Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Yr opsiynau pan fyddwch yn cymryd eich pensiwn cwmni

Mae gan eich cynllun pensiwn cwmni ('galwedigaethol') reolau ynghylch pryd y gallwch ymddeol a chael eich pensiwn. Mae'n syniad da holi gweinyddwr eich cynllun pensiwn ynghylch yr opsiynau sydd ar gael ichi. Fodd bynnag, mae rhai elfennau sy'n gyffredin i bob cynllun cwmni.

Faint o bensiwn cwmni y byddwch yn ei gael

Bydd faint o bensiwn cwmni y byddwch yn ei gael yn dibynnu ar ba fath o gynllun pensiwn yr ydych yn aelod ohono. Mae’n debyg y bydd yn un o ddau fath:

Cynllun cyflog terfynol

Mae'r pensiwn a gewch yn seiliedig ar eich cyflog a nifer y blynyddoedd yr ydych wedi bod yn y cynllun.

Cynllun pwrcasu arian

Mae'r pensiwn a gewch gyda chynllun pwrcasu arian yn seiliedig ar faint yr ydych chi a'ch cyflogwr wedi'i gyfrannu a'r llog y mae wedi ei ennill. Wrth ymddeol, defnyddir eich cronfa i ddarparu pensiwn ichi, yn aml drwy brynu blwydd-dal (incwm rheolaidd am oes). Cyfrifir faint y bydd eich cronfa'n ei ddarparu drwy ddefnyddio 'cyfradd blwydd-dal'. Mae hon yn dibynnu ar sawl peth, gan gynnwys eich oed a'ch rhyw, a'r cyfraddau llog ar y pryd.

Yr opsiynau gyda chynllun cyflog terfynol

Gallwch ofyn i weinyddwr eich pensiwn am reolau eich cynllun arbennig chi. Er enghraifft, gyda rhai cynlluniau chewch chi ddim cymryd eich buddion tan eich bod yn 65 oed, ond gydag eraill gallwch eu cymryd yn gynt.

Efallai y cewch ddewis cymryd rhan o'ch pensiwn fel taliad unswm di-dreth a derbyn incwm misol llai.

Gallwch ofyn i weinyddwr eich pensiwn am ragolwg o faint y bydd eich pensiwn yn ei dalu pan fyddwch yn ymddeol, neu os yw afiechyd yn eich atal chi rhag gweithio. Gallwch ofyn hefyd pa fuddion y bydd eich dibynyddion yn eu derbyn os byddwch yn marw o'u blaenau.

Yr opsiynau gyda chynllun pwrcasu arian

Pan fyddwch yn ymddeol, gallwch ddewis cymryd rhan o'ch pensiwn fel taliad unswm di-dreth a defnyddio'r gweddill i brynu blwydd-dal. Incwm rheolaidd am oes yw blwydd-dal.

Prynu blwydd-dal

Mae sawl math o flwydd-daliadau ar y farchnad. Mae'n bwysig cofio unwaith y byddwch wedi prynu un, na fyddwch, yn fwy na thebyg, yn gallu ei newid yn ddiweddarach.

Efallai na fydd yn rhaid ichi brynu blwydd-dal gan y gweinyddwr pensiwn a awgrymir gan gynllun eich cwmni. Ond efallai y bydd yn rhaid talu am drosglwyddo'ch cronfeydd. Mae'n syniad da ystyried yr holl opsiynau a chael cyngor proffesiynol cyn gwneud unrhyw benderfyniadau.

Beth os nad wyf eisiau prynu blwydd-dal?

Os nad ydych eisiau prynu blwydd-dal yn syth, efallai y gallwch ddewis opsiwn tynnu incwm (drawdown pension) yn lle hynny. Ond, ychydig iawn o gynlluniau galwedigaethol sy'n cynnig hwn fel dewis.

Gall gweinyddwr eich cynllun ddweud wrthych os yw hyn yn bosibl.

Pensiwn tynnu incwm (drawdown pension)

Mae'n gadael ichi dynnu incwm o'ch cronfa bensiwn sy'n dal i gael ei buddsoddi yn y cynllun nes y byddwch yn prynu blwydd-dal. Ond, yn wahanol i flwydd-dal, adolygir y swm yr ydych yn ei dderbyn bob 3 blynedd tra rydych o dan 75 oed, neu bob blwyddyn os ydych yn 75 oed neu’n hŷn.

Mae’r swm a gewch yn cael ei bennu gan reolau Cyllid a Thollau EM a'r Adran Gwaith a Phensiynau.

Os yw tynnu incwm yn opsiwn sy'n cael ei gynnig gan eich cynllun, gall eich gweinyddwr ddweud wrthych faint o incwm a gewch dan y trefniant hwn.

Os nad yw eich cynllun galwedigaethol yn cynnig yr opsiwn tynnu incwm, efallai yr hoffech ystyried trosglwyddo'ch buddion i gynllun pensiwn personol sy'n ei gynnig. Ond yn ddelfrydol, dylech gael cyngor annibynnol cyn gwneud penderfyniad.

Gweithio'n rhan-amser wedi i chi ymddeol

Ers Ebrill 2006, efallai na fydd yn rhaid ichi adael eich swydd i gael eich pensiwn.

Yn hytrach, efallai y gallwch dynnu rhywfaint neu'r cyfan o'ch pensiwn a chithau'n dal i weithio'n llawn amser neu'n rhan amser i'r un cyflogwr. Bydd beth y gallwch ei wneud yn dibynnu ar reolau’ch cynllun.

Cael cyngor am bensiynau cwmni

Mae'n syniad da cael cyngor am eich pensiwn cwmni cyn gwneud unrhyw benderfyniadau - mae nifer o lefydd yn cynnig cyngor a gwybodaeth.

Gweinyddwr cynllun pensiwn eich cwmni

Dylai cynllun pensiwn eich cwmni fod â gweinyddwr sy'n gallu rhoi cyngor penodol ichi am eich cynllun.

Gwasanaeth Cyngor am Bensiynau (TPAS)

Am wybodaeth gyffredinol am bensiynau cwmni, gallwch gysylltu â'r gwasanaeth uchod.

Rheolydd Pensiynau

Os ydych yn poeni ynghylch y ffordd mae cynllun pensiwn eich cwmni'n cael ei reoli, gallwch gysylltu â'r Rheolydd Pensiynau (yr Awdurdod Rheoleiddio Pensiynau Galwedigaethol yn flaenorol).

Ymgynghorydd ariannol

Gallech hefyd siarad ag ymgynghorydd ariannol am gynllun pensiwn eich cwmni, yn arbennig os ydych yn ystyried trosglwyddo'ch cronfa i bensiwn personol.

Nid yw cael cyngor ariannol yn golygu o anghenraid y bydd yn rhaid talu ffi, ond mae'n werth holi ymlaen llaw.

Mwy o ddolenni defnyddiol

Allweddumynediad llywodraeth y DU