Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Iau, 4 Hydref 2012

Pensiynau’r gweithle – beth sy’n digwydd os caiff ei ddirwyn i ben

Os yw eich pensiwn y gweithle yn cael ei ddirwyn i ben (ei gau yn llwyr), bydd yn rhaid i ymddiriedolwyr y cynllun egluro’r rhesymau dros hynny yn llawn, a rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi’n rheolaidd. Yma cewch wybod beth yw eich camau nesaf. Bydd eich opsiynau’n seiliedig ar y rhesymau dros ddirwyn eich cynllun i ben.

Gwybodaeth a chyngor

Os yw’ch pensiwn y gweithle yn cael ei ddirwyn i ben, bydd yn rhaid i ymddiriedolwyr y cynllun pensiwn wneud y canlynol:

  • rhoi gwybod i chi eu bod wedi dechrau dirwyn y cynllun pensiwn i ben
  • rhoi’r rhesymau dros ddirwyn y cynllun pensiwn i ben (o fewn mis)
  • rhoi enw a chyfeiriad cyswllt er mwyn i chi allu gwneud ymholiadau pellach am y cynllun pensiwn
  • rhoi gwybodaeth i’r aelodau yn rheolaidd yn ystod y broses o ddirwyn y cynllun i ben
  • rhoi cyngor i’r rheini y mae hyn yn effeithio arnynt

Bydd yr hyn sy'n digwydd i'ch cynllun pensiwn wedyn yn dibynnu ar y rheswm pam ei fod wedi cael ei ddirwyn i ben.

Ni all eich cyflogwr fforddio ariannu’ch pensiwn

Caiff cronfeydd pensiwn y gweithle eu prisio i wneud yn siŵr y gall y cwmni dalu faint y mae’r aelodau’n eu disgwyl.

Os bydd eich cyflogwr yn parhau i fasnachu ond nad yw ei gynllun pensiwn y gweithle mewn credyd, rhaid i’ch cyflogwr wneud iawn am y diffyg.

Ar ôl i’ch cyflogwr wneud iawn am y diffyg hwn ac i’r cynllun gael ei ddirwyn i ben:

  • gallwch ddefnyddio arian eich pensiwn y gweithle i brynu blwydd-daliadau (incwm rheolaidd am oes)
  • gellir trosglwyddo'ch buddion i bensiwn arall (dim ond ar gyfer rhai nad ydynt yn bensiynwyr)

Y gweithle’n uno neu’n cael ei feddiannu

Os yw’ch cyflogwr yn uno â chyflogwr arall neu os yw cyflogwr arall yn ei feddiannu, bydd yn rhaid i’ch cyflogwr newydd:

  • darparu mynediad at bensiwn arall sy’n cyrraedd neu’n rhagori safonau newydd y llywodraeth ar gyfer pensiynau’r gweithle
  • rhoi manylion y cynllun pensiwn newydd hwn i chi
  • eich cofrestru’n awtomatig i mewn i’r pensiwn y gweithle newydd hwn os ydych chi’n gymwys

Cyfrannu ers llai na dwy flynedd

Os ydych yn cyfrannu at bensiwn eich gweithle ers llai na dwy flynedd, efallai y bydd gennych hawl i gael ad-daliad o’ch cyfraniadau. Dylech holi gweinyddwr eich cynllun pensiwn.

Mynd yn fethdalwr

Os yw’ch cyflogwr wedi mynd yn fethdalwr, ni all ddefnyddio ei gronfa bensiwn i dalu dyledion y cwmni, felly mae'r gronfa wedi'i diogelu.
Os oes diffyg yn y gronfa, mae’n bosib y cewch bensiwn llai. Yn yr achos hwn, efallai y byddwch yn gymwys i gael iawndal a chymorth gan y Gronfa Diogelu Pensiynau neu'r Cynllun Cymorth Ariannol

Iawndal a help

Gweler ‘Diogelwch cynlluniau pensiwn y gweithle’ am wybodaeth ar sut y caiff eich pensiwn ei ddiogelu.

Allweddumynediad llywodraeth y DU