Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Lwfans Cyflogaeth a Chymorth - cyfraddau

Bydd y swm a delir i chi yn dibynnu ar eich amgylchiadau. Bydd nifer o bethau'n cael eu hystyried. Bydd hefyd yn dibynnu ar sut mae eich anabledd yn effeithio ar eich gallu i wneud unrhyw waith.

Cyfraddau

Y gyfradd wythnosol yn ystod y cyfnod asesu

Telir y gyfradd ar gyfer y cyfnod asesu am 13 wythnos gyntaf eich cais tra bydd penderfyniad yn cael ei wneud ar eich gallu i weithio drwy'r Asesiad Gallu i Weithio.

Oed yr hawlydd Swm wythnosol
Person sengl dan 25 oed hyd at £56.25
Person sengl sy'n 25 oed neu'n hŷn hyd at £71.00

Y gyfradd wythnosol yn ystod y prif gyfnod

Bydd y prif gyfnod yn cychwyn o wythnos 14 eich hawliad, os yw'r Asesiad Gallu i Weithio yn dangos nad yw'ch salwch na'ch anabledd yn cyfyngu ar eich gallu i weithio.

Math o grŵp Swm wythnosol
Person sengl yn y Grŵp Gweithgaredd sy'n Gysylltiedig â Gwaith hyd at £99.15
Person sengl yn y Grŵp Cymorth hyd at £105.05

Yn y rhan fwyaf o achosion ni chewch unrhyw arian am dri diwrnod cyntaf eich hawliad. Gelwir y rhain yn 'ddiwrnodau aros'.

Yn dibynnu ar eich amgylchiadau, efallai y bydd modd i chi gael mwy o arian os ydych chi'n cael Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn seiliedig ar incwm.

Dim ond os ydych chi'n cael Lwfans Cyflogaeth a Chymorth ar sail incwm y gallwch gael arian ychwanegol ar gyfer eich gŵr, eich gwraig neu'ch partner sifil.

Cwsmeriaid sy’n symud o fudd-dal analluogrwydd at Lwfans Cyflogaeth a Chymorth

Os ydych chi’n symud at Lwfans Cyflogaeth a Chymorth ar ôl adolygu’ch hawliad i’r canlynol:

  • Budd-dal Analluogrwydd
  • Cymhorthdal Incwm a delir ar sail salwch neu anabledd
  • Lwfans Anabledd Difrifol

byddwch yn cael gwybod p’un ai yn y Grŵp Cymorth ynteu’r Grŵp Gweithgaredd sy’n Gysylltiedig â Gwaith ydych chi. Gweler ‘Lwfans Cyflogaeth a Chymorth – Cyflwyniad’ am ragor o wybodaeth.

Bydd eich budd-dal yn cael ei drosglwyddo’n awtomatig ac ni fydd toriad yn y taliadau a gewch.

Os yw swm y budd-dal analluogrwydd rydych chi’n ei gael yn uwch na swm y Lwfans Cyflogaeth a Chymorth, cewch daliad ychwanegol. Ni fydd swm y budd-dal a gewch yn cynyddu nes bydd swm y Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn dal i fyny â swm y taliad ychwanegol.

Os yw swm y budd-dal analluogrwydd rydych chi’n ei gael yn is na swm y Lwfans Cyflogaeth a Chymorth, cewch ragor o arian. Bydd y swm yn cynyddu cyn gynted ag y byddwch yn symud at y Lwfans Cyflogaeth a Chymorth.

Rheolau incwm pensiwn

Os ydych chi’n cael Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn seiliedig ar gyfraniadau, a bod eich incwm pensiwn gros yn fwy nag £85 yr wythnos, bydd y gwahaniaeth rhwng £85 a'ch incwm pensiwn gwirioneddol yn cael ei haneru a'i dynnu o'r budd-dal.

Y swm ychwanegol yw'r gwahaniaeth rhwng £85 a'r incwm pensiwn gwirioneddol. Er enghraifft, ar gyfer incwm pensiwn o £100, mae'r swm ychwanegol yn £15. Hanerir hynny er mwyn canfod faint o Lwfans Cyflogaeth a Chymorth sy'n daladwy – £7.50 yn yr achos hwn.

Os ydych chi'n cael Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn seiliedig ar incwm, bydd unrhyw incwm pensiwn sydd gennych yn cael ei ystyried, ni waeth beth yw'r swm.

Treth Incwm

Nid yw'r Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn seiliedig ar incwm yn drethadwy.

Mae’n bwysig nodi bod y Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn seiliedig ar gyfraniadau yn drethadwy, felly mae’n bosib y bydd yn rhaid i chi dalu treth. Bydd faint o dreth y bydd angen i chi ei thalu, os bydd angen i chi dalu treth, yn dibynnu ar a ydych yn cael unrhyw incwm arall ai peidio, er enghraifft, pensiwn galwedigaethol.

Mae’n bosib y cewch chi god treth newydd, gan ddibynnu ar eich amgylchiadau.

Sut mae'n cael ei dalu

Bydd pob budd-dal, pensiwn a lwfans yn cael ei dalu i gyfrif. Dyma’r dull mwyaf diogel, hwylus ac effeithlon o dalu.

Beth i’w wneud os bydd eich amgylchiadau’n newid

Mae'n bwysig cysylltu â swyddfa'r Ganolfan Byd Gwaith sy'n delio gyda'ch hawliad os bydd eich amgylchiadau'n newid. Gallwch wneud hyn dros y ffôn – bydd eu rhif i'w weld ar y llythyrau y maent wedi'u hanfon atoch. Er enghraifft:

  • os byddwch yn gwneud unrhyw waith, gan gynnwys gwaith gwirfoddol
  • os byddwch yn dechrau hyfforddi a chael lwfans hyfforddi
  • os byddwch yn newid eich cyfeiriad
  • os ydych wedi bod yn yr ysbyty am 52 wythnos a bod rhan o'ch budd-dal yn cael ei dalu i rywun arall
  • os byddwch yn mynd dramor

Cysylltiadau defnyddiol

Allweddumynediad llywodraeth y DU