Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Lwfans Cyflogaeth a Chymorth - sut i hawlio

Gallwch hawlio’r Lwfans Cyflogaeth a Chymorth dros y ffôn, drwy ddefnyddio ffôn testun neu drwy lawrlwytho ffurflen hawlio. Y ffordd hawsaf a’r gyflymaf yw dros y ffôn neu drwy ddefnyddio ffôn testun.
Dewch i weld sut i hawlio Lwfans Cyflogaeth a Chymorth a sut i hysbysu unrhyw newid mewn amgylchiadau.

Sut i wneud cais am Lwfans Cyflogaeth a Chymorth

Gallwch wneud cais am Lwfans Cyflogaeth a Chymorth dros y ffôn, drwy ddefnyddio ffôn testun neu drwy lawrlwytho ffurflen gais.

Hawlio dros y ffôn neu drwy ddefnyddio ffôn testun

Os byddwch yn hawlio Lwfans Cyflogaeth a Chymorth dros y ffôn neu drwy ddefnyddio ffôn testun, bydd un o ymgynghorwyr y ganolfan cyswllt yn mynd drwy’r cais gyda chi ac yn llenwi’r ffurflen. Ni fydd angen i chi lenwi unrhyw ffurflenni eich hun.

Mae'r llinellau ar agor rhwng 8.00am a 6.00pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rhifau’r ganolfan gyswllt:

Rhif ffôn 0800 012 1888

Ffôn testun 0800 023 4888

Gallwch hefyd wneud cais yn Saesneg.

ffôn: 0800 055 6688

Cost galwadau

Mae galwadau i rifau 0800 am ddim o linellau tir BT, ond mae’n bosib y bydd yn rhaid i chi dalu os ydych:

  • yn defnyddio cwmni ffôn arall
  • yn defnyddio ffôn symudol (ac eithrio O2, Orange, Vodafone, T-Mobile, Virgin Media a Tesco Mobile
  • yn ffonio o dramor

Gall galwadau o ffonau symudol gostio hyd at 40c y funud, felly holwch eich darparwr gwasanaeth beth fydd cost y galwadau.

Ffônau testun

Mae ffonau testun ar gyfer pobl sy’n ei chael yn anodd siarad neu glywed yn glir. Gall rhifau ffôn testun ond derbyn galwadau a wneir gan ffôn testun arall. Os nad oes gennych ffôn testun eich hun ond bod arnoch angen defnyddio un, edrychwch a oes un:

  • yn eich llyfrgell leol
  • mewn canolfan gynghori megis y Ganolfan Cyngor ar Bopeth

Efallai y bydd un yno y gallech ei ddefnyddio.

Lawrlwytho ffurflen hawlio

Os hoffech chi lenwi’r ffurflen gais eich hun, gallwch ei lawrlwytho oddi ar y we. Bydd angen i chi argraffu’r ffurflen hon a’i phostio i’r Ganolfan Byd Gwaith.

Ceir cyfarwyddiadau y mae angen i chi eu darllen cyn i chi lenwi’r ffurflen gais..

Ceir dwy fersiwn o’r ffurflen. Mae’n rhaid argraffu un fersiwn a’i llenwi gyda beiro. Gellir llenwi’r fersiwn arall ar y cyfrifiadur.

Gallwch arbed ffurflen ryngweithiol hon wrth i chi ei llenwi. Mae hyn yn golygu nad oes angen i chi lenwi’r ffurflen i gyd gyda’i gilydd. Mae'n rhaid cael Adobe Reader 7.0 neu fersiwn uwch er mwyn i'r nodwedd ‘arbed’ weithio.

Ar ôl i chi lenwi’r ffurflen ar y sgrîn, bydd yn rhaid i chi ei hargraffu a’i llofnodi.

Sylwch nad yw'r ffurflenni hyn yn berthnasol yng Ngogledd Iwerddon.

Beth i’w wneud os bydd eich amgylchiadau’n newid

Mae'n bwysig cysylltu â swyddfa'r Ganolfan Byd Gwaith sy'n delio gyda'ch cais os bydd eich amgylchiadau'n newid. Gallwch wneud hyn dros y ffôn – bydd y rhif i'w weld ar y llythyrau y maent wedi'u hanfon atoch. Er enghraifft:

  • os byddwch yn gwneud unrhyw waith, gan gynnwys gwaith gwirfoddol
  • os byddwch yn dechrau hyfforddi a chael lwfans hyfforddi
  • os byddwch yn newid eich cyfeiriad
  • os ydych wedi bod yn yr ysbyty am 52 wythnos a bod rhan o'ch budd-dal yn cael ei dalu i rywun arall
  • os byddwch yn mynd dramor

Sut i apelio

Gallwch ofyn i'r swyddfa a fu'n delio gyda'ch cais i ailystyried ei phenderfyniad os:

  • gwrthodir rhoi’r Lwfans Cyflogaeth a Chymorth i chi
  • mae gennych gwestiynau am eich taliad

Os ydych chi'n dal yn anhapus am y canlyniad, gallwch apelio.

Allweddumynediad llywodraeth y DU