Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Budd-dal di-dreth yw'r Lwfans Byw i'r Anabl sydd ar gael i blant neu oedolion anabl i helpu gyda’r costau ychwanegol sydd gennych oherwydd eich bod yn anabl. Dewch o hyd i fwy o wybodaeth am Lwfans Byw i’r Anabl, gan gynnwys faint y gallech ei gael.
Eisoes yn hawlio Lwfans Byw i’r Anabl ac am hysbysu newid mewn amgylchiadau – dewch i gael gwybod mwy
Efallai y cewch Lwfans Byw i'r Anabl os:
Gallwch gael Lwfans Byw i'r Anabl os ydych yn gweithio neu beidio.
Fel arfer nid effeithir arno gan unrhyw gynilion neu incwm sydd gennych.
Os ydych chi'n 65 oed neu'n hŷn, efallai y cewch Lwfans Gweini.
Rheolau arbennig - os ydych yn angheuol wael
Mae rheolau arbennig os oes gennych glefyd cynyddol ac nad oes disgwyl i chi fyw'n hwy na chwe mis arall. Mae’r rheolau arbennig i'ch helpu i gael Lwfans Gweini yn gyflym ac yn fwy hawdd.
Archwiliadau meddygol
Fel arfer ni fydd angen archwiliad meddygol arnoch pan fyddwch yn hawlio Lwfans Byw i'r Anabl. Ond, os gofynnir i chi gael archwiliad, gallwch gael mwy o wybodaeth drwy ddilyn y ddolenni isod.
O 2013 bydd budd-dal newydd Taliad Annibyniaeth Bersonol yn disodli’r Lwfans Byw i’r Anabl ar gyfer pobl anabl rhwng 16 a 64 oed.
Defnyddiwch y ddolen ganlynol i gael gwybod mwy am y budd-dal newydd, gan gynnwys beth fydd yn digwydd os ydych eisoes yn cael Lwfans Byw i’r Anabl.
Mae p’un a allwch gael Lwfans Byw i’r Anabl neu beidio, a’r swm a gewch, yn seiliedig ar eich anghenion ac amgylchiadau presennol. Os bydd eich anghenion neu’ch amgylchiadau’n newid, gall eich budd-dal gynyddu, gostwng neu ddod i ben.
Mae dwy ran i Lwfans Byw i'r Anabl a elwir yn 'elfennau':
Dim ond un elfen y bydd gan rai pobl yr hawl iddi tra bydd gan eraill hawl i'r ddwy elfen.
Telir yr elfen ofal a'r elfen symudedd ar wahanol gyfraddau yn dibynnu ar sut y mae'r anabledd yn effeithio arnoch.
Mae’n bwysig eich bod yn rhoi gwybodaeth gywir i’r Gwasanaeth, Anabledd a Gofalwyr er mwyn i chi gael y swm cywir. Os bydd y wybodaeth rydych wedi’i roi yn newid, mae’n rhaid i chi ddweud wrth y Gwasanaeth, Anabledd a Gofalwyr. Byddant yn gwirio eich bod yn dal i gael y swm cywir.
Caiff pob budd-dal, pensiwn a lwfans ei dalu i mewn i gyfrif. Dyma’r ffordd fwyaf diogel, cyfleus ac effeithlon o gael ei dalu.
Os byddwch chi'n dechrau cael Lwfans Byw i'r Anabl, efallai y bydd yn cynyddu'r budd-daliadau eraill y mae gennych chi'r hawl i'w cael, er enghraifft:
Fel arfer bydd Lwfans Byw i'r Anabl yn cael ei anwybyddu fel incwm wrth gyfrifo'r budd-daliadau cysylltiedig ag incwm hyn a chredydau treth.
Gwnewch cais yn syth - os bydd oedi, efallai y byddwch chi'n colli budd-dal.
Gallwch wneud cais ar-lein neu gallwch gael pecyn cais drwy:
Isod, cewch wybod mwy am 'Lwfans Byw i’r Anabl - cyfraddau a sut i'w hawlio'
Mae eich hawl i Lwfans Byw i’r Anabl a’r swm a gewch yn seiliedig ar y wybodaeth a rhoddwyd gennych i’r Gwasanaeth, Anabledd a Gofalwyr. Os bydd y wybodaeth hon yn newid, eich cyfrifoldeb chi yw dweud wrth y Gwasanaeth, Anabledd a Gofalwyr. Gallant wirio os ydych dal yn gymwys i gael budd-dal a’ch bod yn cael y swm cywir.
Os ydych yn ansicr pa newidiadau sydd angen i chi roi gwybod iddynt, darllenwch ‘Lwfans Byw i’r Anabl - eich amgylchiadau’.
Cynhyrchwyd cyfres o ffilmiau mewn Iaith Arwyddion Prydain ar gyfer pobl sy’n fyddar neu drwm eu clyw. Mae’r pedwar ffilm gyntaf yn rhoi gwybodaeth sylfaenol am wahanol fudd-daliadau, a bydd yr un olaf yn esbonio sut i wneud cais os ydych yn gymwys.