Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Asesiad meddygol

Mae'r asesiad meddygol yn cynnwys hyd at dri rhan. Ar ôl hynny, anfonir adroddiad i'r Adran Gwaith a Phensiynau.

Cyn yr asesiad meddygol

I baratoi at yr asesiad meddygol, efallai yr hoffech feddwl am y canlynol:

  • pa dasgau bob dydd sy'n anodd i chi, neu na allwch chi mo'u gwneud
  • a allwch chi wneud mwy ar rai diwrnodau nag ar ddiwrnodau eraill, sut fyddech chi'n disgrifio'ch diwrnod arferol
  • sut mae'ch salwch neu'ch anabledd yn effeithio ar eich gallu i weithio
  • pa gymorth y mae ei angen arnoch yn eich barn chi i wella eich gallu i weithio

Beth y dylech ddod gyda chi ar ddiwrnod yr asesiad

Bydd y derbynnydd yn y Ganolfan Feddygol yn gofyn am gael gweld dogfennau sy'n cadarnhau mai chi yw'r person y gofynnwyd iddo/iddi ddod yno.

Bydd eich pasbort, os oes gennych un, yn ddigonol ar ei ben ei hun. Fel arall, gofynnir i chi ddarparu tair dogfen a all gynnwys eich tystysgrif geni, trwydded yrru lawn, eich polisi aswiriant bywyd a datganiadau banc diweddar.

Dylech hefyd ddod ag unrhyw dabledi neu feddyginiaeth rydych chi'n eu cymryd ar hyn o bryd ac unrhyw gymhorthion ac offer syml rydych chi'n eu defnyddio megis sbectol neu gymorth clyw.

Beth sy'n digwydd yn yr asesiad meddygol?

Bydd yr asesiad meddygol yn cynnwys cyfweliad ac weithiau archwiliad corfforol, os bydd y gweithiwr gofal iechyd proffesiynol cymeradwy yn teimlo bod angen un.

Mae'r asesiad yn debygol o fod yn wahanol i'r hyn y byddech yn ei ddisgwyl gan eich meddyg eich hun. Nid diagnosio na thrafod triniaeth ar gyfer eich salwch neu'ch anabledd fydd bwriad asesiad y gweithiwr gofal iechyd proffesiynol cymeradwy; ei fwriad fydd asesu sut mae'n effeithio arnoch chi ac ar eich gallu i weithio. I gael gwybod hyn, mae'n bosib na fydd angen i'r gweithiwr gofal iechyd proffesiynol cymeradwy gynnal archwiliad corfforol.

Hyd

Dylech ganiatáu oddeutu 40 munud ar gyfer yr asesiad cychwynnol.

Y cyfweliad

Fel arfer, bydd y gweithiwr gofal iechyd proffesiynol cymeradwy yn dechrau drwy holi'n fras am eich hanes, gan gynnwys:

  • beth roeddech chi'n ei wneud yn eich hen swydd, os oedd gennych un, a pha bryd a pham y gadawsoch y swydd
  • hanes meddygol cryno gan gynnwys manylion eich triniaeth, eich meddyginiaeth ac unrhyw gyfnodau yn yr ysbyty
  • eich sefyllfa gartref (gyda phwy rydych chi'n byw, mewn pa fath o dŷ ac yn y blaen)
  • sut mae'ch salwch neu'ch anabledd yn effeithio ar eich gallu i wneud tasgau bob dydd
  • braslun o ddiwrnod arferol i chi

Os ydych chi'n hawlio Lwfans Cyflogaeth a Chymorth oherwydd problem iechyd meddwl neu salwch neu anabledd corfforol a allai effeithio ar eich iechyd meddwl, fe allai'r gweithiwr gofal iechyd proffesiynol cymeradwy ofyn i chi am y canlynol:

  • dealltwriaeth a ffocws
  • addasu i newid
  • rhyngweithio cymdeithasol

Yr archwiliad corfforol

Ar ôl y cyfweliad, mae'n bosib y bydd y gweithiwr gofal iechyd proffesiynol cymeradwy yn penderfynu y byddai archwiliad corfforol o gymorth.

I ddechrau, bydd yn esbonio beth fydd hyn yn ei olygu ac yn gwneud yn siŵr eich bod yn hapus i'r archwiliad fynd rhagddo. Mae'n bwysig dweud wrth y gweithiwr gofal iechyd proffesiynol cymeradwy os byddwch chi'n teimlo unrhyw boen, neu’n teimlo’n annifyr. Ni fydd yn gofyn i chi wneud dim byd sy'n peri poen neu annifyrrwch i chi.

Adroddiad y gweithiwr gofal iechyd proffesiynol cymeradwy

Bydd y gweithiwr gofal iechyd proffesiynol cymeradwy yn cwblhau'r adroddiad (ESA85) ar ôl yr asesiad meddygol. Bydd yn cyflwyno'r adroddiad i'r Adran Gwaith a Phensiynau. Fel arfer, ni chewch ei weld cyn iddo gael ei gyflwyno.

Gallwch ofyn i’r Adran Gwaith a Phensiynau am gopi o adroddiad y gweithiwr gofal iechyd proffesiynol cymeradwy. Byddwch yn ei gael drwy’r post.

Cysylltiadau cymorth ariannol

Allweddumynediad llywodraeth y DU