Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Yr Asesiad Gallu i Weithio

Pan fyddwch yn gwneud hawliad am Lwfans Cyflogaeth a Chymorth, byddwch fel arfer yn cael Asesiad Gallu i Weithio. Efallai y gofynnir i chi gymryd rhan mewn asesiad meddygol hefyd.

Ynghylch yr Asesiad Gallu i Weithio

Yr Asesiad Gallu i Weithio yw'r prif asesiad ar gyfer hawliadau Lwfans Cyflogaeth a Chymorth.

Gallai gynnwys asesiad meddygol os bydd angen rhagor o wybodaeth am eich salwch neu'ch anabledd cyn y gellir gwneud penderfyniad am eich gallu i weithio.

Bydd gweithiwr gofal iechyd proffesiynol cymeradwy, sydd wedi cael hyfforddiant ar sut mae delio â hawliadau Lwfans Cyflogaeth a Chymorth, yn asesu sut mae'ch salwch neu'ch anabledd yn effeithio ar eich gallu i weithio neu wneud gweithgareddau sy'n gysylltiedig â gwaith, ac yn rhoi cyngor i'r Adran Gwaith a Phensiynau, sy'n gyfrifol am weinyddu hawliadau am fudd-daliadau.

Mae'n bosib y bydd y gweithiwr gofal iechyd proffesiynol cymeradwy yn argymell i chi gael asesiad meddygol os teimla bod arno angen rhagor o wybodaeth am eich cyflwr.

Sut mae'n gweithio

Ar ôl eich hawliad gwreiddiol am Lwfans Cyflogaeth a Chymorth, rhaid i chi lenwi holiadur am sut mae'ch anabledd neu'ch salwch yn effeithio ar eich gallu i gyflawni tasgau bob dydd.

Mae'n bosib y gofynnir i'ch meddyg eich hun ddarparu adroddiad meddygol.

Bydd gweithiwr gofal iechyd proffesiynol cymeradwy yn ystyried yr holiadur ac unrhyw adroddiadau meddygol, ynghyd ag unrhyw wybodaeth arall yr ydych chi o bosib wedi'i darparu.

Os teimla'r gweithiwr gofal iechyd proffesiynol cymeradwy y bydd angen mwy o wybodaeth ar yr Adran Gwaith a Phensiynau er mwyn gwneud penderfyniad am eich hawliad am fudd-dal, bydd yn argymell eich bod yn cael asesiad meddygol wyneb-yn-wyneb.

Ar ôl eich hawliad gwreiddiol am Lwfans Cyflogaeth a Chymorth, rhaid i chi lenwi holiadur – gweler y ddolen ‘Holiadur gallu cyfyngedig i weithio’. Dylai’r atebion y byddwch yn eu rhoi yn yr holiadur egluro sut mae’ch salwch neu’ch anabledd yn effeithio ar eich gallu i gyflawni tasgau bob dydd. Mae'n bosib y gofynnir i'ch meddyg eich hun ddarparu adroddiad meddygol.

Rhesymau dros asesiad meddygol

Mae'n bosib bod sawl rheswm dros ofyn i chi fynd am asesiad meddygol.

Gofynnir i’r rhan fwyaf o bobl fynd am un. Nid yw'n golygu bod yr wybodaeth roesoch chi ar eich ffurflen hawlio yn cael ei hystyried yn amheus nac y bydd eich hawliad yn cael ei wrthod.

Ni chaiff eich hawliad am fudd-dal ei wrthod heb i chi naill ai gael asesiad meddygol neu gael cynnig un.

Ynghylch yr asesiad meddygol

Fel arfer, cynhelir yr asesiad meddygol mewn Canolfan Feddygol sy'n agos at lle rydych chi'n byw. Os nad ydych chi'n ddigon iach i deithio neu os oes mwy na 90 munud o daith o’ch cartref i'r ganolfan agosaf, mae'n bosib y daw'r gweithiwr gofal iechyd proffesiynol cymeradwy i'ch gweld yn eich cartref.

Fel rheol, bydd y darparwr Gwasanaethau Meddygol yn cysylltu â chi dros y ffôn. Gall hyn fod unrhyw bryd rhwng 8.30am a 8.00pm. Rhoddir rhybudd i chi am eich apwyntiad ac fe gewch gyfle i newid yr amser os nad yw'n gyfleus. Bydd eich apwyntiad rywbryd rhwng 9.00am a 5.00pm.

Mae'n bwysig iawn eich bod yn mynd i gael eich asesiad meddygol, a'ch bod yn cymryd rhan lawn ynddo, oherwydd mae'n bosib yr effeithir ar eich budd-dal os na wnewch hynny. Os nad ydych yn gallu mynd i gael yr asesiad am unrhyw reswm, dylech gysylltu â'r Ganolfan Feddygol ymlaen llaw a threfnu apwyntiad arall.

Eich hawliau yn yr asesiad

Mae gennych yr hawl i:

  • gael ffrind, perthynas neu weithiwr cefnogi gyda chi yn yr asesiad meddygol
  • gofyn am ddehonglydd os na allwch siarad Saesneg
  • gael gweithwyr proffesiynol gofal iechyd sy’n siarad Welsh yng Nghymru os hoffech gael eich asesiad yn Gymraeg
  • gofyn am gael eich asesu gan weithiwr gofal iechyd proffesiynol cymeradwy sydd o'r un rhyw â chi

Rhaid i chi roi gwybod i'r Ganolfan Feddygol ymlaen llaw os ydych am gael cyfieithydd neu weithiwr proffesiynol gofal iechyd cymeradwy sydd o'r un rhyw â chi. Byddant yn gwneud eu gorau i ddod o hyd i un i chi, ond ni fydd hyn bob tro'n bosibl mewn rhai ardaloedd.

Salwch terfynol

Ceir rheolau arbennig os nad yw’ch meddyg yn disgwyl i chi fyw’n hwy na chwe mis. Mae’r rheolau hyn yn sicrhau eich bod yn cael y fwyaf o arian ag y gallwch. Os yw hyn yn berthnasol i chi, siaradwch â’ch cynghorydd Canolfan Byd Gwaith.

Cyflyrau iechyd meddwl

Os oes gennych gyflwr iechyd meddwl, efallai y bydd y Ganolfan Byd Gwaith yn gofyn i chi lenwi holiadur ynghylch sut y mae hyn yn effeithio arnoch chi.

Gall cyflwr iechyd meddwl effeithio ar:

  • eich hwyl
  • sut yr ydych yn ymddwyn
  • sut yr ydych chi’n gweld y byd o’ch amgylch
  • sut yr ydych chi’n ymdopi â phethau o ddydd i ddydd

Mae’n rhaid i chi ddweud wrth y Ganolfan Byd Gwaith os oes gennych problemau iechyd eraill hefyd. Mae’n bosib y bydd y Ganolfan Byd Gwaith yn siarad â’ch meddyg, ac efallai y bydd angen i chi weld un o’i gweithiwr gofal iechyd proffesiynol.

Manylion pellach

Mae arweiniad manwl iawn i’r Asesiad Gallu i Weithio (ESA214) ar gael ar ffurf PDF. Caiff ei gyhoeddi gan y Ganolfan Byd Gwaith, ac mae wedi’i anelu’n bennaf at weithwyr proffesiynol, ond efallai y bydd yn ddefnyddiol i chi. Gan fod yr wybodaeth yn fanwl ac yn dechnegol, gall rhywfaint ohoni fod yn anodd ei deall.

Gweler y ddolen ‘Arweiniad i'r Lwfans Cyflogaeth a Chymorth – yr Asesiad Gallu i Weithio ESA214’.

Allweddumynediad llywodraeth y DU