Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Os ydych yn cael Taliad Tanwydd Gaeaf a bod eich sefyllfa'n newid, bydd angen i chi weithredu. Bydd angen i chi gysylltu â'r swyddfa gywir neu efallai y bydd angen i chi wneud cais arall. Mynnwch wybod pa newidiadau i'ch sefyllfa y mae angen i chi roi gwybod amdanynt a beth i'w wneud nesaf.
Os bydd eich amgylchiadau'n newid, gall hyn effeithio ar p'un a ydych yn gymwys i gael Taliad Tanwydd Gaeaf neu'r swm y gallwch ei gael.
Bydd angen i chi roi gwybod am newidiadau megis:
Os ydych yn byw neu’n symud dramor, gweler ‘Taliad Tanwydd Gaeaf dramor’ isod.
Mae pwy y mae angen i chi gysylltu ag ef yn dibynnu ar ba un o’r canlynol sy’n disgrifio eich sefyllfa.
Os ydych eisoes yn cael Taliad Tanwydd Gaeaf, yna bydd angen i chi gysylltu â'r swyddfa sy'n gwneud eich taliadau fel arfer.
Bydd y manylion cyswllt ar unrhyw ohebiaeth rydych wedi'i chael ynghylch y Taliad Tanwydd Gaeaf.
Os oes gennych ymholiad cyffredinol, gallwch gysylltu â'r Llinell Gymorth Taliadau Tanwydd Gaeaf.
Os ydych yn hawlio am y tro cyntaf a bod y wybodaeth yn eich ffurflen hawlio yn anghywir bellach, bydd angen i chi roi gwybod am hynny. Bydd angen i chi gysylltu â'r Llinell Gymorth Taliadau Tanwydd Gaeaf.
Gweler 'Os oeddech yn arfer cael budd-dal neu Bensiwn y Wladwriaeth yn y gorffennol' isod i weld beth i'w wneud nesaf.
Darllenwch y wybodaeth am y taliad yn 'Taliad Tanwydd Gaeaf - faint y gallwch ei gael a phryd y cewch eich talu’.
Os ydych yn credu eich bod wedi cael y swm anghywir, cysylltwch â'r Llinell Gymorth Taliadau Tanwydd Gaeaf.
Os ydych yn byw dramor, efallai y byddwch yn gallu cael Taliadau Tanwydd Gaeaf os yw pob un o'r canlynol yn berthnasol:
Mae'r Tîm Tanwydd Gaeaf yn y Ganolfan Bensiwn Ryngwladol yn gyfrifol am wneud Taliadau Tanwydd Gaeaf i bobl sy'n byw y tu allan i'r DU.
Anfonwch bob gohebiaeth i'r Tîm Taliadau Tanwydd Gaeaf.
Os cawsoch Daliad Tanwydd Gaeaf ac un o'r canlynol yn y gorffennol - ond nad ydych yn ei gael mwyach - rhaid i chi wneud hawliad: