Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Budd-dal Analluogrwydd

Os nad oeddech yn gallu gweithio oherwydd salwch neu anabledd cyn 31 Ionawr 2011 efallai rydych yn cael Budd-dal Analluogrwydd. Ers 31 Ionawr 2011, ni dderbyniwyd unrhyw gais newydd am Fudd-dal Analluogrwydd. Dylech wneud cais am Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn lle.

Newidiadau i fudd-daliadau os ydych yn sâl neu'n anabl

O 31 Ionawr 2011, ni all pobl gwneud ceisiadau newydd am Fudd-dal Analluogrwydd mwyach. Dylech wneud cais am Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn lle.

Newidiadau i bobl sydd eisoes yn hawlio budd-daliadau analluogrwydd

Caiff eich cais ei adolygu os ydych yn cael un o’r budd-daliadau canlynol:

  • Budd-dal Analluogrwydd
  • Cymhorthdal Incwm a delir oherwydd salwch neu anabledd
  • Lwfans Anabledd Difrifol

Bydd y Ganolfan Byd Gwaith yn ysgrifennu atoch pan fydd eich cais am fudd-dal yn mynd i gael ei adolygu. Ni chysylltir â phawb ar yr un pryd. Dechreuodd hyn ym mis Hydref 2010 a disgwylir iddo gael ei gwblhau yn 2014.

Hyd nes caiff eich cais ei adolygu byddwch yn parhau i gael eich budd-dal cyfredol, cyn belled â'ch bod yn parhau i fodloni'r amodau ar gyfer y budd-dal hwnnw.

Pan adolygir eich cais, bydd eich taliadau Budd-dal Analluogrwydd yn dod i ben. Byddwch yn cael eich talu Lwfans Cyflogaeth a Chymorth os byddwch yn bodloni'r amodau ar gyfer hawlio'r budd-dal hwnnw.

Ni fydd y newid hwn yn effeithio arnoch os ydych:

  • eisoes yn hawlio Lwfans Cyflogaeth a Chymorth
  • yn disgwyl cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth cyn 6 Ebrill 2014
  • eisoes dros oedran Pensiwn y Wladwriaeth ac yn cael Lwfans Anabledd Difrifol

Defnyddiwch y ddolen ganlynol i gael gwybod mwy am sut y bydd eich cais yn cael ei adolygu.

Sut mae'n gweithio

Mae Budd-dal Analluogrwydd yn cael ei dalu yn ôl tair cyfradd wythnosol:

  • telir Budd-dal Analluogrwydd tymor byr (is) am yr 28 wythnos gyntaf
  • telir Budd-dal Analluogrwydd tymor byr (uwch) o wythnosau 29 i 52
  • telir Budd-dal Analluogrwydd hirdymor o wythnos 53 ymlaen

Faint fyddwch chi'n ei gael?

Y symiau wythnosol ar hyn o bryd

Cyfradd wythnosol Swm Swm os ydych dros oed Pensiwn y Wladwriaeth
tymor byr (cyfradd is) £74.80 £95.15
tymor byr (cyfradd uwch) £88.55 £99.15
cyfradd sylfaenol hirdymor £99.15 Nid ydych yn gymwys am gyfradd sylfaenol hirdymor Budd-dal Analluogrwydd

Efallai y gallwch gael budd-dal ychwanegol - 'ychwanegiad oedran' - gyda'r Budd-dal Analluogrwydd hirdymor. Mae’n bosib y gallwch gael hwn os oeddech o dan 45 oed pan aethoch yn rhy sâl neu'n rhy anabl i weithio.

Efallai y gallwch gael budd-dal ychwanegol ar gyfer eich partner, partner sifil neu'r person sy'n gofalu am eich plant.

Rheolau incwm pensiwn

Os oes gennych incwm o bensiwn gros o fwy na £85 yr wythnos, bydd y swm y budd-dal ei ostwng o hanner y swm dros ben.
Y sŵn ychwanegol yw'r gwahaniaeth rhwng £85 a'r incwm pensiwn gwirioneddol. Er enghraifft, ar gyfer incwm pensiwn o £100, y swm ychwanegol yw

£15. Mae swm y Budd-dal Analluogrwydd sy'n daladwy yn cael ei ostwng gan hanner o hynny, sef £7.50.

Eithriadau

Nid yw’r rheol hon yn briodol os:

  • oeddech yn cael Budd-dal Analluogrwydd cyn 6 Ebrill 2001
  • gwneir eich cais o dan y rheolau cysylltiol ar gyfer Budd-dal Analluogrwydd ac yn cysylltu yn ôl cyn 6 Ebrill 2001
  • cewch gyfradd uwch yr elfen ofal Lwfans Anabledd Difrifol

Sut mae Budd-dal Analluogrwydd yn

Caiff pob budd-dal, pensiwn a lwfans ei dalu i mewn i gyfrif. Dyma’r ffordd fwyaf diogel, cyfleus ac effeithlon o gael ei dalu.

Gweithio tra’n hawlio Budd-dal Analluogrwydd - 'Gwaith a Ganiateir'

Os ydych yn cael Budd-dal Analluogrwydd efallai y byddwch yn gallu gwneud rhai mathau o waith - o fewn terfynau. Gelwir hyn yn 'Gwaith a Ganiateir'. Ond os ydych yn cael Budd-dal Analluogrwydd a chyflog, gallai hyn effeithio ar unrhyw fudd-daliadau sy’n gysylltiedig ag incwm a gewch, fel:

  • Cymhorthdal Incwm
  • Budd-dal Tai
  • Budd-dal Treth Cyngor

Beth i'w wneud os bydd eich amgylchiadau'n newid

Mae'n bwysig eich bod yn cysylltu â'ch swyddfa Canolfan Byd Gwaith leol os bydd eich amgylchiadau'n newid - er enghraifft:

  • eich bod yn dechrau gweithio gan gynnwys gwaith gwirfoddol
  • eich bod yn dechrau hyfforddiant ac yn cael lwfans hyfforddi
  • eich bod yn newid eich cyfeiriad
  • eich bod wedi bod yn yr ysbyty am 52 wythnos a bod rhan o’ch budd-dal yn cael ei dalu am oedolyn neu blentyn arall
  • eich bod yn mynd dramor

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â’ch swyddfa Canolfan Byd Gwaith leol.

Sut i apelio

Gallwch ofyn i’r swyddfa a deliodd â’ch cais i edrych ar ei phenderfyniad budd-dal eto os:

  • gwrthodwyd eich cais am Fudd-dal Analluogrwydd
  • bod gennych gwestiynau am eich taliad

Os byddwch yn parhau i fod yn anfodlon gyda’r canlyniad, gallwch apelio.

Credydau treth a chymorth eraill

Efallai y gallwch gael Credyd Treth Plant os ydych chi'n gyfrifol am o leiaf un plentyn. Os ydych yn gweithio ac ar incwm isel, mae'n bosib y gallwch gael Credyd Treth Gwaith.

Gallwch archebu pecyn cais dros y ffôn drwy ffonio’r Llinell Cymorth Credyd Treth.

Allweddumynediad llywodraeth y DU