Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Budd-daliadau a phensiynau cyn-filwyr y lluoedd arfog

Mae'n bosib fod gan unrhyw un sydd wedi gwasanaethu yn Lluoedd Arfog y DU hawl i gymorth ariannol. Mae hyn yn cynnwys gwragedd a gwŷr gweddw a dibynyddion y rhai a fu'n gwasanaethu. Yma cewch wybod pa bensiynau neu daliadau eraill sydd ar gael.

Pwy sy'n gyn-filwr?

Mae unrhyw un sydd wedi gwasanaethu yn Lluoedd Arfog y DU yn gyn-filwr. Mae'r term yn cynnwys eu gwŷr/gwragedd gweddw a'u dibynyddion hefyd.

Does dim rhaid i chi fod wedi gwasanaethu am gyfnod penodol i gael eich ystyried yn gyn-filwr, a does dim rhaid i chi fod wedi gwasanaethu mewn rhyfel.

Taliadau gan Asiantaeth Personél Milwrol a Chyn-aelodau'r Lluoedd Arfog

Gall yr hawliadau i gyn-filwyr gynnwys pensiynau a thaliadau eraill.

Efallai fod gennych hawl i unrhyw rai o'r pensiynau neu daliadau dan y cynlluniau canlynol::

Y Cynllun Pensiynau Rhyfel

  • Pensiwn Anabledd Rhyfel (a lwfansau atodol)
  • Pensiwn Rhyfel Gwŷr neu Wragedd Gweddw

Y Cynllun Iawndal y Lluoedd Arfog

Cyflwynwyd hwn ar 6 Ebrill 2005 ar gyfer anafiadau a chlwyfau a ddioddefwyd wrth wasanaethu ar neu ar ôl y dyddiad hwn. Mae’n cynnwys:

  • taliad unswm ar sail tariff
  • Taliad Incwm wedi'i warantu am oes

Ffoniwch linell gymorth Asiantaeth Personél Milwrol a Chyn-aelodau'r Lluoedd Arfog i hawlio eich pensiwn yn uniongyrchol neu gael gwybodaeth ynghylch:

  • lwfansau atodol
  • talu am driniaeth feddygol
  • gofal ar gyfer cyn-filwyr
  • unrhyw faterion cyffredinol sy'n effeithio ar gyn filwyr

Ffôn: 0800 169 2277 (galwadau am ddim yn y DU)

Ffôn (minicom): 0800 169 3458

8.15 am i 5.15 pm o ddydd Llun i ddydd Iau, a 8.15 am i 4.30 pm ar ddydd Gwener.

Cefnogaeth ariannol arall

Os nad oes gennych hawl i Bensiwn Anabledd Rhyfel, taliad unswm ar sail tariff na'r Taliad Incwm wedi'i warantu, efallai y gallwch gael cymorth arall.

Mae gan gyn-filwyr a'u dibynyddion y mae angen cymorth lles arnynt yr un hawl i fudd-daliadau â holl ddinasyddion eraill y DU. Gall Asiantaeth Personél Milwrol a Chyn-aelodau'r Lluoedd Arfog helpu gyda gwybodaeth am fudd-daliadau eraill y gallech fod â hawl iddynt.

Gofal iechyd

Efallai y gall Asiantaeth Personél Milwrol a Chyn-aelodau'r Lluoedd Arfog eich helpu gyda'ch costau:

  • os ydych chi'n bensiynwr rhyfel
  • os oes angen triniaeth feddygol neu ofal arnoch oherwydd i chi gael eich anafu neu eich gwneud yn anabl tra'n gwasanaethu yn y Lluoedd Arfog yn ystod rhyfel

Gall y Gwasanaeth Lles Pensiynwyr Rhyfel (WPWS) roi cyngor i chi am ofal iechyd. Gallwch gysylltu â'ch Swyddfa Lles Pensiynwyr Rhyfel yn lleol trwy linell gymorth Asiantaeth Personél Milwrol a Chyn-aelodau'r Lluoedd Arfog.

Mae Cymdeithas Lles Meddwl Cyn-filwyr, ‘Combat Stress’, yn elusen ar gyfer y lluoedd arfog. Mae'n arbenigo mewn helpu cyn-filwyr sy'n dioddef gydag anabledd seicolegol yn sgîl eu gwasanaeth.

Mae St Dunstan's yn helpu cyn-filwyr sydd wedi colli cyfran sylweddol o'u golwg, o ganlyniad i wasanaethu neu fel arall.

Ysbytai

Fel cyn-filwr, mae gennych hawl i driniaeth fel blaenoriaeth yn ysbytai'r GIG am anaf neu salwch yr ydych yn derbyn Pensiwn Anabledd Rhyfel amdano.

Anabledd

Gall adran gwasanaethau cymdeithasol eich awdurdod lleol helpu gyda lifftiau grisiau, addasiadau i'r ystafell ymolchi, neu systemau larwm personol. Gall y Gwasanaeth Lles Pensiynwyr Rhyfel (WPWS) helpu gyda hyn a budd-daliadau lles eraill.

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â llinell gymorth Asiantaeth Personél Milwrol a Chyn-aelodau'r Lluoedd Arfog.

Cartrefi nyrsio

I gael gwybodaeth am gartrefi gofal seibiant, ymadfer a nyrsio ar gyfer cyn-filwyr, gallwch gysylltu â'r Lleng Frenhinol Brydeinig. Ffoniwch 08457 725 725, rhwng 10.00 am a 4.00 pm, dydd Llun i ddydd Gwener.

Swyddi

Mae'r Bartneriaeth Pontio Gyrfa (CTP) yn darparu gwasanaeth ailsefydlu di-dâl i bobl sy'n gadael y lluoedd arfog. Mae'n darparu gwasanaethau dod o hyd i waith a chymorth arall gyda chyflogaeth am ddwy flynedd ar ôl gadael.

Mae Cymdeithas Gyflogaeth y Lluoedd Rheolaidd (RFEA) yn helpu cyn-filwyr i ddod o hyd i waith gydol eu hoes gwaith.

Mae Cymdeithas y Swyddogion yn elusen ar gyfer swyddogion sydd wedi ymddeol neu ar fin ymddeol o'r Lluoedd Arfog. Mae'n helpu gyda chyflogaeth, llety preswyl ac yn cynnig cyngor a chymorth ariannol.

Tai a digartrefedd

Gallwch gysylltu â'r gymdeithas isod i gael cyngor, cefnogaeth a chymorth ynghylch tai a digartrefedd.

Mae Cymdeithas Cymorth y Lluosedd - 'The Soldiers, Sailors, Airmen and Families Association – Forces Help (SSAFA Forces Help)' yn cynnig cymorth a gwybodaeth i gynaelodau'r Lluoedd Arfog am dai a materion eraill sy'n ymwneud â lles. Cysylltwch â Gwasanaeth Cyngor am Dai Cymdeithas Cymorth y Lluoedd Arfog ar 01722 436 400.

Os oes angen gwybodaeth arnoch am gartrefi preswyl cyn aelodau'r Lluoedd, cysylltwch a’r Lleng Brydeinig Frenhinol ar 08457 725 725.

Cymorth gan sefydliadau anllywodraethol

Gall sefydliadau i gyn-filwyr hefyd ddarparu cymorth ar gyfer asesu eich hawliau i bensiwn neu fudd-daliadau.

Mae'r Lleng Frenhinol Brydeinig yn darparu cymorth a chyngor di-dâl i gyn-filwyr a'u dibynyddion. Gallant eich helpu i wneud cais am bensiynau rhyfel, Pensiwn Rhyfel Gwŷr a Gwragedd Gweddw a lwfansau eraill.

Mae Cymdeithas Pensiynau'r Lluoedd yn darparu cyngor i helpu gyda phroblemau pensiwn unigol.

Additional links

Taliad Tywydd Oer

Os ydych chi ar incwm isel efallai y byddwch yn gymwys am Daliad Tywydd Oer

Cymorth gwresogi ac insiwleiddio

Os ydych yn derbyn budd-daliadau penodol gallech fod yn gymwys i gael cymorth i wresogi ac insiwleiddio eich cartref

Allweddumynediad llywodraeth y DU