Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Taliad Tywydd Oer

Yn ystod gaeaf oer iawn, gall costau gwresogi gynyddu’n gyflym. Os ydych yn cael budd-daliadau penodol, efallai y gallwch gael Taliad Tywydd Oer ar gyfer pob cyfnod o dywydd oer iawn yn eich ardal. Cael gwybod a ydych yn gymwys i gael cymorth y gaeaf hwn.

Beth yw Taliadau Tywydd Oer?

Ni fydd yn rhaid i chi wneud cais – os gallwch gael Taliad Tywydd Oer, cewch eich talu’n awtomatig.

Gall Taliadau Tywydd Oer helpu pobl sy'n cael budd-daliadau yn gysylltiedig ag incwm penodol gyda'u costau gwresogi cynyddol a achosir gan dywydd oer iawn yn ystod y gaeaf.

Mae cyfnod o dywydd oer iawn pan fydd y tymheredd naill ai'n:

  • cael ei gofnodi fel cyfartaledd o sero gradd Celsius neu'n is dros saith diwrnod yn olynol
  • cael ei rhagweld bod cyfartaledd o sero gradd Celsius neu'n is dros saith diwrnod yn olynol

Sut yw’r cynllun Taliadau Tywydd Oer yn gweithio

Mae'r cynllun Taliadau Tywydd Oer yn rhedeg bob gaeaf o 1 Tachwedd i 31 Mawrth.

Mae rhwydwaith o orsafoedd tywydd yn casglu gwybodaeth dymheredd. Caiff ei ddefnyddio i weld a bu 'cyfnod o dywydd oer iawn' mewn unrhyw ardal god post.

Pan fydd cyfnod o dywydd oer iawn yn eich ardal god post, gwneir Taliad Tywydd Oer i bobl gymwys sy'n byw yno.

Pan na chafwyd cyfnod o dywydd oer iawn yn eich ardal god post, ni chaiff Taliad Tywydd Oer ei dalu.

Efallai y caiff pobl sy'n byw yn agos at ei gilydd, ond sydd mewn gwahanol ardaloedd cod post, taliadau Tywydd Oer ar wahanol adegau.

Taliadau Tanwydd Gaeaf

Mae Taliadau Tanwydd Gaeaf yn wahanol i Daliadau Tywydd Oer. Mae Taliadau Tanwydd Gaeaf yn daliadau blynyddol untro i helpu pobl gymwys talu am wresogi yn ystod y gaeaf.

Telir Taliadau Tanwydd Gaeaf i ddynion a merched sydd wedi cyrraedd isafswm oedran y gall merch dderbyn pensiwn y wladwriaeth. Nid ydynt yn gysylltiedig â thymheredd. Mae hyn yn wahanol i Daliadau Tywydd Oer y gall pobl gymwys ei gael am bob wythnos o dywydd oer iawn yn eu hardal god post.

Pwy all gael Taliadau Tywydd Oer?

Pan fydd cyfnod o dywydd oer iawn yn ystod y gaeaf, gallwch gael Taliad Tywydd Oer os ydych yn cael un o'r budd-daliadau canlynol:

  • Credyd Pensiwn
  • Cymhorthdal Incwm
  • Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar incwm
  • Lwfans Cyflogaeth a Chymorth a yn seiliedig ar incwm

Credyd Pensiwn

Os cewch Gredyd Pensiwn, byddwch fel arfer yn cael Taliadau Tywydd Oer.

Cymhorthdal Incwm a Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar incwm

Os ydych yn cael Cymhorthdal Incwm neu Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar incwm, byddwch fel arfer yn cael Taliadau Tywydd Oer os bydd hefyd gennych unrhyw un o’r canlynol:

  • premiwm anabledd neu bensiynwr wedi’i gynnwys yn eich budd-dal
  • plentyn sy’n anabl
  • Credyd Treth Plant sy’n cynnwys anabledd neu elfen anabledd difrifol
  • plentyn sy’n iau na phum mlwydd oed yn byw gyda chi

Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn seiliedig ar Incwm

Os ydych yn cael Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn seiliedig ar incwm, byddwch fel arfer yn cael Taliadau Tywydd Oer os bydd hefyd gennych unrhyw un o’r canlynol:

  • elfen gymorth neu’n seiliedig ar waith Lwfans Cyflogaeth a Chymorth
  • premiwm anabledd difrifol neu fwy wedi’i gynnwys yn eich budd-dal
  • premiwm pensiynwr wedi’i gynnwys yn eich budd-dal
  • plentyn sy’n anabl
  • Credyd Treth Plant sy’n cynnwys anabledd neu elfen anabledd difrifol
  • plentyn sy’n iau na phum mlwydd oed yn byw gyda chi

Os oes gennych blentyn dan bump oed yn byw gyda chi

Os ydych yn cael Cymhorthdal Incwm, Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar incwm neu Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn seiliedig ar incwm bydd angen i chi ddweud wrth y Ganolfan Byd Gwaith pan:

  • fyddwch wedi cael babi
  • fydd plentyn o dan bump oed yn dod i fyw gyda chi

Os na wnewch hynny, ni chewch unrhyw Daliadau Tywydd Oer y gallech fod yn gymwys i gael yn awtomatig.

Faint allwch chi ei gael?

Cewch £25 ar gyfer pob cyfnod o saith diwrnod o dywydd oer iawn rhwng 1 Tachwedd a 31 Mawrth.

Sut i wneud cais

Nid oes angen i chi wneud cais. Os gallwch gael Taliad Tywydd Oer, cewch eich talu yn awtomatig.

Sut y telir Taliadau Tywydd Oer

Telir Taliadau Tywydd Oer yn awtomatig i’r un banc neu gymdeithas adeiladu a’ch taliadau budd-dal.

Telir pob budd-dal, pensiwn a lwfans i gyfrif. Dyma’r ffordd fwyaf diogel, cyfleus ac effeithlon i dalu.

Pryd y caf fy Nhaliad Tywydd Oer?

Dylai eich Taliad Tywydd Oer fod yn eich cyfrif o fewn 14 diwrnod gwaith ar ôl pob cyfnod o dywydd oer iawn yn eich ardal god post.

Os credwch y dylech fod wedi cael Taliad Tywydd Oer

Os credwch y dylech fod wedi cael Taliad Tywydd Oer ond heb ei gael, defnyddiwch y Chwiliad Cod Post i weld a yw’r taliadau wedi cael eu gwneud ar gyfer eich ardal god post.

Os byddwch yn parhau i gredu y dylech fod wedi cael Taliad Tywydd Oer, dywedwch wrth eich canolfan bensiwn neu'r Ganolfan Byd Gwaith.

Yr effaith ar fudd-daliadau eraill

Ni fydd Taliadau Tywydd Oer yn effeithio ar fudd-daliadau eraill a gewch.

Additional links

Cyngor am fudd-daliadau ar-lein

Cael cyngor am fudd-daliadau ar-lein drwy ddefnyddio’r gwasanaeth ar-lein hwn i ateb cwestiynau am eich sefyllfa

Peidiwch â chael eich cnoi...

Ydych chi wedi cael eich cysylltu gan siarc benthyg? Gallwch riportio benthycwyr didrwydded

Allweddumynediad llywodraeth y DU