Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Mae Taliad Tanwydd Gaeaf yn helpu pobl hŷn i gadw'n gynnes yn y gaeaf. Mynnwch wybod pwy all ei gael, sut mae ei gael a faint y gallwch ei gael. Os nad ydych wedi'i gael o'r blaen, mynnwch wybod beth sydd angen i chi ei wneud.
Mae'r Taliad Tanwydd Gaeaf yn daliad di-dreth sy'n helpu pobl hŷn i gadw'n gynnes yn ystod y gaeaf. Mae'r llywodraeth yn ei ddarparu i'r rheini sy'n gymwys.
Pwy all ei gael yng ngaeaf 2012/2013
Os cawsoch eich geni ar 5 Ionawr 1951, neu cyn hynny, efallai y byddwch yn gymwys i'w gael. Nid yw'n cael ei roi ar sail prawf modd a gallwch ei gael os ydych yn dal i weithio neu'n hawlio budd-dal. Mewn rhai amgylchiadau efallai y gallwch ei gael os ydych yn byw yn yr Ardal Economaidd Ewropeaidd neu yn y Swistir.
Os cawsoch eich geni ar ôl 5 Ionawr 1951, mynnwch wybod pryd y byddwch yn gymwys i gael Taliad Tanwydd Gaeaf drwy ddilyn y ddolen ganlynol.
Mae faint o Daliad Tanwydd Gaeaf y gallwch ei gael yn dibynnu ar eich sefyllfa bersonol - mynnwch wybod faint y gallwch ei gael.
Os ydych wedi cael Taliad Tanwydd Gaeaf yn y gorffennol ac nad oes newid wedi bod yn eich amgylchiadau, nid oes angen i chi wneud cais arall. Dylech gael eich taliad yn awtomatig eleni.
Efallai y bydd angen i chi gymryd camau os yw eich sefyllfa wedi newid. Gweler y ddolen ganlynol i ganfod beth sydd angen i chi ei wneud nesaf.
Taliadau Tanwydd Gaeaf dramor
Os ydych yn byw mewn gwlad arall yn yr Ardal Economaidd Ewropeaidd neu’r Swistir neu wedi symud i fyw yno, efallai y gallwch gael y Taliad Tanwydd Gaeaf. Gweler y ddolen ganlynol am ragor o wybodaeth.
Os nad ydych wedi cael Taliad Tanwydd Gaeaf o'r blaen, bydd angen i chi ganfod a ydych yn gymwys i'w gael. Mae'n rhaid i hawliadau gyrraedd erbyn 31 Mawrth 2013.
Os yw eich partner yn cael Taliad Tanwydd Gaeaf ar hyn o bryd, ond nad ydych chi'n ei gael, bydd angen i chi ei hawlio.
Mynnwch wybod a allwch ei hawlio, sut mae ei hawlio a faint y gallwch ei gael. Mae gwybodaeth hefyd am bryd y byddwch yn cael eich talu, beth i'w wneud os bydd newid yn eich sefyllfa neu os ydych yn credu bod eich taliad yn anghywir.
Mae Taliadau Tywydd Oer yn wahanol i Daliadau Tanwydd Gaeaf. Gallwch gael un ar gyfer pob wythnos o dywydd oer iawn yn eich ardal. Gweler y ddolen ganlynol i ganfod pwy sy'n gymwys i gael Taliad Tywydd Oer.