Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Taliad Annibyniaeth Bersonol

O fis Ebrill 2013 bydd budd-dal newydd, Taliad Annibyniaeth Bersonol, yn disodli'r Lwfans Byw i'r Anabl (DLA) ar gyfer pobl anabl rhwng 16 a 64 oed. Mae Taliad Annibyniaeth Bersonol yn daliad heb brawf modd, di-dreth y gallwch ei wario fel y byddwch yn dewis. Gallwch gael gwybod mwy, gan gynnwys beth fydd yn digwydd os ydych yn cael Lwfans Byw i'r Anabl ar hyn o bryd.

Taliad Annibyniaeth Bersonol – beth ydyw

Mae’r Taliad Annibyniaeth Bersonol ar gyfer pobl anabl rhwng 16 a 64 oed (a elwir yn oedran gweithio) sy’n gwneud cais am y tro cyntaf.

Nid yw eich hawl i gael Taliad Annibyniaeth Bersonol yn seiliedig ar eich anabledd, ond yr help y gallai fod ei angen arnoch oherwydd eich cyflwr neu’ch anabledd. Caiff eich amgylchiadau Bersonol eu hystyried a'r effaith y mae eich cyflwr neu eich anabledd yn ei gael ar eich gallu i fyw'n annibynnol.

Nid yw'r taliad ar sail prawf modd, felly ni fydd eich incwm a'ch cynilion yn effeithio ar eich hawl i gael Taliad Annibyniaeth Bersonol. Gallwch ei hawlio os ydych mewn gwaith neu’n ddi-waith.

Mae'r taliad yn ddi-dreth a chi sy’n dewis sut i’w wario.

Os ydych yn cael Lwfans Byw i'r Anabl ar hyn o bryd

O dan 16 oed

Nid oes unrhyw newid ar gyfer Lwfans Byw i'r Anabl ar gyfer plant hyd at 16 mlwydd oed - bydd hwn yn parhau.

Rhwng 16 a 64 oed

O 2013 i 2016, bydd Taliad Annibyniaeth Bersonol yn disodli'r Lwfans Byw i'r Anabl ar gyfer pawb o oedran gweithio hyd yn oed os oes gennych ddyfarniad amhenodol neu gydol oes. Mae oedran gweithio yn golygu unrhyw un rhwng 16 a 64 oed ar ddiwrnod cyflwyno’r Taliad Annibyniaeth Bersonol. Bydd angen i chi wneud cais am Daliad Annibyniaeth Bersonol yn lle hynny. Bydd yr Adran Gwaith a Phensiynau yn ysgrifennu atoch rhwng 2013 a 2016 i roi gwybod i chi pryd y gallwch hawlio Taliad Annibyniaeth Bersonol.

Nid oes angen i chi wneud unrhyw beth nawr, bydd yr Adran Gwaith a Phensiynau yn cysylltu â chi i roi gwybod i chi pryd y bydd eich Lwfans Byw i'r Anabl yn dod i ben. Byddant yn dweud wrthych pryd a sut y dylech wneud cais am Daliad Annibyniaeth Bersonol.

Nid oes hawl awtomatig i gael Taliad Annibyniaeth Bersonol. Mae cymhwysedd yn seiliedig ar eich amgylchiadau Bersonol a’r effaith y mae eich cyflwr neu’ch anabledd yn ei gael ar eich gallu i fyw'n annibynnol. Ni fydd hawl yn dibynnu ar ba gyflwr iechyd neu anabledd sydd gennych.

Yr unig eithriad yw pobl sy'n derfynol sâl na ddisgwylir iddynt fyw am fwy na chwe mis.

65 oed neu drosodd

Os ydych yn 65 oed neu’n hŷn ar ddiwrnod cyflwyno’r Taliad Annibyniaeth Bersonol, byddwch yn parhau i gael eich Lwfans Byw i'r Anabl. Bydd angen i chi barhau i fodloni'r amodau hawlio. Ni fydd angen i chi wneud cais am Daliad Annibyniaeth Bersonol.

Pam mae’r Taliad Annibyniaeth Bersonol yn disodli'r Lwfans Byw i'r Anabl

Bydd y broses o ddisodli’r Lwfans Byw i'r Anabl gyda Thaliad Annibyniaeth Bersonol yn golygu y bydd pawb yn cael y gefnogaeth gywir i fyw bywydau annibynnol. Bydd Taliad Annibyniaeth Bersonol yn ystyried effaith anabledd mewn ffordd well nag y mae’r Lwfans Byw i'r Anabl yn ei wneud, gan ystyried yr holl amodau yn deg.

Mae hyn yn golygu y bydd pobl â phroblemau iechyd meddwl, deallusol, gwybyddol a namau datblygiadol yn cael eu hasesu’n well - ynghyd â phobl sydd ag anableddau corfforol. Bydd effaith eu hamodau hefyd yn cael eu hystyried mewn ffordd decach.

Mae'r budd-dal newydd hefyd yn caniatáu i bobl anabl gael eu hailasesu dros gyfnod o amser er mwyn sicrhau bod pawb yn cael y cymorth iawn os bydd eu hanghenion yn newid.

Rhagor o wybodaeth

Gallwch ddod o hyd i wybodaeth gyffredinol am Daliad Annibyniaeth Bersonol ar wefan yr Adran Gwaith a Phensiynau.

Gallwch lawrlwytho taflen cwestiynau cyffredin sy'n cynnwys gwybodaeth am Daliad Annibyniaeth Bersonol.

Allweddumynediad llywodraeth y DU