Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Mae'r Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) yn defnyddio Canolfannau Cywirdeb Budd-daliadau i wneud yn siŵr eich bod wedi cael yr arian cywir. Mae’r Canolfan Cywirdeb Budd-daliadau yn edrych ar y wybodaeth ar eich hawliad i wneud yn siŵr ei bod yn gywir. Gelwir hyn yn adolygu hawliad.
Bydd y Ganolfan Cywirdeb Budd-daliadau (BIC) yn cysylltu â chi dros y ffôn neu drwy'r post os ydych yn hawlio unrhyw un o'r budd-daliadau canlynol:
Sut mae gwybod bod llythyr yn ddilys?
Bydd y llythyrau a'r ffurflenni a gewch gan y Ganolfan Cywirdeb Budd-daliadau yn cynnwys logo'r Ganolfan Byd Gwaith. Bydd y llythyrau a'r ffurflenni yn debyg i'r rhai y bydd y Ganolfan Byd Gwaith wedi'u defnyddio i roi gwybodaeth i chi am eich budd-dal.
Os ydych am wneud yn siŵr bod llythyr neu ffurflen yn ddilys, cysylltwch â Chanolfan Byd Gwaith. Gallwch ddod o hyd i’r rhif ar y llythyr y byddant yn ei anfon atoch chi. Byddant yn gallu cadarnhau os yw’r Ganolfan Cywirdeb Budd-daliadau yn edrych ar eich cais.
Pan fydd y Ganolfan Cywirdeb Budd-daliadau yn cysylltu â chi dros y ffôn
Pan fydd y Ganolfan Cywirdeb Budd-daliadau yn cysylltu â chi dros y ffôn bydd yn gofyn rhai cwestiynau diogelwch i wneud yn siŵr mai chi sydd yno.
Gall y cwestiynau hyn gynnwys enw eich Banc neu'ch Cymdeithas Adeiladu, ond ni fydd byth yn gofyn am rif eich cyfrif banc na'r cod didoli.
Negeseuon testun
Efallai y bydd y Ganolfan Cywirdeb Budd-daliadau hefyd yn anfon neges destun i'ch atgoffa i wneud y canlynol:
Bydd negeseuon testun oddi wrth Ganolfan Cywirdeb Budd-daliadau yn dangos "Jobcentre Plus" neu "Jobcentre +" fel y rhif ffôn. Er gwybodaeth yn unig yr anfonir y neges - ni fydd byth angen i chi ymateb drwy neges destun.
Gofynnir i chi am wybodaeth sy'n debyg i'r wybodaeth a roddwyd gennych pan wnaethoch gais am fudd-dal.
Os bydd BIC yn gofyn am wybodaeth rhaid i chi ei rhoi erbyn y dyddiad a ddangosir ar y llythyr. Os na fyddwch yn ymateb mewn pryd, efallai na chewch eich budd-dal mwyach.
Ailedrychir ar eich hawliad i wneud yn siŵr eich bod wedi cael yr arian cywir - gelwir hyn yn adolygu budd-dal.
Gellir dewis adolygu unrhyw hawliad budd-dal. Gellir hefyd ddewis adolygu hawliad fwy nag unwaith.
Dim ond os nad oes gennych hawl i unrhyw arian neu nad ydych wedi rhoi gwybodaeth pan ofynnwyd i chi wneud hynny y bydd eich budd-dal yn dod i ben.
Bydd y BIC yn gwneud penderfyniad ar eich budd-dal gan ddefnyddio'r wybodaeth a roddir gennych yn yr adolygiad. Bydd yn ysgrifennu atoch i egluro'r penderfyniad a wnaed ynghylch eich budd-dal.
Os bydd arnoch arian i DWP
Os bydd y broses o adolygu eich budd-dal yn dod i'r casgliad bod arnoch arian i DWP, bydd y BIC yn cysylltu â chi i drefnu eich bod yn ei dalu'n ôl. Gallwch dalu'r arian yn ôl dros gyfnod o amser, fel nad ydych yn wynebu unrhyw galedi.
Os bydd arian yn ddyledus i chi gan DWP
Os bydd y broses o adolygu eich budd-dal yn dod i'r casgliad bod arian yn ddyledus i chi gan DWP, bydd y BIC yn gwneud yn siŵr ei fod yn cael ei dalu i chi cyn gynted â phosibl.
Mae gennych hawl i apelio yn erbyn y penderfyniad a wneir gan y BIC. Rhoddir mwy o wybodaeth am sut i apelio yn y llythyr a anfonwyd atoch gan y BIC.
Bydd y BIC yn cysylltu â phenodai yn hytrach na'r unigolyn sy'n hawlio budd-dal. Os ydych yn benodai, caiff y ffurflenni a'r llythyrau ynghylch yr adolygiad o fudd-dal eu hanfon atoch chi.
I gael rhagor o wybodaeth am y broses o adolygu budd-daliadau, cysylltwch â’ch Canolfan Byd Gwaith. Bydd eu manylion cyswllt ar unrhyw lythyr y mae’r BIC wedi'i anfon atoch.
Os na ellir ateb eich cwestiwn yn ystod eich galwad, bydd y Ganolfan Byd Gwaith yn trefnu i'r BIC eich ffonio'n ôl o fewn tair awr gwaith.
Gallwch hefyd siarad â'ch Canolfan Cyngor ar Bopeth leol i gael cyngor ar fudd-daliadau.