Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Mae’n bosib y bydd modd i chi gael Lwfans Cyflogaeth a Chymorth os oes gennych chi salwch neu anabledd sy’n effeithio ar eich gallu i weithio. Yma cewch wybod a allech chi fod yn gymwys ar gyfer y ddau fath sydd ar gael.
Efallai y gallwch hawlio Lwfans Cyflogaeth a Chymorth os oes unrhyw un o'r canlynol yn berthnasol i chi:
Mae’n rhaid i un o’r canlynol fod yn wir hefyd:
Mae’r amodau cyfraniadau arbennig (a elwir “darpariaethau ieuenctid”) nawr wedi cael eu diddymu ar gyfer ceisiadau newydd. Bydd y newid hwn yn effeithio arnoch os ydych rhwng 16 a 20 oed (neu o dan 25 oed ac mewn addysg neu hyfforddiant am o leiaf tri mis yn union cyn troi 20 oed). Yn flaenorol, roedd y darpariaethau ieuenctid yn eich caniatáu i gael Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn seiliedig ar gyfraniadau heb dalu cyfraniadau Yswiriant Gwladol.
Os ydych ar hyn o bryd yn hawlio Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn seiliedig ar gyfraniadau ac yn gymwys o dan y darpariaethau hynny caiff eich hawl ei gyfyngu nawr i 365 o ddiwrnodau os nad ydych yn y Grŵp Cymorth. Os ydych yn y Grŵp Cymorth ac roeddech yn gymwys o dan y darpariaethau ieuenctid, byddwch yn parhau i gael y budd-dal hwn ar yr amod y byddwch yn cwrdd â’r meini prawf cymhwyso.
Bydd yn rhaid i bob cais newydd am Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn seiliedig ar gyfraniadau nawr cwrdd â’r amodau cyfraniadau arferol. Bydd pob person ifanc dal yn gallu hawlio Cyflogaeth a Chymorth yn seiliedig ar incwm os byddant yn gymwys i wneud hynny.
I gael mwy o wybodaeth, cysylltwch â’r Ganolfan Byd Gwaith.
Ceir dau fath o Lwfans Cyflogaeth a Chymorth:
Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn Seiliedig ar Gyfraniadau
Mae’n bosib y bydd gennych hawl i Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn seiliedig ar gyfraniadau os ydych chi wedi talu digon o gyfraniadau Yswiriant Gwladol. Mae’r amser y gallwch gael Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn seiliedig ar gyfraniadau yn dibynnu ar eich amgylchiadau. Os nad ydych yn y grŵp Cymorth, mae Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn seiliedig ar gyfraniadau yn gyfyngedig i 365 o ddiwrnodau.
Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn Seiliedig ar Incwm
Mae’n bosib y bydd gennych hawl i Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn seiliedig ar incwm os nad oes gennych ddigon o arian yn dod i mewn, neu os nad ydych chi wedi talu digon o gyfraniadau Yswiriant Gwladol, a’ch bod yn bodloni’r amodau hawlio.
Mae hyn yn golygu bod gennych lai na £16,000 o gynilion ac, os oes gennych chi bartner neu bartner sifil, ei fod yn gweithio llai na 24 awr yr wythnos ar gyfartaledd. Nid oes terfyn i’r amser y gallwch hawlio Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn seiliedig ar incwm cyhyd ag y byddwch yn bodloni’r amodau cymhwyso.
Gall byw neu weithio dramor effeithio ar eich hawliad am Lwfans Cyflogaeth a Chymorth. Mae’n bosib y bydd modd i chi hawlio os ydych naill ai: