Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Os telir gormod o fudd-dal i chi, fe'i gelwir yn 'ordaliad'. Mae'n bwysig i chi roi gwybod am unrhyw newidiadau i'r swyddfa sy'n delio â'ch budd-dal cyn gynted â phosib a'ch bod yn ateb unrhyw lythyrau a gewch ynghylch gordaliadau'n brydlon.
Fel arfer bydd gordaliadau'n digwydd pan na fydd eich budd-dal wedi'i addasu i gyd-fynd â'ch amgylchiadau newydd. Os yw'ch amgylchiadau wedi newid, mae'n bwysig eich bod yn rhoi gwybod i'r swyddfa sy'n delio â'ch budd-dal ar unwaith. Gall camgymeriadau gweinyddol achosi gordaliadau hefyd.
Dyma rai enghreifftiau o'r newidiadau y dylech roi gwybod amdanynt:
Cewch lythyr yn dweud wrthych os talwyd gormod o fudd-dal i chi. Fel arfer, bydd y llythyr yn dweud wrthych:
Os ydych chi'n meddwl eich bod wedi derbyn gormod o fudd-dal ond heb glywed dim, peidiwch ag aros i'ch swyddfa fudd-daliadau gysylltu â chi. Cysylltwch â nhw ar unwaith i egluro'r sefyllfa. Byddan nhw'n archwilio i'r mater ac yn dweud wrthych a ydy'r swm yr ydych yn ei gael fel budd-dal yn gywir.
Os ydych chi'n gwybod eich bod wedi cael gordaliad ond yn gwneud dim amdano, gellir eich amau o gyflawni twyll budd-dal. Mae hyn yr un fath â pheidio'n fwriadol â rhoi gwybod am newid yn eich amgylchiadau personol. Os cewch eich erlyn am dwyll budd-dal, yn ogystal â gorfod ad-dalu'r arian a ordalwyd i chi, gallwch wynebu dirwy neu ddedfryd o garchar.
Gweler ‘Beth sy’n digwydd os bydd rhywun yn eich amau o dwyll budd-dal?’ ar gyfer y rheolau ynghylch colli budd-daliadau yn dilyn y drosedd twyll budd-dal.
Os eich bai chi oedd y gordaliad - efallai na wnaethoch roi gwybod am newid yn eich amgylchiadau neu y gwnaethoch roi gwybodaeth anghywir - bydd yn rhaid i chi dalu'r cyfan yn ôl. Os camgymeriad gweinyddol a achosodd y gordaliad, efallai y bydd gofyn i chi ei dalu'n ôl, yn enwedig os gellid disgwyl yn rhesymol i chi sylweddoli eich bod yn cael eich gordalu.
Os bu gordaliad o ganlyniad i gamgymeriad gweinyddol, efallai y bydd gofyn i chi ei ad-dalu os, ar adeg y taliadau, gellid disgwyl yn rhesymol i chi sylweddoli eich bod yn cael eich gordalu.
Bydd Cyllid a Thollau EM yn anfon hysbysiad dyfarniad atoch pryd bynnag y bydd eich dyfarniad yn newid. Byddant yn gofyn i chi wneud yn siŵr bod yr wybodaeth am eich amgylchiadau personol sydd ar eich dyfarniad yn gywir ac yn gyflawn. Os oes unrhyw beth yn anghywir, ar goll neu'n anghyflawn bydd angen i chi gysylltu â Chyllid a Thollau EM. I gael mwy o wybodaeth ynghylch sut mae Cyllid a Thollau EM yn delio â gordaliadau credydau treth, llwythwch y daflen ganlynol gan Gyllid a Thollau EM oddi ar y we: 'Beth fydd yn digwydd os byddwn wedi talu gormod o gredyd treth i chi?'
O bryd i'w gilydd, adolygir faint o fudd-daliadau anabledd a gewch os byddwch yn derbyn unrhyw un o'r canlynol:
Os bydd eich cyflwr wedi gwella pan gynhelir yr adolygiad, efallai na fyddwch yn gymwys ar gyfer derbyn budd-dal mwyach. Ni fydd gofyn i chi ad-dalu unrhyw beth y byddwch eisoes wedi'i dderbyn oni bai y byddai wedi bod yn rhesymol i chi sylweddoli y byddai'r gwellhad yn eich iechyd yn effeithio ar faint o fudd-dal y byddech yn ei dderbyn.
Os nad ydych yn derbyn y budd-dal a ordalwyd erbyn hyn, byddwch fel arfer yn derbyn bil i dalu'r gordaliadau.
Cyn i chi ddechrau gwneud ad-daliadau, rhoddir amser i chi wneud y canlynol:
Os ydych yn dal i dderbyn y budd-dal, caiff swm penodol ei dynnu oddi ar eich budd-dal nes byddwch wedi talu'r gordaliad cyfan yn ôl. Mae gennych hawl i apelio yn erbyn y rhan fwyaf o ordaliadau; fel arfer, tynnir arian o'ch budd-dal ymhen un mis calendr o'r dyddiad y rhoddwyd gwybod i chi am y gordaliad.
Os caiff Budd-dal Tai ei dalu'n syth i'ch landlord, gellir gofyn iddo ef neu hi ad-dalu'r arian gan ddibynnu os gwnaethant achosi'r gordaliad neu gyfrannu ato. Ond os mai eich bai chi oedd y gordaliad, efallai mai chi fydd yn gorfod ei ad-dalu.
Fel arfer, caiff eich dyfarniad credydau treth ei leihau nes bydd yr arian wedi'i dalu'n ôl. Bydd cyfanswm y gostyngiad yn dibynnu ar fath a swm eich dyfarniad. Os nad ydych yn gymwys ar gyfer credydau treth mwyach, gallwch ad-dalu'r arian mewn taliad unswm neu mewn rhandaliadau.
Mae gennych hawl i apelio yn erbyn penderfyniadau a wneir am eich budd-daliadau - gan gynnwys y rhan fwyaf o ordaliadau. Gallwch hefyd apelio yn erbyn y ffordd y cafodd eich achos ei drin.
Gallwch ofyn i'r swyddfa sy'n delio â'ch budd-dal eich helpu gyda'ch ymholiadau gan gynnwys cwestiynau am ordaliadau. Mae cyngor annibynnol ar gael am ddim gan y Ganolfan Cyngor Ar Bopeth hefyd.