Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Taliadau gan y cyngor lleol yw taliadau uniongyrchol. Mae'r rhain ar gyfer unrhyw un yr aseswyd bod angen cymorth y gwasanaethau cymdeithasol arnynt, a'u bod yn dymuno prynu'r gwasanaethau hynny gan rywun arall yn hytrach na'u derbyn yn uniongyrchol gan y cyngor lleol. Rhaid i berson allu rhoi ei ganiatâd i dderbyn taliadau uniongyrchol a gallu'u rheoli hyd yn oed os oes angen help arnynt i wneud hyn o ddydd i ddydd.
Rhaid i'ch cyngor lleol gynnig y dewis i chi gael taliadau uniongyrchol yn lle'r gwasanaethau rydych yn eu derbyn ar hyn o bryd. (Mae rhai amgylchiadau prin pan na roddir y dewis hwn i chi a bydd eich cyngor yn gallu dweud wrthych ynghylch y rhain.)
Er mwyn cael taliadau uniongyrchol, rhaid i chi gysylltu â'ch cyngor lleol i ofyn iddynt asesu'ch anghenion. Mae gwasanaethau cymdeithasol (ac felly taliadau uniongyrchol) ar gael i chi fel arfer os ydych chi:
Os mai penderfyniad y cyngor oedd nad oedd angen gwasanaethau gofal cymdeithasol arnoch, yna, ni fydd yn cynnig taliadau uniongyrchol i chi. Os ydych o'r farn fod eich anghenion neu eich amgylchiadau wedi newid erbyn hyn, gofynnwch i'ch cyngor lleol eich asesu o'r newydd.
Bydd y swm a dderbyniwch yn dibynnu ar asesiad eich cyngor lleol o'ch anghenion.
Gwneir y taliadau uniongyrchol yn syth i'ch cyfrif banc, cymdeithas adeiladu, Swyddfa'r Post® neu Gynilion Cenedlaethol.
Os bydd angen i'r sawl sy'n gofalu amdanoch gasglu'ch arian, neu os ydych wedi'ch cofrestru'n ddall, gellir gwneud y taliad trwy anfon siec y gellir ei chyfnewid am arian yn Swyddfa'r Post®.
Os ydych eisoes yn derbyn gwasanaethau, gofynnwch i'ch cyngor lleol am daliadau uniongyrchol.
Os ydych yn gwneud cais am wasanaethau am y tro cyntaf, dylai eich gweithiwr cymdeithasol drafod yr opsiwn taliadau uniongyrchol gyda chi pan fyddant yn asesu'ch anghenion gofal.
Gallwch ddefnyddio'r arian i drefnu'r gwasanaethau (gan gynnwys cyfarpar) a fydd yn diwallu'ch anghenion yn unol ag asesiad y cyngor lleol.
Fel egwyddor gyffredinol, dylai'r cyngor adael i chi ddewis y ffordd orau o ddiwallu'ch anghenion fel y'u haseswyd gyhyd â'u bod yn fodlon fod y gefnogaeth a/neu'r trefniadau y cytunwyd arnynt, yn cael eu darparu.
Allwch chi ddim defnyddio taliadau uniongyrchol ar gyfer y canlynol:
Cadw cofnodion
Os ydych yn derbyn taliadau uniongyrchol, rhaid i chi roi cyfrif am yr arian a wariwch. Bydd eich cyngor lleol yn dweud wrthych pa gofnodion i'w cadw a pha wybodaeth y bydd disgwyl i chi ei darparu megis taflenni amser wedi'u llofnodi gan gynorthwywyr personol, neu dderbynebau am wasanaethau gan asiantaethau.
Rhaid i'r cyngor fod yn fodlon fod yr anghenion y mae'n rhoi taliadau uniongyrchol i chi ar eu cyfer yn cael eu diwallu. Dylent hwy fod yn dweud wrthych sut y byddant yn gwneud hyn. Gall hyn olygu ymweliad â’ch cartref.
Os ydych yn rhiant neu'n ofalwr 16 oed neu hŷn (gan gynnwys pobl sydd â chyfrifoldeb rhiant dros blentyn anabl), mae'n bosib y byddwch yn gymwys i dderbyn taliadau uniongyrchol.
Ond allwch chi ddim defnyddio taliadau uniongyrchol i brynu gwasanaethau ar gyfer y person yr ydych yn gofalu amdano. Dim ond ar gyfer sicrhau'r gefnogaeth sydd ei hangen arnoch chi, fel gofalwr, yn ôl yr asesiad, y gellir gwario'r arian hwn.
Nid yw taliadau uniongyrchol yn cael eu hystyried yn incwm ac felly nid ydynt yn effeithio ar unrhyw fudd-daliadau eraill yr ydych yn eu derbyn.
Os bydd eich anghenion yn newid (er gwell neu er gwaeth, neu yn yr hirdymor neu'r tymor byr), dywedwch wrth eich cyngor lleol cyn gynted â phosibl er mwyn iddynt allu ailasesu lefel eich taliadau.
Er enghraifft, os na fydd angen i chi wario'r swm llawn oherwydd bod eich cyflwr yn gwella dros dro, neu os byddwch yn cael eich anfon i'r ysbyty, efallai y bydd rhaid iddynt newid eich taliadau.
Os penderfynwch nad ydych am barhau, bydd y cyngor lleol yn trefnu gwasanaethau i chi yn lle hynny.
Os yw'r cyngor yn penderfynu na allwch ymdopi gyda thaliadau uniongyrchol, efallai y bydd yn atal y taliadau uniongyrchol ac yn darparu gwasanaethau yn eu lle.