Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Pensiynau’r gweithle – gwneud cyfraniadau gwirfoddol ychwanegol i gynyddu’ch pensiwn

Mae cyfraniadau gwirfoddol ychwanegol (CGY) yn cynnig ffordd gost-effeithiol o gynyddu eich cronfa bensiwn os oes gennych gynllun pensiwn y gweithle. Dysgu mwy ynghylch y gwahanol ffyrdd o dalu mwy i'ch pensiwn.

Ynghylch cyfraniadau gwirfoddol ychwanegol (CGY)

Mae cyfraniadau i’ch cynllun gweithle fel arfer yn cynnwys:

  • eich cyfraniadau chi
  • cyfraniadau gan eich cyflogwr
  • cyfraniadau gan y llywodraeth, mewn ffurf gostyngiad treth

Mae cyfraniadau gwirfoddol ychwanegol yn gyfraniadau pensiwn ychwanegol y gallech ei wneud i gynyddu’ch pensiwn.

Manteision CGY

Gallwch fanteisio ar:

  • costau gweinyddu is yn y rhan fwyaf o achosion na phetaech wedi buddsoddi mewn cynllun pensiwn ar wahân
  • y cyfle i stopio neu amrywio'r swm yr ydych yn ei dalu
  • gostyngiad treth ar eich cyfraniadau (hyd at derfynau penodol - gweler yr adran 'Rheolau pensiwn o fis Ebrill 2006)

Ychwanegu at bensiwn y gweithle sydd eisoes yn bod

Os ydych am ychwanegu at bensiwn sydd eisoes yn bod, dylech wirio i weld os:

  • allwch dalu cyfraniadau gwirfoddol ychwanegol
  • all eich partner neu berson arall gwneud cyfraniadau trydydd parti, mae rhai cynlluniau diffiniedig yn caniatáu hyn

Hyd at fis Ebrill 2006, cafwyd cyfyngiadau ar faint y gallech ei dalu i bensiwn cwmni a phensiwn personol ar yr un pryd. Weithiau, roedd hyn yn golygu mai yr unig ddewis ar gyfer ychwanegu at eich pensiwn oedd talu CGY.

Fodd bynnag, yn dilyn y newidiadau ym mis Ebrill 2006, gallwch nawr gynilo faint a fynnoch mewn unrhyw nifer o bensiynau. Mae hyn yn cynnwys pensiynau gweithle, pensiynau personol a phensiynau cyfranddeiliaid, gan gynnwys drwy gyfrwng CGY a CGYA.

Cewch ostyngiad treth ar gyfraniadau o hyd at 100 y cant o'ch enillion bob blwyddyn, yn amodol ar 'lwfans blynyddol' uchaf. Bydd cynilion uwchben y lwfans blynyddol a 'lwfans oes' ar wahân o gyfanswm cynilion pensiwn yn cael eu trethu. Gweler y ddolen ‘Rheolau pensiwn o fis Ebrill 2006’ am ragor o wybodaeth ar ‘lwfans blynyddol’.

Sut y defnyddir CGY gan eich cronfa bensiwn

Bydd y buddion a gewch o'ch CGY yn dibynnu ar y math o gynllun cwmni yr ydych yn rhan ohono a rheolau'r cynllun.

Cynlluniau pensiwn buddion diffiniedig (holl gynlluniau pensiwn personol, yn cynnwys cynlluniau pensiwn budd-ddeiliad)

Gyda chynllun pensiwn cyfraniadau diffiniedig, mae maint eich pensiwn yn dibynnu ar faint yr ydych wedi’i gyfrannau a pha mor dda y mae’r buddsoddiadau wedi perfformio. Pan fyddwch yn ymddeol, defnyddir y gronfa gyfan, gan gynnwys eich CGY, i ddarparu incwm pensiwn i chi.

Cynlluniau pensiwn buddion diffiniedig (cynlluniau cyflog terfynol)

Gyda chynllun pensiwn buddion diffiniedig, mae’r swm a gewch yn seiliedig ar eich cyflog a nifer o flynyddoedd yr ydych wedi bod yn y cynllun. Weithiau mae CGY yn cynyddu nifer y blynyddoedd y seilir eich buddion arnynt; weithiau maent yn cronni cronfa ar wahân er mwyn prynu buddion ychwanegol.

Bydd angen ichi siarad â gweinyddwr eich cynllun pensiwn i gael gwybod am reolau’ch cynllun.

Ad-daliadau CGY

Os byddwch yn marw, fel arfer, fe ad-delir eich CGY - ynghyd ag unrhyw log sydd wedi cronni arnynt. Fodd bynnag, mae hyn yn dibynnu ar reolau eich cynllun, ac felly bydd rhaid ichi holi gweinyddwr eich cynllun pensiwn chi.

CGY Annibynnol

Mae CGY Annibynnol (CGYA) yn wahanol i CGY oherwydd:

  • fe'u trefnir gennych chi, nid trwy gyflogwr
  • fe'u telir i gynllun pensiwn a redir gan sefydliad ariannol megis cwmni yswiriant neu fanc

Manteision CGYA yw:

  • gallwch barhau i dalu i'r cynllun hyd yn oed os byddwch yn newid cyflogwr
  • gallant roi mwy o opsiynau buddsoddi

Fodd bynnag, bydd y costau gweinyddu fel arfer yn uwch.

Ble i gael help a chyngor

Mae nifer i sefydliadau'n cynnig gwybodaeth am ddim ynghylch y gwahanol ffyrdd o gynilo ar gyfer eich pensiwn. Ond allan nhw ddim rhoi cyngor ariannol personol i chi. I ddeall yr opsiynau gorau i chi, mae'n syniad da cael cyngor ariannol.

Allweddumynediad llywodraeth y DU