Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Mathau o gynlluniau pensiwn y gweithle

Mynnwch wybod am y ddau brif fath o gynlluniau pensiwn y gweithle - cynlluniau budd diffiniedig a chynlluniau cyfraniadau diffiniedig. I gael gwybod pa fath o gynllun pensiwn y gweithle yw'ch cynllun chi, gofynnwch i bwy bynnag sy'n cynnal eich pensiwn.

Cynlluniau pensiwn cyfraniadau diffiniedig

Dyma'r math mwyaf cyffredin o bensiwn y gweithle.

Gyda chynlluniau pensiwn cyfraniadau diffiniedig, caiff eich cronfa bensiwn ei rhoi mewn amrywiol fathau o fuddsoddiad, fel cyfranddaliadau (sef prynu cyfran mewn cwmni). Disgwylir iddi gynyddu dros amser.

Caiff eich cronfa bensiwn ei buddsoddi fel hyn gan ei bod fel arfer, yn yr hirdymor, yn rhoi gwell elw na chyfrif cynilion. Dros y blynyddoedd, gall gwerth buddsoddiadau gynyddu a gostwng. Ond os bydd y gwerth yn gostwng yn y byrdymor, mae'n debygol o adfer yn yr hirdymor.

Gyda rhai cynlluniau pensiwn cyfraniadau diffiniedig, mae'n bosibl y cewch wneud penderfyniadau am y ffordd y caiff eich arian ei fuddsoddi. Ond nid oes yn rhaid i chi wneud hynny - mae'n rhaid i bob darparwr pensiwn gynnig cronfa sy'n diwallu anghenion y rhan fwyaf o bobl a dyma lle y caiff eich arian ei fuddsoddi'n awtomatig. Bydd gan bwy bynnag sy'n cynnal eich cynllun pensiwn ragor o wybodaeth am hyn.

Mae'n bosibl y bydd pwy bynnag a fydd yn buddsoddi eich cronfa bensiwn, er enghraifft eich darparwr pensiwn, yn codi tâl arnoch. Yn aml, cyfrifir y tâl hwn fel canran o werth y gronfa bensiwn. Mae'n bosibl y bydd y tâl hwn wedi'i nodi ar eich cyfriflenni pensiwn neu wybodaeth arall am eich cynllun pensiwn.

Efallai y byddwch yn clywed y term cynllun pensiwn 'prynu arian'. Dyma ffordd arall o gyfeirio at gynllun pensiwn cyfraniadau diffiniedig.

Y swm y byddwch yn ei gael pan fyddwch yn ymddeol

Mae'r swm a gewch pan fyddwch yn ymddeol yn seiliedig ar faint sydd wedi'i dalu i mewn a pha mor dda mae'r buddsoddiadau wedi perfformio. Po gynharaf y byddwch yn dechrau a pho fwyaf y byddwch chi, eich cyflogwr a'r llywodraeth yn ei dalu i mewn, y mwyaf o arian y byddwch yn debygol o'i gael ar y diwedd.

Fel arfer, pan fyddwch yn ymddeol, byddwch yn cael rhywfaint o'ch cronfa bensiwn fel cyfandaliad arian parod di-dreth. Byddwch yn defnyddio'r gweddill i brynu incwm i chi'ch hun, y byddwch yn talu treth arno.

Cynlluniau pensiwn budd diffiniedig

Ar gyfer cynlluniau budd diffiniedig, mae'r swm a gewch pan fyddwch yn ymddeol yn seiliedig ar amrywiol ffactorau. Gallai'r rhain gynnwys pa mor hir rydych wedi bod yn aelod o'r cynllun pensiwn a'ch enillion. Mae'r enghreifftiau yn cynnwys cynlluniau pensiwn sy'n gysylltiedig ag enillion 'cyflog terfynol' neu 'gyfartaledd gyrfa'.

Fel arfer, pan fyddwch yn ymddeol byddwch yn cael rhywfaint o'ch pensiwn fel cyfandaliad arian parod di-dreth. Byddwch yn cael y gweddill fel incwm rheolaidd, y byddwch yn talu treth arno.

Mae'r ffordd y caiff yr incwm hwn ei gyfrifo yn amrywio o gynllun i gynllun - bydd gan bwy bynnag sy'n cynnal eich cynllun pensiwn wybodaeth am hyn.

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU