Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

'Gwaith a Ganiateir' - gweithio a chithau'n hawlio Lwfans Cyflogaeth a Chymorth

Os ydych yn hawlio Lwfans Cyflogaeth a Chymorth, mae gennych hawl i weithio rhywfaint. Mae rheolau i gael ynghylch pa waith y gallwch ei wneud a faint o oriau y gallwch weithio. Efallai y bydd angen i chi dalu Cymhorthdal Incwm ar eich enillion.

Gwybodaeth am Waith a Ganiateir

Yn gyffredinol, nid oes gennych hawl i weithio os ydych yn cael Lwfans Cyflogaeth a Chymorth oherwydd salwch neu anabledd.

Efallai y byddwch yn gallu gwneud rhai mathau o waith ac o fewn terfynau. Gelwir hyn yn 'Waith a Ganiateir' ac mae'n fodd i chi brofi eich gallu eich hun i wneud rhywfaint o waith, a dysgu sgiliau newydd o bosibl.

Er nad oes angen caniatâd arnoch i wneud Gwaith a Ganiateir, rhaid i chi wneud yn siŵr bod y gwaith y mae arnoch eisiau ei wneud yn cael ei ganiatáu yn unol â rheolau Gwaith a Ganiateir. Dylech drafod hyn gyda'ch cynghorydd personol.

Ni fydd angen i chi gael cymeradwyaeth eich meddyg na chael asesiad meddygol dim ond am eich bod yn gwneud Gwaith a Ganiateir. Os ydych i fod i gael asesiad meddygol fel rhan o'r adolygiad parhaus sy'n ymwneud â'ch budd-daliadau, bydd yn dal i gael ei gynnal.

Trefniant budd-dal yw Gwaith a Ganiateir - nid yw cyflogwyr yn cynnig 'gwaith a ganiateir'.

Rheolau Gwaith a Ganiateir

Dan y rheolau Gwaith a Ganiateir:

  • cewch weithio llai na 16 awr yr wythnos, ar gyfartaledd, am gyflog o hyd at £97.50 yr wythnos am gyfnod o 52 wythnos
  • cewch weithio llai na 16 awr yr wythnos, ar gyfartaledd, am gyflog o hyd at £97.50 yr wythnos os ydych chi yng Ngrŵp Cymorth prif gyfnod y Lwfans Cyflogaeth a Chymorth
  • cewch weithio ac ennill hyd at £20 yr wythnos, unrhyw adeg, am y cyfnod y byddwch yn cael Lwfans Cyflogaeth a Chymorth
  • cewch wneud Gwaith a Ganiateir gyda Chymorth ac ennill hyd at £97.50 yr wythnos am y cyfnod y byddwch yn cael Lwfans Cyflogaeth a Chymorth, cyn belled â'ch bod yn parhau i ddiwallu gofynion y meini prawf Gwaith a Ganiateir gyda Chymorth

Mae Gwaith a Ganiateir gyda Chymorth yn waith a oruchwylir gan unigolyn a gyflogir gan awdurdod cyhoeddus neu gyngor lleol, neu fudiad gwirfoddol sydd â'r rôl o drefnu gwaith i bobl anabl. Gallai hwn fod yn waith a wneir yn y gymuned neu mewn gweithdy cysgodol. Mae hefyd yn cynnwys gwaith fel rhan o raglen driniaeth mewn ysbyty.

Treth Incwm

Os byddwch yn dechrau mewn Gwaith a Ganiateir, efallai y bydd yn rhaid i chi dalu treth ar eich incwm ychwanegol. Rhaid i chi roi gwybod i Gyllid a Thollau EM cyn gynted ag y byddwch yn dechrau gweithio.

Yr effaith ar fudd-daliadau eraill

Os ydych yn derbyn Budd-dal Tai neu Fudd-dal y Dreth Gyngor ac yn gwneud Gwaith a Ganiateir, bydd unrhyw enillion dros £20 yn cael eu hystyried wrth asesu'r budd-daliadau hyn.

Caiff eich cynghorydd personol roi mwy o wybodaeth i chi am Waith a Ganiateir.

Allweddumynediad llywodraeth y DU