Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Os oes angen help ariannol arnoch gydag argyfwng neu drychineb, mae'n bosib y gallech gael Benthyciad Argyfwng. Bydd yn rhaid i chi ad-dalu’r Benthyciad Argyfwng ond ni fydd yn rhaid i chi dalu’r llog. Dewch o hyd i fwy o wybodaeth, gan gynnwys sut i wneud cais.
Gallwch wneud cais am Fenthyciad Argyfwng os bydd y canlynol i gyd yn berthnasol:
Gall Benthyciad Argyfwng helpu i gwmpasu’r anghenion byrdymor canlynol:
Gall Benthyciad Argyfwng eich helpu os yw naill neu’r llall o’r canlynol yn briodol:
Nid oes swm penodol wedi'i bennu ar gyfer Benthyciad Argyfwng. Bydd y swm y gallech ei fenthyg yn dibynnu ar:
Caiff pob budd-dal, pensiwn a lwfans ei dalu i mewn i gyfrif. Dyma’r ffordd fwyaf diogel, cyfleus ac effeithlon o gael ei dalu.
Os byddwch yn gymwys i gael Benthyciad Argyfwng bydd angen i chi gytuno sut y byddwch chi'n ei ad-dalu.
Bydd ymgynghorydd yn eich Canolfan Byd Gwaith yn siarad â chi ac yn cytuno cynllun ad-dalu gyda chi y gallwch ei fforddio. Os ydych yn cael budd-dal, fel arfer byddwch yn ad-dalu'r benthyciad o’ch taliadau budd-dal arferol.
Nid oes yn rhaid i chi dalu llog ar Fenthyciad Argyfwng sy'n olygu mai dim ond y swm rydych chi wedi ei fenthyg y byddwch chi'n ei ad-dalu.
Nid yw Benthyciad Argyfwng yn cyfri fel incwm ac ni fydd yn effeithio ar unrhyw fudd-daliadau eraill a gewch.
Ceir gwahanol ffyrdd o wneud cais am Fenthyciad Argyfwng gan ddibynnu ar ba fath o fenthyciad yr ydych am gael.
Benthyciadau Argyfwng ar gyfer Costau Byw a Rhent ar frys Ymlaen Llaw
I wneud cais dros y ffôn am gostau byw o ddydd i ddydd neu rent ar frys ymlaen llaw cysylltwch â’r Ganolfan Byd Gwaith, ffôn: 0800 032 8335.
Os na allwch siarad neu glywed yn glir, gallwch ddefnyddio’r rhif ffôn testun: 0800 032 7958.
Mae'r llinellau ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener, rhwng 8.00am a 6.00pm. Fel arfer mae llinellau yn llai prysur cyn 9.00am.
Os nad ydych am wneud cais am Fenthyciad Argyfwng dros y ffôn i gwmpasu costau byw, gallwch gael ffurflen gais (SF401) yn lle. Gallwch gael y ffurflen hon gan eich swyddfa Ganolfan Byd Gwaith leol neu drwy lawrlwytho’r ffurflen isod.
Dylai pob cais arall am Fenthyciad Argyfwng gael ei wneud yn ysgrifenedig.
Dylai pob cais arall am Fenthyciad Argyfwng gael ei wneud yn ysgrifenedig drwy ddefnyddio un o’r ffurflenni cais Benthyciad Argyfwng isod.
Os hoffech wneud cais am Fenthyciad Argyfwng ar gyfer eitemau a gwasanaethau o ganlyniad i drychineb, gallwch lawrlwytho ffurflen SF300. Gallwch hefyd ddefnyddio’r ffurflen gais hon (SF300) os ydych yn gwneud cais am Grant Gofal Cymunedol.
Os hoffech wneud cais am Fenthyciad Argyfwng i gwmpasu rhent ymlaen llaw, gallwch lawrlwytho’r ffurflen (SF401R) isod.
Os ydych yn anfodlon gyda phenderfyniad ynglŷn â Benthyciad Argyfwng mae gennych chi'r hawl i ofyn am adolygiad. I wneud hyn, mae’n rhaid i chi ysgrifennu at y Ganolfan Byd Gwaith o fewn 28 diwrnod i'r penderfyniad. Bydd angen i chi:
Os ydych yn parhau i fod yn anfodlon gyda'r canlyniad, gallwch ofyn am adolygiad pellach gan Arolygydd y Gronfa Gymdeithasol. Mae'r broses adolygu'n gyflym ac yn rhwydd, ac ni ddylai gymryd mwy na 12 diwrnod.
Gallwch lawrlwytho'r daflen a'r ffurflen gais, 'Sut i ofyn am adolygiad annibynnol' ar wefan y Gwasanaeth Adolygu Annibynnol.