Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Hawlio budd-daliadau yn Ewrop

Diogelir eich hawliau i wneud cais am fudd-daliadau, credydau treth a chymorth ariannol arall gan drefniadau nawdd cymdeithasol rhwng y DU a gwledydd eraill yn yr Ardal Economaidd Ewropeaidd (AEE). Golyga hyn y bydd yn bosibl i chi gael budd-daliadau'r DU pan fyddwch yn byw dramor mewn rhai gwledydd penodol.

Pwy gaiff hawlio budd-daliadau yn yr AEE

Gallech gael budd-daliadau a chymorth ariannol arall os bydd un o'r canlynol yn berthnasol i chi:

  • eich bod wedi byw, wedi gweithio neu wedi astudio (cymhwyster gyrfa cydnabyddedig) mewn gwlad yn yr AEE
  • eich bod yn berson heb wladwriaeth neu'n ffoadur ac rydych yn byw mewn gwlad yn yr AEE
  • eich bod yn ddibynnydd neu'n weddw i rywun a oedd yn dod o dan y rheoliadau (waeth beth fo'ch cenedl)
  • eich bod yn weddw neu'n blentyn i rywun a fu'n gweithio mewn gwlad yn yr AEE nad oedd yn ddinesydd yr AEE nac yn berson heb wladwriaeth neu'n ffoadur (ond rhaid i chi fod yn ddinesydd o'r wlad honno)
  • nad ydych yn ddinesydd yr AEE nac yn ddinesydd y Swistir ond rydych yn byw'n gyfreithlon yn y DU
  • eich bod wedi byw yn wlad yr AEE yn ddigon hir i fod yn gymwys

Beth yw gwledydd yr AEE?

Mae'r rhain yn wledydd sydd â threfniadau budd-daliadau neu gytundebau cyd-fuddiannol gyda'r DU. (Y DU yw Cymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon, ond nid Ynysoedd y Sianel nac Ynys Manaw.)

Golyga hyn y gallech gael budd-daliadau yn y gwledydd canlynol:

  • Awstria
  • Bwlgaria
  • Cyprus
  • Denmarc
  • Estonia
  • Ffrainc
  • Groeg
  • Gweriniaeth Tsiec
  • Gwlad Belg
  • Gwlad Pwyl
  • Gwlad yr Iâ
  • Hwngari
  • Iwerddon
  • Latfia
  • Liechtenstein
  • Lithwania
  • Lwcsembwrg
  • Malta
  • Norwy
  • Portiwgal
  • Rwmania
  • Sbaen
  • Slofacia
  • Slofenia
  • Sweden
  • Y Ffindir
  • Yr Almaen
  • Yr Eidal
  • Yr Iseldiroedd

Gwledydd eraill

Dyma'r gwledydd sy'n dilyn trefniadau nawdd cymdeithasol gyda'r DU ond ag amodau arbennig:

  • Y Swistir
  • Gibraltar

Hawlio Budd-daliadau'r DU yng ngwledydd eraill yr AEE

Gallech gael budd-daliadau wrth fyw, gweithio neu wrth astudio cymhwyster gyrfa dramor.

Ond mae'n bwysig eich bod yn cysylltu â'ch swyddfa fudd-daliadau os byddwch yn bwriadu byw mewn gwlad arall dros dro neu am byth.

Lwfans Ceisio Gwaith

Os ydych o oedran gweithio ond yn ddi-waith ac wrthi’n chwilio am waith, gallech gael Lwfans Ceisio Gwaith.

Ceir dau fath o Lwfans Ceisio Gwaith, y naill yn seiliedig ar gyfraniadau a'r llall yn seiliedig ar incwm. Bydd pa un a gewch chi'n dibynnu ar faint o gyfraniadau Yswiriant Gwladol rydych chi wedi'u talu yn y gorffennol.

Budd-daliadau disgwyl neu fagu plant

Tâl Mamolaeth Statudol

I'ch helpu i gael amser o'r gwaith pan fyddwch chi'n cael babi, mae'n bosibl y gallwch gael Tâl Mamolaeth Statudol os yw'r canlynol yn berthnasol i chi:

  • rydych wedi gweithio i gyflogwr yn y DU am o leiaf 26 wythnos tan y 15fed wythnos cyn geni'ch plentyn
  • rydych yn ennill o leiaf £107 yr wythnos ar gyfartaledd (cyn treth)

Lwfans Mamolaeth

Os na allwch gael - Tâl Mamolaeth Statudol, gallech gael Lwfans Mamolaeth i'ch helpu i gael amser o'r gwaith pan fyddwch yn feichiog neu fod gennych fabi newydd.

I fod yn gymwys ar gyfer Lwfans Mamolaeth:

  • rhaid i chi fod wedi bod yn gyflogedig neu'n hunangyflogedig am o leiaf 26 allan o'r 66 wythnos cyn y dyddiad geni tebygol
  • wedi ennill £30 ar gyfartaledd mewn unrhyw 13 wythnos yn y 66 wythnos cyn wythnos geni’ch plentyn

Budd-dal Plant

Gallwch gael Budd-dal Plant os byddwch yn gyfrifol am blentyn neu berson ifanc:

  • o dan 16 oed
  • person ifanc o dan 19 oed (o dan 20 oed mewn rhai achosion) sydd naill ai'n astudio mewn addysg amser llawn heb fod yn addysg uwch (Lefel A neu gymhwyster cyfatebol) neu ar raglen hyfforddi a ariennir gan y llywodraeth
  • 16 neu 17 oed ac wedi gadael yr ysgol yn ddiweddar ac wedi cofrestru ar gyfer gwaith, addysg neu hyfforddiant gyda Gyrfa Cymru neu wasanaeth tebyg

Credyd Treth Plant

Gallwch wneud cais am Gredyd Treth Plant os oes gennych o leiaf un plentyn sydd fel arfer yn byw gyda chi. Bydd y swm a gewch yn dibynnu ar eich sefyllfa eich hun, gan gynnwys eich incwm blynyddol.

Mae dwy ran i'r taliad:

  • elfen i'r teulu a delir i unrhyw deulu sydd ag o leiaf un plentyn ac mae hon yn werth hyd at £545 (blwyddyn dreth 2012-13)
  • elfen i'r plentyn a delir i bob plentyn yn y teulu ac mae hon yn werth hyd at £2,690 (blwyddyn dreth 2012-13)

Efallai y cewch fwy os ydych yn gofalu am blentyn anabl.

Credyd Treth Gwaith

Bwriedir i'r Credyd Treth Gwaith helpu pobl ar incwm isel, boed y rheini'n gyflogedig neu'n hunangyflogedig. Nid oes yn rhaid i chi gael plant i wneud cais. Os oes gennych blant, gallech gael help drwy Gredyd Treth Gwaith ar gyfer gofal plant cymwys.

Gallech gael cymorth ychwanegol os byddwch yn gweithio 30 awr neu fwy bob wythnos, neu os ydych yn anabl.

Lwfans Gwarcheidwad

Os ydych yn magu plentyn neu blant a'ch bod yn cael Budd-dal Plant, gallech wneud cais am Lwfans Gwarcheidwad os bydd dau riant y plentyn wedi marw. Weithiau gallech gael Lwfans Gwarcheidwad os bydd un rhiant yn unig wedi marw, er enghraifft, os:

  • nad ydych yn gwybod ble mae'r rhiant sy'n dal yn fyw
  • cafodd eu rhieni ysgariad neu fod eu partneriaeth sifil wedi’i diddymu (mae rhai amodau'n berthnasol i hyn)
  • nad oedd eu rhieni yn briod a bod y fam wedi marw ond nid yw’n hysbus pwy yw'r tad
  • bod y rhiant sy'n dal yn fyw yn y carchar a bod ganddo/ganddi o leiaf ddwy flynedd ar ôl o'r ddedfryd, neu ei fod/bod wedi'i gadw/chadw'n gaeth mewn ysbyty dan orchymyn llys (mae rhai rheoleiddiadau'n berthnasol i hyn)

Budd-daliadau salwch neu anaf

Tâl Salwch Statudol

Os na allwch weithio oherwydd eich bod yn sâl, gallech gael Tâl Salwch Statudol gan eich cyflogwr am hyd at 28 wythnos.

Os ydych yn gweithio i gyflogwr dan gontract gwasanaeth (hyd yn oed os mai dim ond newydd ddechrau ydych chi), bydd gennych hawl i Dâl Salwch Statudol, os yw'r canlynol i gyd yn berthnasol:

  • eich bod yn sâl am o leiaf bedwar diwrnod yn olynol (gan gynnwys penwythnosau a gwyliau banc)
  • eich bod yn ennill o leiaf £107 yr wythnos ar gyfartaledd

Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn seiliedig ar gyfraniadau

Telir Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn seiliedig ar gyfraniadau i bobl o fewn yr Ardal Economaidd Ewropeaidd a'r Swistir ar yr amod eich bod yn bodloni cyfraniadau Yswiriant Gwladol ym Mhrydain Fawr ac yn bodloni'r amodau eraill ar gyfer gwneud cais am fudd-dal. Dylech wneud cais yn y ffordd arferol a bydd eich cais yn cael ei gyfeirio at y Ganolfan Bensiwn Ryngwladol.

Lwfans Anabledd Difrifol

Ni allwch wneud cais newydd am Lwfans Anabledd Difrifol.

Ond os ydych eisoes yn cael y lwfans, gallech ei hawlio mewn gwlad arall yn yr AEE os nad oeddech yn gallu gweithio am o leiaf 28 wythnos yn olynol oherwydd salwch neu anabledd cyn 6 Ebrill 2001.

Damweiniau, clefydau a byddardod yn y gwaith

Gallech wneud cais am Fudd-dal Anabledd Anafiadau Diwydiannol oherwydd damweiniau yn y gwaith, neu ddamweiniau sy'n gysylltiedig â'r gwaith, os bydd unrhyw un o'r canlynol yn berthnasol:

  • roeddech yn gyflogedig pan ddigwyddodd y ddamwain neu'r digwyddiad
  • digwyddodd y ddamwain neu'r digwyddiad a achosodd eich salwch neu'ch anabledd yng Nghymru, Lloegr neu'r Alban (mae rhai eithriadau i hyn - holwch eich Canolfan Byd Gwaith leol)

Neu gallech wneud cais am Fudd-dal Anabledd Anafiadau Diwydiannol oherwydd clefydau a byddardod a achoswyd gan fathau penodol o waith.

Budd-daliadau anabledd

Os ydych yn berson anabl neu'n ofalwr ac yn gadael Prydain Fawr i fyw mewn gwladwriaeth yr AEE arall neu’r Swistir gallech gael eich budd-dal anabledd dramor.

Mae eich hawl i gael Lwfans Byw i'r Anabl a'r swm a gewch yn seiliedig ar y wybodaeth a roddoch i’r Gwasanaeth Anabledd a Gofalwyr yn y DU. Os oes unrhyw newidiadau i'r wybodaeth, eich cyfrifoldeb chi yw dweud wrthynt.

Budd-daliadau profedigaeth

Os bu farw eich partner neu'ch partner sifil o ganlyniad i ddamwain, clefyd diwydiannol neu yn ystod rhyfel, efallai y bydd yn bosib i chi gael budd-daliadau profedigaeth.

Taliad Profedigaeth

Efallai y byddwch yn gymwys ar gyfer Taliad Profedigaeth os oedd eich gŵr, eich gwraig neu'ch partner sifil wedi talu eu cyfraniadau Yswiriant Gwladol neu os achoswyd eu marwolaeth gan eu swydd a naill ai:

  • eich bod o dan oed Pensiwn y Wladwriaeth pan fuont farw
  • nid oedd eich gŵr, eich gwraig neu'ch partner sifil yn gymwys i gael Budd-dal Ymddeol Categori A y wladwriaeth pan fuont farw

Pensiwn Rhyfel Gwraig Weddw neu Ŵr Gweddw

Os bu farw eich gŵr, eich gwraig neu'ch partner sifil yn gwasanaethu yn Lluoedd Arfog Ei Mawrhydi (EM) neu yn ystod rhyfel, gallech fod yn gymwys i gael Pensiwn Rhyfel Gwraig Weddw neu Ŵr Gweddw.

Pensiwn y Wladwriaeth

Gallech fod yn gymwys i gael Pensiwn y Wladwriaeth:

  • os ydych wedi cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth
  • os oes gennych chi (neu eich gŵr, eich gwraig neu eich partner sifil) ddigon o flynyddoedd cymwys ar sail eich cyfraniadau Yswiriant Gwladol

I gael gwybod am eich hawliau mewn gwlad arall yn yr AEE, bydd angen i chi gysylltu â'r awdurdodau sy'n rhedeg y cynllun pensiwn yn y wlad honno.

Taliadau Tanwydd Gaeaf

Gallech gael Taliadau Tanwydd Gaeaf i'ch helpu i dalu am gadw'n gynnes yn y gaeaf. Fel arfer, telir y budd-dal erbyn y Nadolig.

Allweddumynediad llywodraeth y DU