i chi ddweud wrth y Gwasanaeth Pensiwn, Anabledd a Gofalwyr os byddwch chi’n mynd i un o ysbytai’r GIG neu’n gadael ysbyty o’r fath.

Cartrefi gofal

Mae angen i chi ddweud wrth y Gwasanaeth Pensiynau, Anabledd a Gofalwyr os byddwch chi’n mynd i gartref gofal neu’n gadael cartref gofal.

Mynd i ymweld neu i fyw dramor

Os ydych chi’n bwriadu mynd i fyw dramor yn barhaol, ni allwch gael Lwfans Byw i'r Anabl fel arfer.

Os byddwch chi’n symud i wlad arall yn yr Ardal Economaidd Ewropeaidd (AEE) neu'r Swistir, efallai y byddwch yn dal i'w gael dan rai amgylchiadau. Rhaid eich bod eisoes yn cael elfen ofal Lwfans Byw i'r Anabl.

Os mai dros dro y byddwch chi’n ymweld â gwlad dramor, efallai y gallwch barhau i gael Lwfans Byw i'r Anabl, ar yr amod nad ydych yn absennol o Brydain Fawr am hwy na 26 wythnos (mae hyn yn cynnwys mynd ar wyliau).

Byw ym Mhrydain Fawr

I gael Lwfans Byw i'r Anabl, gan amlaf mae’n rhaid eich bod:

  • fel arfer yn byw ym Mhrydain Fawr (Cymru, Lloegr neu'r Alban)
  • ym Mhrydain Fawr pan fyddwch yn hawlio
  • wedi bod ym Mhrydain Fawr, Gogledd Iwerddon, Ynys Manaw, Jersey neu Guernsey am o leiaf 26 wythnos yn y 52 wythnos diwethaf (13 wythnos yw'r cyfnod i fabanod dan chwe mis oed ac nid yw'n berthnasol o gwbl i bobl sy'n cael eu talu dan y rheolau arbennig)
  • dim yn gaeth i reoliadau mewnfudo

Nid yw rheoliadau mewnfudo yn eich atal rhag cael Lwfans Byw i’r Anabl os ydych:

  • yn aelod o deulu dinesydd un o wledydd yr Ardal Economaidd Ewropeaidd
  • yn gweithio ym Mhrydain Fawr fel un o ddinasyddion gwlad a chanddi gytundeb triniaeth gydradd â'r Undeb Ewropeaidd – sef Twrci, Morocco, Algeria, Tunisia a San Marino
  • yn byw gydag un o’r gweithwyr hyn fel aelod o’i deulu
  • yn berson sydd wedi cael dod i’r DU, neu aros yn y DU, gan fod rhywun wedi cytuno i fod yn gyfrifol am eich cynhaliaeth a’ch llety

Gellir eich trin fel rhywun sydd ym Mhrydain Fawr os ydych:

  • yn aelod o Luoedd Arfog EM sy'n gwasanaethu dramor, neu'n aelod o'i deulu
  • yn forwr neu'n awyrennwr sifil sy'n gweithio dramor
  • yn gweithio ar sector y Deyrnas Unedig o'r silff gyfandirol – er enghraifft, ar rig olew

Byw mewn gwlad arall yn Ewrop

Darllenwch 'Hawlio budd-daliadau anabledd os ydych chi'n byw mewn gwlad arall yn Ewrop' i gael gwybod a allwch chi gael Lwfans Byw i'r Anabl tra byddwch chi’n byw dramor.

Allweddumynediad llywodraeth y DU