Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Grantiau Gofal Cymunedol

Os oes angen help ariannol arnoch i fyw'n annibynnol yn y gymuned neu i liniaru pwysau eithriadol arnoch chi a'ch teulu, mae'n bosib y gallech chi gael Grant Gofal Cymunedol. Does dim rhaid i chi ei dalu'n ôl.

Pwy sy’n gymwys?

Gallwch wneud cais am Grant Gofal Cymunedol os ydych chi:

  • eisoes yn derbyn Cymhorthdal Incwm, Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn seiliedig ar incwm, Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar incwm, Credyd Pensiwn, neu daliad ar gyfrif un o'r budd-daliadau hyn
  • yn debygol o ddechrau cael un o'r budd-daliadau hyn o fewn y chwe wythnos nesaf oherwydd eich bod yn gadael gofal

a bod unrhyw un o'r canlynol yn berthnasol:

  • eich bod yn symud allan o ofal preswyl neu o ofal sefydliadol i fyw'n annibynnol
  • eich bod yn symud i gartref newydd a fydd yn fwy addas i chi yn dilyn cyfnod ansefydlog yn eich bywyd a'ch bod yn cael eich adsefydlu gan gorff megis cyngor lleol neu fudiad gwirfoddol
  • bod angen help arnoch i aros yn eich cartref yn hytrach na mynd i ofal preswyl neu i'r ysbyty
  • bod angen help arnoch oherwydd eich bod chi a'ch teulu'n wynebu pwysau eithriadol, megis chwalfa yn y teulu neu oherwydd bod gan un ohonoch salwch tymor hir
  • eich bod yn gofalu am rywun sy'n sâl neu'n anabl, neu sydd wedi'i ryddhau o'r carchar ar drwydded dros dro
  • bod angen help arnoch gyda chostau megis ymweld â rhywun sy'n sâl neu i fynd i angladd perthynas

Faint fyddwch chi'n ei gael?

Bydd y swm a gewch yn dibynnu ar eich amgylchiadau.

Effaith cynilion ar yr arian a gewch chi

Mae'n bosib y cewch chi lai o Grant Gofal Cymunedol os yw'r arian rydych wedi'i gynilo:

  • yn fwy na £500 a chithau a'ch partner dan 60 oed
  • yn fwy na £1,000 a chithau ac/neu eich partner dros 60 oed

Sut mae Grantiau Gofal Cymunedol yn cael ei dalu

Caiff pob budd-dal, pensiwn a lwfans ei dalu i mewn i gyfrif. Dyma’r ffordd fwyaf diogel, cyfleus ac effeithlon o gael ei dalu.

Yr effaith ar fudd-daliadau eraill

Nid yw Grant Gofal Cymunedol yn cyfri fel incwm ac ni fydd yn effeithio ar unrhyw fudd-daliadau eraill a gewch.

Does dim modd rhoi'r grant ar gyfer y canlynol

Chewch chi ddim Grant Gofal Cymunedol ar gyfer:

  • unrhyw angen sy'n codi y tu allan i'r Deyrnas Unedig
  • costau addysg neu hyfforddiant
  • gwisg ysgol arbennig, dillad neu offer chwaraeon
  • costau teithio yn ôl ac ymlaen i'r ysgol
  • prydau ysgol
  • costau yng nghyswllt achos llys neu gyfreithiol
  • costau symud cartref neu gostau storio, os gall yr awdurdod lleol helpu gyda'r rhain
  • cymorth yn y cartref neu ofal seibiant
  • gwaith atgyweirio ar dai'r awdurdod lleol neu gymdeithas dai
  • eitemau neu wasanaethau meddygol, llawfeddygol, ar gyfer y llygaid, y clyw neu'r dannedd
  • dyledion i adrannau'r llywodraeth, gan gynnwys ôl-ddyledion treth
  • buddsoddiadau
  • Treth Cyngor
  • y rhan fwyaf o gostau tai eraill
  • costau tanwydd, ac eithrio dan rai amgylchiadau
  • costau llai na £30, ac eithrio costau teithio neu fyw beunyddiol
  • costau sy'n gysylltiedig â'r gwaith
  • cost prynu, rhentu neu osod ffôn a chostau galwadau
  • costau byw beunyddiol megis bwyd (oni bai eich bod yn gofalu am garcharor neu droseddwr ifanc sydd wedi'i ryddhau ar drwydded dros dro)

Fel arfer, ni fyddwch yn gallu cael Grant Gofal Cymunedol os ydych chi eisoes wedi gofyn am yr un eitemau neu wasanaethau yn ystod y 28 diwrnod diwethaf.

Sut i wneud cais

Lawrlwytho ffurflen gais Grant Gofal Cymunedol

Os ydych am wneud cais am Grant Gofal Cymunedol gallwch lawrlwytho’r ffurflen isod. Gallwch hefyd ddefnyddio’r ffurflen gais hon os ydych yn gwneud cais am fenthyciad Argyfwng am eitemau a gwasanaethau o ganlyniad i drychineb..

Ceir nodiadau gyda’r ffurflen i’ch helpu i’w llenwi. Bydd y ffurflen hefyd yn dweud wrthych ble i anfon y ffurflen ar ôl ei chwblhau. Nid yw’r ffurflen hon yn berthnasol i Ogledd Iwerddon.

Pryd i wneud cais

Fel arfer, dylech wneud cais ar unwaith.

Os ydych chi'n dal mewn gofal preswyl neu dan ofal sefydliad, gallwch wneud cais hyd at chwe wythnos cyn i chi adael.

Beth i’w wneud os ydych chi’n anhapus gyda’r penderfyniad am eich cais

Os ydych chi'n anhapus gyda phenderfyniad neu ddyfarniad Grant Gofal Cymunedol mae gennych yr hawl i ofyn am adolygiad. Mae’n rhaid i chi ysgrifennu at y Ganolfan Byd Gwaith o fewn 28 diwrnod yn esbonio pam yr oeddech yn meddwl fod y penderfyniad yn anghywir a gofyn iddynt ailystyried.

Os ydych chi'n dal yn anhapus gyda'r canlyniad, gallwch ofyn am adolygiad pellach gan un o Arolygwyr y Gronfa Gymdeithasol. Mae'r broses adolygu'n gyflym ac yn rhwydd, ac ni ddylai gymryd mwy na 12 diwrnod.

Gallwch lawrlwytho'r daflen a'r ffurflen gais, 'Sut mae gofyn am adolygiad annibynnol' oddi ar wefan y Gwasanaeth Adolygu Annibynnol.

Allweddumynediad llywodraeth y DU