Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Os ydych chi'n bensiynwr rhyfel a bod angen triniaeth feddygol neu ofal arnoch oherwydd i chi gael eich gwneud yn anabl tra'n gwasanaethu yn y Lluoedd Arfog yn ystod rhyfel, efallai y gall Asiantaeth Cyn-aelodau'r Lluoedd Arfog eich helpu gyda'ch costau. Gall y Gwasanaeth Lles Pensiynwyr Rhyfel (WPWS) roi cyngor i chi.
Os cawsoch anaf neu'ch gwneud yn anabl yn sgîl eich gwasanaeth yn Lluoedd Arfog EM mae'n bosibl bod gennych yr hawl i Bensiwn Anabledd Rhyfel a allai eich cynorthwyo i dalu am ofynion meddygol megis:
Cysylltwch â llinell gymorth rhad Asiantaeth Cyn-aelodau'r Lluoedd Arfog ar 0800 169 2277, ffôn testun 0800 169 3458 (rhwng 8.15 am a 5.15 pm o ddydd Llun i ddydd Iau a rhwng 8.15 am a 4.30 pm ar ddydd Gwener).
Os ydych chi’n galw o dramor: +44 (0)1253 866 043 neu e-bost: veterans.help@spva.gsi.gov.uk
Gall y Gwasanaeth hwn eich helpu i hawlio Pensiwn Anabledd Ryfel os ydych chi'n gymwys. Gallant hefyd eich helpu mewn ffyrdd eraill megis cysylltu â'r gwasanaethau cymdeithasol ar eich rhan.
Dim ond cyn aelodau'r lluoedd arfog gaiff hawlio hwn. Allwch chi ddim hawlio Pensiwn Anabledd Rhyfel os ydych yn dal i wasanaethu yn Lluoedd Arfog EM.
Mae eich hawl i gael Pensiwn Anabledd Rhyfel yn dibynnu ar ddifrifoldeb eich anabledd; ar ddifrifoldeb unrhyw anaf neu niwed corfforol neu feddyliol, neu ar i ba raddau y collwyd unrhyw allu corfforol neu feddyliol. Caiff pob cais am atodiad neu lwfans ei asesu ar wahân.
Fel arfer bydd costau meddygol i bensiynwyr rhyfel yn cael eu talu gyda'ch Pensiwn Anabledd Rhyfel i'ch cyfrif banc, cymdeithas adeiladu, Swyddfa'r Post® neu Gynilion Cenedlaethol sy'n derbyn Taliad Uniongyrchol.
Os ydych yn ddall, neu os oes angen i'r sawl sy'n gofalu amdanoch gasglu'r arian, bydd modd anfon siec y gellir ei chyfnewid am arian yn Swyddfa'r Post®.
Ni chodir treth ar Daliadau Meddygol i Bensiynwyr Rhyfel ac ni chaiff y taliadau hyn effaith ychwaith ar unrhyw fudd-daliadau neu gredydau treth y gallech chi fod yn eu cael. Ond mae'n bosibl y gallai taliadau eraill gan Asiantaeth Cyn-aelodau'r Lluoedd Arfog gael effaith.
Gall Asiantaeth Cyn-aelodau'r Lluoedd Arfog eich helpu gyda'ch cais. Byddant yn gofyn am eich enw llawn a'ch rhif Yswiriant Gwladol.
Cysylltwch ag Asiantaeth Cyn-aelodau'r Lluoedd Arfog am ddim ar 0800 169 2277, ffôn testun 0800 169 3458 (rhwng 8.15 am a 5.15 pm o ddydd Llun i ddydd Iau a rhwng 8.15 am a 4.30 pm ar ddydd Gwener).
Os ydych chi'n ffonio o dramor: +44 (0)1253 866 043 neu anfonwch e-bost at: veterans.help@spva.gsi.gov.uk
Os byddwch chi'n anghytuno â phenderfyniad am eich hawliad, efallai byddwch yn gallu apelio, ond cyn gwneud hynny:
Os ydych chi'n dal i fod yn anhapus â'r canlyniad, gofynnwch i Asiantaeth Cyn-aelodau'r Lluoedd Arfog a allwch chi apelio - fe gewch gyngor ganddynt.
Os dywedir wrthych na allwch apelio, gallwch ofyn i Bwyllgor Pensiwn Rhyfel adolygu'ch achos. Bydd Asiantaeth Cyn-aelodau'r Lluoedd Arfog yn eich cynghori ynghylch pwy y dylech gysylltu â hwy.
Anghenion oherwydd anabledd
Os oes angen gwasanaethau arnoch megis lifft grisiau, addasu ystafell ymolchi neu system larwm personol, gall y Gwasanaeth Lles Pensiynwyr Rhyfel eich helpu i gael y rhain gan eich gwasanaethau cymdeithasol lleol.
Gallant hefyd gysylltu â sefydliadau cyn-aelodau'r lluoedd arfog i'ch helpu i gael arian i brynu cadair olwyn a sgwter.