Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Os bydd cynllun pensiwn eich cwmni'n mynd yn brin o arian, a'r cwmni’n mynd yn fethdalwr, gallai eich pensiwn fod mewn perygl. Mae’n bosib y bydd cymorth ariannol ar gael os byddwch yn colli allan ar eich pensiwn. Bydd hyn yn dibynnu ar y math o bensiwn a phryd cafodd y pensiwn ei ddirwyn i ben.
Mae'n bosib i gynllun fynd yn brin o arian os yw'n gynllun 'cyflog terfynol'. Ni all cynllun 'pwrcasu arian' fynd yn brin o arian.
Bydd eich cyfraniadau chi (a chyfraniadau'ch cyflogwr) yn cael eu buddsoddi ar eich rhan gan gwmni yswiriant neu gan reolwr proffesiynol. Ni fydd yn bosib i chi gael gwybod faint o bensiwn a gewch yn y pen draw gan ei fod yn dibynnu ar ba mor dda mae'r buddsoddiad wedi perfformio. Yn yr ystyr hwnnw, dim ond achos o dwyll neu ddwyn a all arwain at ddiffyg yn y cynllun. Mewn amgylchiadau o’r fath, efallai y bydd yn bosib adfer rhywfaint o’r arian drwy’r Gronfa Diogelu Pensiynau.
Mae gan bob aelod o gynllun pwrcasu arian gronfa bensiwn ar wahân sy’n darparu eu buddion.
Mae'r swm a gewch yn seiliedig ar eich cyflog a nifer y blynyddoedd rydych chi wedi bod yn rhan o’r cynllun. Rhoddir yr holl arian mewn un cronfa bensiwn a bydd honno’n darparu buddion i'r holl aelodau sydd wedi ymddeol.
Gall eich cynllun fynd yn brin o arian os yw cyfanswm ei fuddsoddiadau (sy’n cynnwys holl gyfraniadau’r aelodau a wnaed hyd yma) yn llai na:
Yn y rhan fwyaf o achosion, os yw cynllun yn mynd yn brin o arian, mae cefnogaeth ar gael i ddigolledu aelodau.
Os aiff eich cwmni’n fethdalwr, ni ellir defnyddio ei gronfa bensiwn i dalu dyledion y cwmni, felly mae'r gronfa wedi'i diogelu.
Fodd bynnag, efallai y bydd arian yn ddyledus i'r gronfa bensiwn gan y cwmni. Fel arfer, bydd y gronfa bensiwn yn gredydwr ansicredig ond efallai y bydd wedi sicrhau statws uwch a mwy ffafriol â’r cyflogwr mewn rhai achosion. Mae credydwyr eraill sydd â statws is na chredydwyr ansicredig.
Ceir deddfwriaeth sy’n mynnu bod y cyflogwr yn ysgwyddo’r ddyled os bydd diffyg mewn cynllun pensiwn galwedigaethol cyflog terfynol sy’n cael ei ddirwyn i ben. Diben hyn yw gwella’r warchodaeth a gynigir i aelodau’r cynllun pan fydd hyn yn digwydd. Mae’n darparu mecanwaith i'r ymddiriedolwyr gymryd camau i fynd ar drywydd y diffyg sy'n ddyledus i'r cynllun gan y cyflogwr.
Gallai diffyg yn y gronfa olygu eich bod yn cael llai o bensiwn. Ond efallai y byddwch yn gymwys i gael cymorth ariannol gan y Gronfa Diogelu Pensiynau neu'r Cynllun Cymorth Ariannol.
Diogelir aelodau cynlluniau pensiwn galwedigaethol buddion diffiniedig drwy’r Gronfa Diogelu Pensiynau. Bydd y Gronfa yn talu iawndal rheolaidd, yn seiliedig ar faint eich pensiwn, os aiff y cwmni’n fethdalwr a bod y cynllun pensiwn yn methu talu eich pensiwn. Mae'r Gronfa'n berthnasol i'r rhan fwyaf o gynlluniau pensiwn galwedigaethol buddion diffiniedig lle’r aeth y cyflogwyr yn fethdalwr ar ôl 6 Ebrill 2005.
Os yw cynllun pensiwn eich cwmni'n bodloni amodau'r Gronfa Diogelu Pensiynau, bydd y Gronfa'n talu iawndal rheolaidd i chi. Os ydych eisoes wedi cyrraedd oedran ymddeol arferol eich cynllun, bydd gennych hawl i gael iawndal sy'n gyfwerth â 100 y cant o'ch pensiwn. Os nad ydych chi wedi cyrraedd oedran ymddeol arferol y cynllun eto, cewch iawndal sy’n gyfwerth â 90 y cant o’ch pensiwn. Mae hyn yn amodol ar reolau’r Gronfa, a hyd at uchafswm o £26,935.70 y flwyddyn, pan fyddwch yn ymddeol.
Os yw cynllun pensiwn eich cwmni wedi dioddef colled yn ei asedau o ganlyniad i weithredu – neu fethu gweithredu – mae hynny’n gyfystyr â thwyll. Yna, gellir gwneud cais i’r Gronfa Iawndal yn achos Twyll a reolir gan Fwrdd y Gronfa Diogelu Pensiynau. Trosglwyddwyd y cyfrifoldeb hwn o’r Bwrdd Iawndal Pensiynau i'r Gronfa Diogelu Pensiynau ar 1 Medi 2005. Yn wahanol i agweddau eraill ar y Gronfa Diogelu Pensiynau, mae'r ddarpariaeth hon yn berthnasol i'r rhan fwyaf o gynlluniau cyfraniadau diffiniedig a buddion diffiniedig.
Os ydych chi wedi colli allan ar eich pensiwn ar ôl i’r cynllun gael ei ddirwyn i ben (ar ôl 1 Ionawr 1997), mae’n bosib y cewch gymorth ariannol gan y Cynllun Cymorth Ariannol. Mae’n bosib y cewch y cymorth ariannol hwn os na thalwyd digon i’ch cynllun buddion diffiniedig a naill ai:
Os byddwch yn bodloni amodau penodol eraill, bydd y Cynllun Cymorth Ariannol yn talu cymhorthdal i chi i dalu iawn am 90% o’r pensiwn rydych chi wedi’i gronni naill ai:
Yr oedran ymddeol arferol yw’r oedran y byddech yn ymddeol, fel y nodir yn rheolau eich cynllun pensiwn.
Ar y ddolen isod, cewch wybod rhagor am y Cynllun Cymorth Ariannol, pa gynlluniau sy’n gymwys a pha amodau fyddai’n rhaid i chi eu bodloni.
Os oes diffyg yng nghronfa bensiwn eich cwmni oherwydd achosion o dwyll neu ddwyn, mae’n bosib y bydd y Gronfa Diogelu Pensiynau yn gallu adennill rhywfaint o’r arian. Darllenwch ‘Y Gronfa Diogelu Pensiynau’ uchod. Mae’r Gronfa’n gweithredu’r Cynllun Iawndal yn achos Twyll.
I gael rhagor o wybodaeth, ffoniwch y Gronfa ar 08456 002 541 (rhwng 9.00 am a 5.30 pm o ddydd Llun i ddydd Gwener).
Os ydych chi’n perthyn i gynllun pensiwn cyflog terfynol, ei ymddiriedolwyr sy'n gyfrifol am sicrhau nad yw'r cynllun yn mynd yn brin o arian. Er mwyn cyfyngu ar y costau yn y dyfodol, gall y cyflogwr neu’r ymddiriedolwyr wneud y canlynol:
Gall cyflogwr (neu'r ymddiriedolwyr) hefyd benderfynu dirwyn cynllun pensiwn i ben unrhyw bryd. Mae hyn yn golygu cau'r cynllun i bawb a defnyddio’i asedau er budd i’r aelodau. Os bydd y cwmni’n parhau mewn busnes, efallai y bydd yn rhaid iddo ddarparu mynediad at gynllun rhanddeiliaid yn lle. Ond, ni fydd rhaid iddo gyfrannu at y cynllun rhanddeiliaid hwn.
Ymddiriedolwyr eich cynllun pensiwn
Gall ymddiriedolwyr eich cynllun pensiwn roi cyngor i chi am eich cynllun pensiwn.
Gall gweinyddwr eich cynllun pensiwn ateb cwestiynau penodol am eich pensiwn.
Mae'r Gwasanaeth Cyngor am Bensiynau'n rhoi cyngor annibynnol am reolau a rheoliadau cyffredinol pensiynau. I gael rhagor o wybodaeth, ffoniwch y llinell gymorth ar 0845 601 2923 (rhwng 9.00 am a 5.00 pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.)
Mae'r Gronfa Diogelu Pensiynau'n darparu iawndal i aelodau'r rhan fwyaf o gynlluniau pensiwn cyflog terfynol/buddion diffiniedig os yw'r cyflogwr yn mynd yn fethdalwr ar ôl 6 Ebrill 2005. Mae hefyd yn darparu ar gyfer cynlluniau sydd wedi cael colledion oherwydd twyll.
I gael rhagor o wybodaeth, ffoniwch 0845 600 2541 (rhwng 9.00 am a 5.30 pm o ddydd Llun i ddydd Gwener).
Y Cynllun Cymorth Ariannol
Mae’r Cynllun Cymorth Ariannol yn rhoi cymorth i aelodau cynlluniau galwedigaethol buddion diffiniedig a gafodd ei ddirwyn i ben rhwng 1 Ionawr 1997 a 5 Ebrill 2005.
Mae gan y Rheoleiddiwr Pensiynau bwerau i reoleiddio'r ffordd y mae cynlluniau pensiynau cwmni'n cael eu rheoli ac i ymchwilio i dwyll pensiynau a chynlluniau sy'n cael eu rheoli'n wael.
I gael rhagor o wybodaeth, gallwch ffonio 0870 241 1144 (rhwng 9.00 am a 5.00 pm o ddydd Llun i ddydd Gwener).
Mae'r Ombwdsmon Pensiynau'n ymchwilio i gwynion am sut y defnyddir rheolau cynlluniau pensiwn. I gael rhagor o wybodaeth, ffoniwch 020 7834 9144 (rhwng 9.00 am a 5.00 pm o ddydd Llun i ddydd Gwener).