Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Budd-dal Anabledd Anafiadau Diwydiannol (damweiniau)

Efallai y gallwch gael Budd-dal Anabledd Anafiadau Diwydiannol (damweiniau) os ydych yn sâl neu'n anabl oherwydd damwain neu ddigwyddiad a oedd yn gysylltiedig â'ch gwaith. Bydd y swm a gewch yn dibynnu ar eich amgylchiadau unigol.

Pwy sy'n gymwys

Gallech wneud cais am Fudd-dal Anabledd Anafiadau Diwydiannol:

  • os oeddech yn gyflogedig pan ddigwyddodd y ddamwain neu'r digwyddiad
  • os digwyddodd y ddamwain neu'r digwyddiad gwaith a achosodd eich salwch neu'ch anabledd yng Nghymru, Lloegr neu'r Alban

Mae rhai eithriadau i hyn - holwch eich canolfan Budd-dal Anabledd Anafiadau Diwydiannol ranbarthol.

Pwy nad yw’n gymwys

Ni allwch wneud cais am Fudd-dal Anabledd Anafiadau Diwydiannol os oeddech yn hunangyflogedig yn y gwaith a achosodd eich damwain.

Faint fyddwch yn ei gael?

Mae faint o fudd-dal a gewch yn dibynnu ar:

  • eich oedran
  • pa mor ddifrifol yw eich anabledd - fe'i asesir gan feddyg ar raddfa o un i 100 y cant

Budd-dal Anabledd Anafiadau Diwydiannol (damweiniau)

Arweiniad yn unig yw'r holl symiau hyn:


Difrifoldeb yr anabledd, yn ôl yr asesiad Dros 18 oed (swm wythnosol) Dan 18 oed heb ddibynyddion (swm wythnosol)
100% £158.10 £96.90
90% £142.29 £87.21
80% £126.48 £77.52
70% £110.67 £67.83
60% £ 94.86 £58.14
50% £ 79.05 £48.45
40% £ 63.24 £38.76
30% £ 47.43 £29.07
20% £ 31.62 £19.38

Sut y telir Budd-dal Anabledd Anafiadau Diwydiannol (damweiniau)

Caiff pob budd-dal, pensiwn a lwfans ei dalu i gyfrif. Dyma’r ffordd fwyaf diogel, cyfleus ac effeithlon o gael ei dalu.

Yr effaith ar fudd-daliadau eraill

Os ydych yn cael Budd-dal Anabledd Anafiadau Diwydiannol, mae’n bosibl y bydd hyn yn effeithio ar fudd-daliadau eraill rydych yn eu cael sy’n dibynnu ar faint o arian sydd gennych yn dod i mewn.

Os ydych yn cael Cymhorthdal Incwm, neu unrhyw fath arall o fudd-dal am eich bod ar incwm isel, cysylltwch â’r swyddfa sy’n delio â’ch cais er mwyn cael rhagor o wybodaeth.

Sut i wneud cais

Gallwch wneud cais am Fudd-dal Anabledd Anafiadau Diwydiannol drwy gwblhau ffurflen gais.

Gallwch gael ffurflen gais gan eich canolfan Budd-dal Anabledd Anafiadau Diwydiannol ranbarthol neu gallwch lawrlwytho copi.

Rhoi gwybod ynghylch damwain yn y gweithle

Gallwch wneud cais am ddatganiad eich bod wedi cael damwain ddiwydiannol, hyd yn oed os nad ydych yn dymuno gwneud cais am unrhyw fudd-dal ar unwaith.

Mae'n syniad da gwneud cais am ddatganiad os nad ydych yn anabl yn syth ar ôl eich damwain, ond eich bod yn meddwl y gallech brofi rhai problemau yn y dyfodol o ganlyniad iddi.

Beth i'w wneud os bydd eich amgylchiadau'n newid

Mae'n bwysig eich bod yn cysylltu â'r swyddfa sy'n delio â'ch taliadau os ydych chi neu rywun yr ydych yn hawlio drostynt:

  • yn mynd i'r ysbyty neu'n gadael yr ysbyty
  • yn mynd i gartref gofal neu'n gadael cartref gofal
  • yn mynd i fyw dramor neu'n mynd i ymweld â gwlad dramor
  • yn mynd i'r carchar

Mae'n debygol y byddwch chi neu'r person yr ydych yn gofalu amdano yn parhau i gael y Budd-dal Anabledd Anafiadau Diwydiannol - hyd yn oed os byddwch yn mynd dramor yn barhaol.

Nid yw Lwfans Enillion Is yn daladwy os byddwch yn symud dramor yn barhaol.

Gall y swyddfa sy’n delio â’ch taliad rhoi mwy o wybodaeth i chi.

Budd-daliadau eraill y gallech eu cael

Lwfans Gweini Cyson

Gallwch hawlio am ddamweiniau os asesir bod gennych anabledd 100 y cant a bod angen gofal a sylw dyddiol arnoch.

Bydd cyfradd y Lwfans Gweini Cyson a delir i chi yn seiliedig ar asesiad meddyg o'ch anghenion.

Lwfans Anabledd Difrifol Eithriadol

Gallwch hawlio £63.30 a delir yn ychwanegol i gyfraddau'r Lwfans Gweini Cyson, os bydd yr asesiad yn penderfynu eich bod yn gymwys ar gyfer cyfradd ganolradd neu eithriadol y Lwfans Gweini Cyson, a bod angen gofal a sylw cyson a pharhaus arnoch.

Lwfans Enillion Is

Efallai y gallwch gael Lwfans Enillion Is os yw eich enillion presennol, neu'ch enillion mewn swydd y tybir y gallech chi ei gwneud, yn llai na'r enillion presennol yn eich swydd reolaidd flaenorol. Dim ond os digwyddodd eich damwain cyn 1 Hydref 1990 y cewch chi Lwfans Enillion Is. Y gyfradd wythnosol uchaf yw £63.24.

Lwfans Ymddeol

Bydd Lwfans Ymddeol yn disodli Lwfans Enillion Is pan fyddwch yn cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth. Y gyfradd wythnosol uchaf yw £15.81.

Cymorth i aros mewn gwaith

Os yw eich iechyd neu eich anabledd yn effeithio ar y ffordd y gwnewch eich swydd, mae’n bosibl y gallai’r cynllun Mynediad at Waith eich helpu i aros mewn gwaith.

Allweddumynediad llywodraeth y DU