Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Lwfans Gweini Cyson

Os oes angen sylw a gofal dyddiol arnoch oherwydd anabledd a chithau'n hawlio Budd-dal Anabledd Anafiadau Diwydiannol neu Bensiwn Anabledd Rhyfel gallwch hawlio Lwfans Gweini Cyson.

Pwy sy'n gymwys?

Er mwyn bod yn gymwys i gael Lwfans Gweini Cyson, mae'n rhaid i chi fod yn hawlio un o'r canlynol:

  • Budd-dal Anabledd Anafiadau Diwydiannol
  • Pensiwn Anabledd Rhyfel

Os ydych yn hawlio Budd-dal Anabledd Anafiadau Diwydiannol

I hawlio Lwfans Gweini Cyson, rhaid i chi:

  • fod ag angen gofal a sylw beunyddiol (er enghraifft, nyrsio gartref neu brydau yn y cartref)
  • fod yn 100 y cant anabl (yn ôl archwiliad meddygol)

Gallwch gysylltu â'ch swyddfa Canolfan Byd Gwaith leol i ganfod a ydych yn gymwys i hawlio Lwfans Gweini Cyson.

Os ydych yn cael Pensiwn Anabledd Rhyfel

I hawlio Lwfans Gweini Cyson, rhaid i chi:

  • fod ag angen cymorth personol am yr un rhesymau ag yr ydych yn cael pensiwn rhyfel
  • fod yn cael pensiwn rhyfel o 80 y cant neu fwy

I gael gwybod a ydych chi'n gymwys i hawlio Lwfans Gweini Cyson, cysylltwch â llinell gymorth Asiantaeth Cyn-aelodau'r Lluoedd Arfog ar:

Ffôn: 0800 169 2277

Ffôn testun: 0800 169 3458

Mae’r llinell gymorth ar agor rhwng 8.15am a 5.15pm o ddydd Llun i ddydd Iau a rhwng 8.15am a 4.30pm ar ddydd Gwener.

Faint fyddwch chi'n ei gael?

Mae Lwfans Gweini Cyson ar gael ar bedair cyfradd wahanol, yn dibynnu ar faint eich anabledd a faint o ofal sydd ei angen arnoch:



Cyfradd Swm wythnosol
cyfradd eithriadol £126.60
cyfradd ganolradd £94.95
cyfradd uchaf arferol £63.30
cyfradd ran amser £31.65

Sut mae Lwfans Gweini Cyson yn cael ei dalu

Caiff pob budd-dal, pensiwn a lwfans ei dalu i mewn i gyfrif. Dyma’r ffordd fwyaf diogel, cyfleus ac effeithlon o gael ei dalu.

Sut i wneud cais

Ar gyfer achosion anaf diwydiannol

Gofynnwch am ffurflen gais BI104W yn eich Canolfan Byd Gwaith leol.

Neu gallwch lawrlwytho'r ffurflen gais isod.

Ar gyfer achosion pensiwn rhyfel

Gall Asiantaeth Cyn-aelodau'r Lluoedd Arfog anfon ffurflen gais atoch (WPA 0003 (CAA).

Gallwch ffonio'u llinell gymorth ar:

Ffôn: 0800 169 2277

Ffôn testun: 0800 169 3458

Mae’r llinell gymorth ar agor rhwng 8.15am a 5.15pm o ddydd Llun i ddydd Iau a rhwng 8.15am a 4.30pm ar ddydd Gwener.

Beth i'w wneud os bydd eich amgylchiadau'n newid

Dylech ddweud wrth eich Canolfan Byd Gwaith leol neu Asiantaeth Cyn-aelodau'r Lluoedd Arfog os bydd eich amgylchiadau'n newid. Er enghraifft:

  • os byddwch yn mynd i'r ysbyty neu'n gadael yr ysbyty
  • os byddwch yn mynd i neu'n gadael cartref nyrsio neu ofal preswyl
  • os bydd eich cymar yn mynd i'r ysbyty (os ydych yn cael arian ychwanegol amdano/i)
  • os byddwch yn gadael y DU i fyw dramor yn barhaol

Sut i apelio

Os gwrthodir Lwfans Gweini Cyson i chi, neu os oes gennych gwestiynau am eich taliad, gallwch ofyn i'r swyddfa Canolfan Byd Gwaith a fu'n delio gyda'ch cais edrych eto ar eu penderfyniad.

Os ydych chi'n dal i fod yn anhapus gyda'r canlyniad, gallwch apelio.

Beth arall y mae angen i chi ei wybod

Os ydych yn cael 'cyfradd eithriadol' neu 'gyfradd ganolradd' Lwfans Gweini Cyson, efallai y byddwch hefyd yn gallu cael Lwfans Anabledd Difrifol Eithriadol. Gallwch gysylltu ag Asiantaeth Cyn-aelodau'r Lluoedd Arfog neu swyddfa leol y Ganolfan Byd Gwaith am gyngor.

I gael cyngor cyffredinol, ffoniwch y Llinell Ymholiadau am Fudd-daliadau ar:

Ffôn:0800 882 200

Ffôn testun: 0845 608 8551

Mae’r llinellau ar agor rhwng 8.30 am a 6.30 pm o ddydd Llun i ddydd Gwener a rhwng 9.00 am ac 1.00 pm ar ddydd Sadwrn.

Allweddumynediad llywodraeth y DU