Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Mae Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn darparu cymorth ariannol i bobl nad ydynt yn gallu gweithio oherwydd salwch neu anabledd. Mae hefyd yn cynnig cymorth personol i’r rheini sy’n gallu gweithio. Yma cewch wybod mwy am Lwfans Cyflogaeth a Chymorth.
Mae Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn cynnig cymorth personol ac ariannol er mwyn i chi allu gwneud gwaith addas, os ydych yn gallu gwneud hynny.
Mae’n eich galluogi i gael ymgynghorydd personol wedi’i hyfforddi’n arbennig, ac amrywiaeth eang o wasanaethau eraill, gan gynnwys cymorth ym maes gwaith, hyfforddiant a rheoli cyflyrau. Bwriad hyn yw eich helpu i ymdopi â’ch salwch neu’ch anabledd yn y gwaith a’i reoli.
Mae asesiad meddygol, a elwir yn Asesiad Gallu i Weithio, yn rhan o Lwfans Cyflogaeth a Chymorth. Mae hyn yn asesu beth rydych chi'n gallu ei wneud, yn hytrach na beth nad ydych yn gallu ei wneud, ac yn nodi'r gefnogaeth y mae ei hangen arnoch o bosib o safbwynt iechyd.
Bydd disgwyl i’r rhan fwyaf o bobl sy’n hawlio Lwfans Cyflogaeth a Chymorth gymryd camau i baratoi ar gyfer gwaith. Mae hyn yn cynnwys mynychu cyfweliadau sy’n canolbwyntio ar waith gyda’u hymgynghorydd personol.
O dan Lwfans Cyflogaeth a Chymorth, os oes gennych salwch neu anabledd sy’n cael effaith andwyol ar eich gallu i weithio, cewch gymorth ariannol ychwanegol. Ni fydd disgwyl i chi baratoi i ddychwelyd i weithio. Gallwch wirfoddoli i wneud hynny unrhyw bryd, os ydych chi’n dymuno.
Gallech gael Lwfans Cyflogaeth a Chymorth os oes gennych salwch neu anabledd sy’n effeithio ar eich gallu i weithio. Cewch wybod pwy all gael Lwfans Cyflogaeth a Chymorth drwy ddefnyddio’r ddolen ganlynol.
Gallwch hawlio Lwfans Cyflogaeth a Chymorth mewn sawl ffordd. Y ffordd hawsaf a’r gyflymaf yw dros y ffôn neu drwy ddefnyddio ffôn testun. Cewch wybod sut mae hawlio Lwfans Cyflogaeth a Chymorth drwy ddefnyddio’r ddolen ganlynol.
Bydd y swm a delir i chi yn dibynnu ar eich amgylchiadau. Bydd hefyd yn dibynnu ar sut mae eich anabledd yn effeithio ar eich gallu i wneud unrhyw waith. Gallwch ddod o hyd i gyfraddau’r Lwfans Cyflogaeth a Chymorth drwy ddefnyddio’r ddolen ganlynol.
Ar gyfer ceisiadau newydd, mae Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn cynnwys dau gyfnod:
Mae’r cyfnod asesu yn para am 13 wythnos gyntaf eich cais. Yn ystod y cyfnod hwn, byddant yn dod i benderfyniad ynghylch eich gallu i weithio ar sail yr Asesiad Gallu i Weithio. Yn ystod y cyfnod hwn, bydd Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn cael ei dalu ar y gyfradd sylfaenol.
Bydd y prif gyfnod yn dechrau o wythnos 14 eich cais. Os yw’r Asesiad Gallu i Weithio yn dangos bod eich salwch neu’ch anabledd yn cyfyngu eich gallu i weithio, yn ystod y cyfnod hwn, bydd swm ychwanegol (a elwir yn elfen) yn cael ei dalu ar ben y gyfradd sylfaenol.
Ceir dau grŵp yn y prif gyfnod:
Os cewch eich rhoi yn y Grŵp Gweithgaredd sy’n Gysylltiedig â Gwaith, bydd disgwyl i chi gymryd rhan mewn cyfweliadau sy’n canolbwyntio ar waith gyda’ch ymgynghorydd personol. Byddwch yn cael cymorth i’ch helpu i baratoi at waith addas.
Yn gyfnewid am hyn, byddwch yn cael elfen gweithgaredd sy’n gysylltiedig â gwaith ar ben eich cyfradd sylfaenol.
Nid yw’n ofynnol i gwsmeriaid fynychu Cyfweliad sy'n Canolbwyntio ar Waith nes cadarnheir eu bod wedi'u rhoi yn y Grŵp Gweithgaredd sy'n Gysylltiedig â Gwaith.
Grŵp Cymorth
Os yw’ch salwch neu’ch anabledd yn effeithio'n ddifrifol ar eich gallu i weithio, ni fydd disgwyl i chi weithio. Ond, gallwch weithio o'ch gwirfodd os ydych yn dymuno.
Byddwch yn cael elfen gymorth ar ben eich cyfradd sylfaenol.
Byddwch yn cael gwybod p’un ai yn y Grŵp Cymorth neu’r Grŵp Gweithgaredd sy’n Gysylltiedig â Gwaith ydych chi ar ôl adolygu’ch cais i’r canlynol:
Gweler yr adran ‘Sut mae’n gweithio’ uchod i gael rhagor o wybodaeth.
Bydd eich budd-dal yn cael ei drosglwyddo’n awtomatig ac ni fydd toriad yn eich taliadau.
Os yw swm y budd-dal analluogrwydd rydych chi’n ei gael yn fwy na swm y Lwfans Cyflogaeth a Chymorth, cewch daliad ychwanegol. Ni fydd swm y budd-dal a gewch yn cynyddu nes bydd swm y Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn dal i fyny â swm y taliad ychwanegol.
Os yw swm y budd-dal analluogrwydd rydych chi’n ei gael yn llai na swm y Lwfans Cyflogaeth a Chymorth, cewch ragor o arian. Bydd y swm yn cynyddu cyn gynted ag y byddwch yn symud at Lwfans Cyflogaeth a Chymorth.
Mae'r llywodraeth wedi newid pa mor hir y gellir talu Lwfans Cyflogaeth a Chymorth i rai pobl. Cewch wybod mwy am y newidiadau arfaethedig drwy ddefnyddio'r ddolen ganlynol.
Os ydych yn y Grŵp Gweithgaredd sy’n Gysylltiedig â Gwaith, byddwch yn gweld eich ymgynghorydd personol yn rheolaidd i drafod eich rhagolygon gwaith. Byddant yn rhoi help a chyngor i chi gyda phethau fel:
Gallai eich hawl i Lwfans Cyflogaeth a Chymorth newid os byddwch yn gwrthod:
Os ydych chi yn y Grŵp Cymorth, nid oes yn rhaid i chi fynd i gyfweliadau. Fodd bynnag, gallwch ofyn am gael siarad ag ymgynghorydd personol os ydych yn dymuno.
Ynghylch Gwaith a Ganiateir
Gallwch wneud ychydig o waith cyfyngedig wrth hawlio Lwfans Cyflogaeth a Chymorth. Ceir rheolau ynghylch pa waith y cewch chi ei wneud a faint o oriau y cewch eu weithio.
Cael gwybod mwy ynghylch ‘Gwaith a Ganiateir’ drwy ddefnyddio’r ddolen ganlynol.
Cewch wybod mwy am Lwfans Cyflogaeth a Chymorth drwy ddefnyddio’r ddolen ganlynol