Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Sut mae gwybod a ydych chi'n gymwys ar gyfer cael budd-daliadau

Mae'n bosib eich bod yn gymwys i gael budd-daliadau os ydych chi ar incwm isel neu os oes rhaid i chi dalu costau penodol oherwydd eich sefyllfa bersonol.

Edrychwch ar ein gwybodaeth

Os yw un o'r canlynol yn berthnasol i chi:

  • rydych ar incwm isel (yn gyflogedig neu'n chwilio am waith)
  • mae gennych blant sy'n dibynnu arnoch
  • rydych yn sâl neu'n anabl
  • rydych yn gofalu am rywun
  • rydych yn 60 oed neu'n hŷn
  • rydych wedi cael profedigaeth
  • rydych yn feichiog neu wedi cael babi'n ddiweddar

Gallwch edrych i weld a ydych chi'n gymwys i gael cymorth ariannol neu gymorth o fath arall drwy ddefnyddio’r cynghorydd budd-daliadau. Neu, gallwch ddarllen ein gwybodaeth am fudd-daliadau a chymorth ariannol. Bydd yr wybodaeth hon yn dweud wrthych pwy sy'n cael hawlio budd-daliadau a mathau eraill o gymorth neu beidio, a'r camau nesaf.

Cyngor am fudd-daliadau i bobl o oed gweithio

Os ydych chi o oed gweithio, gallwch gysylltu â Chanolfan Byd Gwaith. Os ydych chi eisoes yn gweithio neu'n chwilio am waith, bydd y staff yno'n gallu dweud wrthych am unrhyw fudd-daliadau y gallwch eu hawlio. Gallwch ddod o hyd i fanylion cysylltu am Y Ganolfan Byd Gwaith yn y llyfr ffôn neu drwy ymweld â gwefan Y Ganolfan Byd Gwaith.

Allweddumynediad llywodraeth y DU