Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Ar ôl eich asesiad meddygol

Bydd adroddiad eich asesiad meddygol yn cael ei anfon at swyddog penderfyniadau yn yr Adran Gwaith a Phensiynau. Bydd y swyddog penderfyniadau yn penderfynu a ydych yn gymwys i gael Lwfans Cyflogaeth a Chymorth. Cael gwybod mwy am asesiadau meddygol.

Yr adroddiad

Ar ôl i chi gael asesiad meddygol, anfonir adroddiad y gweithiwr gofal iechyd proffesiynol cymeradwy at y swyddog penderfyniadau yn yr Adran Gwaith a Phensiynau. Y swyddog penderfyniadau yw’r person sy'n gyfrifol am wneud penderfyniad ynglŷn â’ch cais.

Bydd y swyddog penderfyniadau yn ystyried yr adroddiad ynghyd â’r holl wybodaeth arall a gaiff ei darparu ar gyfer eich cais, Bydd y swyddog penderfyniadau yn penderfynu a ydych yn gymwys i gael y Lwfans Cyflogaeth a Chymorth. Os ydych yn gymwys, bydd hefyd yn penderfynu a ddylech gael eich rhoi yn y Grŵp Gweithgaredd sy’n Gysylltiedig â Gwaith neu yn y Grŵp Cymorth. Cewch lythyr yn nodi ei benderfyniad.

Cyfrinachedd

Bydd yr holl wybodaeth feddygol sy'n berthnasol i'ch cais, gan gynnwys adroddiad yr asesiad meddygol, yn gyfrinachol. Ni chaiff y wybodaeth hon ei rhyddhau i neb y tu allan i'r Adran Gwaith a Phensiynau.

Cewch ofyn am gael copi o adroddiad yr asesiad meddygol unrhyw bryd. Bydd hwn yn cael ei anfon atoch yn y post.

Weithiau, mae’n bosib y bydd y gweithiwr gofal iechyd proffesiynol cymeradwy eisiau anfon rhywfaint o wybodaeth am eich asesiad meddygol at eich meddyg. Yn yr achos hwnnw, bydd y Gwasanaethau Meddygol, sy'n trefnu asesiadau meddygol ar ran yr Adran Gwaith a Phensiynau, yn ysgrifennu atoch. Bydd y Gwasanaethau Meddygol yn gofyn a ydych chi’n cytuno y cânt roi'r wybodaeth i'ch meddyg.

Os byddwch yn anhapus gyda'ch asesiad meddygol

Os nad ydych chi'n hapus â'r ffordd y cafodd yr asesiad meddygol ei gynnal, gallwch gwyno wrth y Gwasanaethau Meddygol.

Esbonnir y drefn gwyno yn y llythyr a gawsoch chi ynglŷn â’ch asesiad meddygol.

Cewch gwyno hefyd wrth y gweithiwr gofal iechyd proffesiynol cymeradwy adeg yr asesiad. Os na all ddatrys y broblem, bydd yn rhoi llyfryn i chi sy’n esbonio'r drefn gwyno ffurfiol.

Os byddwch yn anhapus gyda’r penderfyniad ynglŷn â’ch budd-dal

Os ydych chi'n meddwl bod y penderfyniad am eich cais am fudd-dal yn anghywir, neu os nad ydych chi'n ei ddeall, gallwch wneud y canlynol:

  • gofyn i'r swyddfa a wnaeth y penderfyniad ei esbonio
  • gofyn am gael ailystyried y penderfyniad gan rywun arall
  • apelio yn erbyn y penderfyniad i dribiwnlys annibynnol

Cysylltiadau defnyddiol

Allweddumynediad llywodraeth y DU