Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Taliad Niwed Trwy Frechiad

Os ydych chi'n ddifrifol anabl o ganlyniad i frechiad rhag clefydau penodol, mae'n bosibl y cewch chi Daliad Niwed Trwy Frechiad. Mae hyn yn daliad untro di-dreth o £120,000. Dewch o hyd i fwy o wybodaeth am Daliad Niwed Trwy Frechiad, gan gynnwys sut i wneud cais.

Pwy all hawlio Taliad Niwed Trwy Frechiad?

Mae'n bosibl y cewch chi daliad os ydych yn ddifrifol anabl a bod eich anabledd wedi'i achosi gan frechiad rhag unrhyw un o'r clefydau canlynol:

  • diphtheria
  • tetanws
  • y pas
  • poliomyelitis
  • y frech goch
  • clwy'r pennau
  • rubella (y Frech Almaenig)
  • tiwberciwlosis (TB/y diciâu)
  • ffliw haemophilus math B (HIB)
  • meningococaidd grŵp C (meningitis C)
  • heintiad niwmococol
  • feirws papiloma dynol
  • y ffliw pandemig A (H1N1) 2009 (ffliw moch) – hyd at 31 Awst 2010
  • y frech wen - hyd at 1 Awst 1971

Mae'n bosibl eich bod wedi cael brechiad cyfun rhag nifer o'r clefydau a restrir, er enghraifft DTP (diphtheria, tetanws a'r pas) neu MMR (y frech goch, clwy'r pennau a'r frech Almaenig).

Mae'n bosibl hefyd y gallwch chi gael y taliad os tybir eich bod yn ddifrifol anabl oherwydd:

  • naill ai bod eich mam wedi'i brechu rhag un o'r clefydau yn y rhestr pan oedd yn feichiog
  • eich bod wedi bod mewn cysylltiad corfforol agos gyda rhywun sydd wedi'i frechu rhag poliomyelitis drwy gael brechlyn trwy'r geg

Beth yw 'anabledd difrifol'

Mesurir anabledd ar ffurf canran, ac ystyr 'anabledd difrifol' yw anabledd o 60 y cant o leiaf. Gallai hyn fod yn anabledd meddyliol neu'n anabledd corfforol.

Er enghraifft, fel arfer, ystyrir bod colli'r golwg neu'r clyw'n llwyr yn anabledd o 100 y cant.

Pryd a ble mae'n rhaid i'r brechiad wedi cael eu cynnal

I fod yn gymwys i gael Taliad Niwed Trwy Frechiad, rhaid i chi fel arfer wedi cael eu brechu cyn eich pen-blwydd yn 18 mlwydd oed. Nid yw hyn yn gymwys os bydd y brechiad yn ystod achosion o'r clefyd yn y DU neu Ynys Manaw, neu ei bod yn erbyn:

  • poliomyelitis
  • y frech Almaenig
  • meningococaidd grŵp C
  • feirws papiloma dynol
  • y ffliw pandemig A (H1N1) 2009 (ffliw moch)

Rhaid i'r brechiad gael ei roi yn y DU neu ar Ynys Manaw.

Os rhoddwyd y brechiad y tu allan i'r DU, gallwch gael taliad os cewch eich brechu fel rhan o driniaeth feddygol y Lluoedd Arfog.

Pryd i wneud cais

Os byddwch yn hawlio ar ran plentyn, mae’n rhaid i chi ddisgwyl iddynt fod yn ddwy oed o leiaf.

Mae’n rhaid gwneud y cais erbyn y dyddiad diweddaraf o'r ddau canlynol:

  • erbyn neu cyn pen-blwydd y person anabl yn 21 oed (neu os ydynt wedi marw, y dyddiad y byddent wedi cyrraedd 21 oed)
  • o fewn chwe blynedd i ddyddiad y brechiad

Faint fyddwch chi'n ei gael?

Y swm yw £120,000 yn ddi-dreth.

Sut mae Taliad Niwed Trwy Frechiad yn cael ei dalu

Byddwch yn derbyn taliad yn uniongyrchol i chi neu, os ydych o dan 18 neu nid ydych yn gallu rheoli eich materion eich hunain, bydd yr ymddiriedolwr yn derbyn y taliad.

Os ydych chi’n byw gyda’ch teulu, gellir penodi eich rhieni yn ymddiriedolwyr.

Caiff pob budd-dal, pensiwn a lwfans ei dalu i mewn i gyfrif. Dyma’r ffordd fwyaf diogel, cyfleus ac effeithlon o gael ei dalu.

Yr effaith ar fudd-daliadau eraill

Gall eich Taliad Niwed Trwy Frechiad effeithio ar fudd-daliadau a hawliadau eraill, megis:

  • Cymhorthdal Incwm
  • Lwfans Ceisio Gwaith yn Seiliedig ar Incwm
  • Credyd Treth Gwaith
  • Credyd Treth Plant
  • Credyd Pensiwn
  • Budd-dal Tai
  • Budd-dal Treth Cyngor
  • Lwfans Cyflogaeth a Chymorth

Bydd yr effaith gaiff y taliad yn dibynnu ar sawl peth, gan gynnwys a fydd y taliad yn cael ei roi mewn cronfa ymddiriedolaeth a'r taliadau'n cael eu gwneud ohoni.

Dylech roi gwybod i'r swyddfa sy'n delio â'ch cais am fudd-dal neu gredyd treth os cewch chi Daliad Niwed Trwy Frechiad a byddant yn gallu rhoi mwy o wybodaeth i chi.

Sut i wneud cais am Daliad Niwed Trwy Frechiad

Gallwch gysylltu â'r Uned Taliadau Niwed Trwy Frechiad i ofyn am ffurflen gais:

Vaccine Damage Payment Unit

Palatine House, Lancaster Road

Preston, PR1 1HB

Ffôn 01772 899 944

Ffôn testun 0845 60 45 312

Gallwch hefyd ddefnyddio Text Relay.

Mae llinellau ar agor rhwng 8.30 am a 5.00 pm o ddydd Llun tan ddydd Iau, a rhwng 8.30 am a 4.30 pm ar ddydd Gwener.

Neu gallwch lawrlwytho ffurflen gais i'w hargraffu a'i chwblhau

Os ydych o dan 18 oed, dylai eich rhiant neu eich gwarcheidwad hawlio ar eich rhan.

Beth sy'n digwydd ar ôl i chi anfon y ffurflen gais?

Unwaith i'r Uned Taliadau Niwed Trwy Frechiad dderbyn eich cais, bydd yn gofyn am dystiolaeth feddygol gan y meddygon neu'r ysbytai sy'n ymwneud â'ch triniaeth.

Bydd cais yn llwyddiannus os derbynnir:

  • bod eich anabledd wedi'i achosi gan frechiad
  • bod y lefel o anabledd y gellir ei phriodoli'n uniongyrchol i'r brechiad yn 60 y cant o leiaf

Anfonir llythyr atoch i ddweud beth yw canlyniad y cais.

Sut i apelio

Os ydych yn anghytuno â phenderfyniad y Tribiwnlys Haen Gyntaf, gallwch ofyn i'r penderfyniad gael ei ystyried eto. Gallwch ofyn i’r Uned Taliadau Niwed Trwy Frechiad neu gallwch ofyn am apêl i'r Tribiwnlys Uchaf.

Os gwrthodir eich cais a'ch bod yn anghytuno â'r penderfyniad, gallwch ofyn i'r penderfyniad gael ei ystyried eto. Gallwch ofyn i'r Uned Taliadau Niwed Trwy Frechiad, neu gallwch apelio i Dribiwnlys Haen Gyntaf annibynnol.

Os tybiwch fod y wybodaeth berthnasol heb ei hystyried gallwch ofyn i'r penderfyniad gael ei ystyried eto. Gallwch hefyd ofyn os daw gwybodaeth newydd i'r golwg. Yr Uned Taliadau Niwed Trwy Frechiad fydd yn ailystyried y penderfyniad.

Allweddumynediad llywodraeth y DU