Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Beth i'w wneud os caiff cynllun pensiwn eich gweithle ei gau, ei rewi, neu ei ddirwyn i ben

Mae’n bosib y caiff cynllun pensiwn eich gweithle ei gau i aelodau newydd, ei rewi (ei gau i bob aelod), neu ei ddirwyn i ben (ei gau yn llwyr). Yma, cewch wybod pam all hyn ddigwydd a sut y gall effeithio arnoch. Os oes arnoch angen rhagor o gyngor, mae yna fudiadau amrywiol y gallwch chi siarad â nhw.

Pam mae cynlluniau pensiwn y gweithle yn cael eu cau neu eu rhewi

Mae’n bosib i’ch cynllun pensiwn y gweithle gael ei gau neu ei rewi yn y dyfodol os nad oes ganddo ddigon o arian i dalu pensiynau pan maent yn dyladwy. Er enghraifft, os yw cyfanswm gwerth buddsoddiadau cynllun pensiwn eich gweithle yn llai na:

  • faint sy’n rhaid iddo ei dalu allan nawr
  • faint fydd yn rhaid iddo ei dalu allan yn y dyfodol (sy’n cynnwys cyfraniadau’r holl aelodau hyd yn hyn)

Mae pwy bynnag sy’n gofalu am cynllun pensiwn eich gweithle yn gyfrifol am sicrhau nad yw'n mynd yn brin o arian.

Fodd bynnag, os yw cynllun pensiwn eich gweithle yn mynd yn brin o arian, gall pwy bynnag sy’n rhedeg y cynllun naill ai:

  • ‘cau’ cynllun pensiwn y gweithle i aelodau newydd – gall aelodau cyfredol barhau i gyfrannu a chael pensiwn
  • ‘rhewi’ cynllun pensiwn y gweithle – ei gau i bawb, gan gael effaith ar fuddion yr aelodau cyfredol (gan ddibynnu ar reolau’r cynllun pensiwn)

Os caiff cynllun pensiwn eich gweithle ei gau i aelodau newydd

Os ydych chi eisoes yn aelod o gynllun pensiwn eich gweithle ond ei fod wedi cael ei gau i aelodau newydd, ni ddylech chi gael eich effeithio. Bydd y cynllun yn parhau fel yr arfer.

Os ydych yn weithiwr newydd, gallwch ofyn i'ch cyflogwr a yw’n cynnig mynediad at fath arall o gynllun pensiwn.

Os caiff cynllun pensiwn cyfraniadau diffiniedig eich gweithle is gau

Mewn cynlluniau pensiwn cyfraniadau diffiniedig, telir arian i mewn i gronfa pensiwn sy’n berchen i chi. Mae’r swm a gewch pan fyddwch yn ymddeol yn seiliedig ar faint sydd wedi’i dalu i mewn a pha mor dda mae’r buddsoddiadau wedi perfformio. Gallwch ddefnyddio’r arian hwn i brynu incwm pan fyddwch yn ymddeol. Gweler y ddolen ‘Mathau o gynlluniau pensiwn y gweithle’ i gael gwybod mwy ynghylch ‘cynlluniau pensiwn cyfraniadau diffiniedig’.

Weithiau, efallai y bydd cyflogwr yn dweud wrthych ei fod eisiau cau ei gynllun pensiwn. Os mae hyn yn digwydd, mae’n bosib y bydd eich cyflogwr am drosglwyddo’ch pensiwn i ddarparwr pensiwn arall neu drefnu i chi ddod yn aelod o fath arall o bensiwn y gweithle. Er enghraifft, pensiwn personol grŵp neu gynllun pensiwn rhanddeiliaid. Gelwir hyn weithiau’n ‘buy out’.

Os caiff cynllun pensiwn eich gweithle ei rewi

Pan gaiff cynllun pensiwn y gweithle ei rewi, ni chaiff rhagor o gyfraniadau eu casglu gan aelodau cyfredol, a ni chaiff aelodau newydd ymuno.

Os ydych chi’n aelod o'r pensiwn y gweithle, bydd pwy bynnag sy’n rhedeg y cynllun pensiwn yn dweud wrthych faint oedd gwerth eich pensiwn pan gafodd ei rewi.

Pam mae cynlluniau pensiwn y gweithle’n cael eu dirwyn i ben

Pan ddywedir bod cynllun pensiwn yn cael ei ddirwyn i ben, dyma’r broses o ddiweddu cynllun pensiwn y gweithle. Gall hyn ddigwydd am nifer o resymau, yn dibynnu ar reolau cynllun pensiwn y gweithle. Mae’r rhain yn cynnwys:

  • bod y cwmni wedi mynd allan o fusnes
  • bod y cwmni wedi uno gyda busnes arall neu wedi ei brynu gan fusnes arall
  • bod y cyflogwr wedi rhoi’r gorau i gyfrannu at bensiwn y gweithle am byth
  • bod y Rheoleiddiwr Pensiynau wedi rhoi cyfarwyddyd i ddirwyn cynllun pensiwn y gweithle i ben

Os caiff cynllun pensiwn eich gweithle ei ddirwyn i ben

Os caiff cynllun pensiwn y gweithle ei ddirwyn i ben, bydd yn rhaid i bwy bynnag sy’n ei redeg egluro’n llawn y rhesymau pam. Hefyd, bydd yn rhaid iddynt roi’r newyddion diweddaraf i aelodau yn rheolaidd. Holwch beth fydd yn digwydd i gynllun pensiwn eich gweithle – bydd hyn yn dibynnu ar y rheswm pam ei fod wedi cael ei ddirwyn i ben.

Ble i gael cyngor

Ymddiriedolwyr cynllun pensiwn y gweithle

Gall ymddiriedolwyr cynllun pensiwn eich gweithle roi cyngor i chi ynghylch eich pensiwn.

Gweinyddwr y cynllun pensiwn

Gall gweinyddwr eich cynllun pensiwn ateb cwestiynau penodol ynglŷn â’ch pensiwn.

Y Rheoleiddiwr Pensiynau

Mae gan y Rheoleiddiwr Pensiynau bwerau i reoleiddio'r ffordd y caiff cynlluniau pensiwn y gweithle eu rhedeg. Gall hefyd ymchwilio i dwyll pensiynau ac i gynlluniau pensiwn y gweithle sy’n cael eu rhedeg yn wael.

Cynghorwyr Ariannol Annibynnol

Mae'n bwysig ceisio cyngor cyn gwneud unrhyw benderfyniadau ynghylch prynu incwm ymddeol neu drosglwyddo'ch pensiwn. Gallwch siarad â chynghorydd ariannol annibynnol neu â’r Gwasanaeth Cyngor am Bensiynau.

Y Gwasanaeth Cyngor am Bensiynau

Mae'r Gwasanaeth Cyngor am Bensiynau'n rhoi cyngor annibynnol am reolau a rheoliadau cyffredinol pensiynau.

Yr Awdurdod Gwasanaethau Ariannol (FSA)

Mae’r Awdurdod Gwasanaethau Ariannol yn rheoleiddio gwerthiant cynnyrch pensiynau. Ceir gwybodaeth am bensiynau ar ei wefan.

Allweddumynediad llywodraeth y DU