Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mawrth, 2 Hydref 2012

Cofrestru ar gyfer pensiwn yn y gwaith

Yn dechrau o fis Hydref 2012, bydd cyflogwyr yn cofrestru gweithwyr ar gyfer pensiwn y gweithle, os ydynt yn bodloni'r meini prawf isod. Pan fyddwch yn talu i mewn i'ch pensiwn, bydd eich cyflogwr a'r llywodraeth yn cyfrannu hefyd. Mynnwch wybod sut y bydd hyn yn effeithio arnoch chi, pryd y bydd hyn yn digwydd a'r buddiannau.

Pensiwn y gweithle – beth ydyw

Mae pensiwn y gweithle yn ffordd o gynilo ar gyfer eich ymddeoliad a gaiff ei drefnu drwy eich cyflogwr. Fe'i gelwir weithiau yn 'bensiwn cwmni', 'pensiwn galwedigaethol' neu 'bensiwn gwaith'.

Sut y bydd hyn yn effeithio arnoch chi

Bydd eich cyflogwr yn eich cofrestru ar gyfer pensiwn y gweithle:

  • os nad ydych eisoes yn rhan o gynllun pensiwn yn y gwaith
  • os ydych yn 22 oed neu'n hŷn
  • os ydych o dan oedran Pensiwn y Wladwriaeth
  • os ydych yn ennill mwy na £8,105.00 y flwyddyn
  • os ydych yn gweithio yn y DU

Bydd eich cyflogwr yn ysgrifennu atoch i egluro sut y bydd y newidiadau yn effeithio arnoch chi.

Gallwch ddewis eithrio o'r pensiwn hwn os byddwch am wneud hynny. Ond os byddwch yn aros yn rhan o'r cynllun, bydd gennych eich pensiwn eich hun, y byddwch yn ei gael pan fyddwch yn ymddeol.

Os ydych eisoes yn rhan o gynllun pensiwn yn y gwaith a'i fod yn cyrraedd safonau newydd y llywodraeth, ni fydd hyn yn effeithio arnoch chi.

Mynnwch fwy o wybodaeth am bwy y bydd hyn yn effeithio arnynt

Pryd y mae hyn yn digwydd

Bydd pryd y cewch eich cofrestru yn dibynnu ar faint y sefydliad rydych yn gweithio iddo. Cyflogwyr mawr iawn sy'n cofrestru gweithwyr gyntaf, ddiwedd 2012 a dechrau 2013. Bydd cyflogwyr eraill yn dilyn rywbryd wedi hyn, dros gyfnod o sawl blwyddyn. Bydd eich cyflogwr yn eich hysbysu o'r union ddyddiad yn agosach at yr amser.

Pam mae hyn yn digwydd

Mae pobl yn byw'n hwy. Gallech fod wedi ymddeol am ugain mlynedd ac mae angen i chi ystyried sut y byddwch yn ariannu'r cyfnod hwnnw.

Mae Pensiwn y Wladwriaeth yn sail ar gyfer eich ymddeoliad. Ond os ydych am gael mwy o arian pan fyddwch yn ymddeol, efallai y byddwch am ystyried cyfrannu at bensiwn y gweithle. Pensiwn sylfaenol llawn y Wladwriaeth yn 2012/13 yw £107.45 yr wythnos i berson sengl.

Mae'r llywodraeth yn gofyn i gyflogwyr gofrestru eu gweithwyr yn awtomatig ar gyfer pensiwn y gweithle fel ei bod yn haws i bobl ddechrau cynilo.

Buddiannau aros mewn cynllun pensiwn y gweithle

Mae pensiwn yn ffordd o gynilo arian er mwyn rhoi incwm i chi pan fyddwch yn ymddeol. Mae cael pensiwn yn y gwaith yn fuddiol mewn sawl ffordd.

Bydd eich cyflogwr yn talu i mewn iddo. Mae'r cyfraniad hwn gan eich cyflogwr yn golygu y gall eich pensiwn gronni'n gyflymach na phetaech yn cynilo ar gyfer eich ymddeoliad ar eich pen eich hun.

Bydd y llywodraeth hefyd yn talu i mewn iddo, ar ffurf rhyddhad treth. Mae hyn yn golygu y bydd rhywfaint o'r arian rydych yn ei ennill bellach yn mynd i mewn i'ch pensiwn, yn hytrach na mynd i'r llywodraeth fel treth incwm.

Chi fydd piau eich pensiwn y gweithle, hyd yn oed os byddwch yn gadael eich cyflogwr yn y dyfodol.

Gan y bydd eich cyflogwr yn eich cofrestru ar gyfer y pensiwn hwn yn awtomatig, mae'n ffordd ddidrafferth o gynilo wrth ennill.

Mae bod yn rhan o gynllun pensiwn y gweithle yn gam pwysig tuag at sicrhau'r ffordd o fyw yr hoffech ei chael yn ddiweddarach yn eich bywyd.

Nodyn am y ffigur enillion

Noder y gall y ffigur enillion a restrir uchod (£8,105.00 y flwyddyn) newid bob mis Ebrill. Os bydd yn newid, caiff y dudalen hon ei diweddaru.

Faint y byddwch chi, eich cyflogwr a’r llywodraeth yn ei dalu i mewn

Mynnwch wybod faint y byddwch chi, eich cyflogwr a’r llywodraeth yn ei dalu i mewn.

Nid ydych yn siŵr a yw aros yn rhan o gynllun pensiwn yn iawn i chi

Mynnwch wybod beth i'w wneud os nad ydych yn siŵr a yw aros yn rhan o gynllun pensiwn y gweithle yn iawn i chi.

Pa mor ddiogel yw pensiynau

Os nad ydych yn siŵr pa mor ddiogel yw eich pensiwn y gweithle, mynnwch ragor o wybodaeth.

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU