Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Pensiynau'r gweithle a newidiadau i'ch amgylchiadau personol

Pan fydd gennych bensiwn gweithle, mae'n naturiol ystyried a yw'n parhau'n briodol i chi os bydd eich amgylchiadau'n newid. Efallai y bydd yr hyn y gallwch ei fforddio ar un adeg yn eich bywyd yn anoddach yn ddiweddarach. Mynnwch wybod sut y gallai newid yn y gwaith neu gartref effeithio ar eich pensiwn gweithle.

Symud swyddi a'ch pensiwn

Mae eich pensiwn yn eiddo i chi, hyd yn oed os byddwch yn gadael eich cyflogwr presennol neu os ydych yn weithiwr asiantaeth neu'n weithiwr dros dro.

Os byddwch am wneud hynny, mae'n bosibl y byddwch yn gallu parhau i wneud cyfraniadau ar ôl i chi adael eich swydd. Cysylltwch â phwy bynnag sy'n cynnal eich cynllun pensiwn i gael gwybod a yw hyn yn bosibl, a fydd cost ynghlwm wrth wneud hyn ac a fyddwch yn cael rhyddhad treth.

Neu, os byddwch yn cael pensiwn gweithle newydd, gallwch ystyried cyfuno eich hen bensiwn â'ch pensiwn newydd. Bydd darparwr eich cynllun pensiwn newydd yn gallu dweud wrthych a yw hyn yn bosibl ac, os felly, sut i fynd ati i drefnu hyn.

Os na allwch ddewis yr un o'r opsiynau uchod neu os na fyddwch am wneud hynny, yna bydd yr hyn a fydd yn digwydd i'ch pensiwn yn dibynnu ar reolau'r cynllun. Gofynnwch i bwy bynnag sy'n cynnal eich cynllun pensiwn.

Mae llawer o bobl yn newid swyddi sawl gwaith yn ystod eu bywyd gwaith, felly mae'n bwysig eich bod yn ymwybodol o'r pensiynau sydd gennych. Bydd cadw eich cyfriflenni o gymorth wrth wneud hyn. Os ydych wedi colli manylion pensiwn, gallai Gwasanaeth Olrhain Pensiynau y llywodraeth helpu i roi manylion cyswllt i chi ar gyfer y pensiwn hwnnw.

Roedd gennych bensiwn gweithle mewn swydd flaenorol

Gallech ei adael yn y fan a'r lle. Byddwch yn ei gael pan fyddwch yn cyrraedd yr oedran y mae eich cynllun pensiwn yn rhoi pensiynau i bobl, ar yr amod eich bod wedi bod yn aelod o'r cynllun pensiwn am gyfnod digon hir. 60 neu 65 oed yw hwn fel arfer. I gael gwybod yn union beth yw'r oedran hwn, gofynnwch i bwy bynnag sy'n cynnal eich cynllun pensiwn. Bydd y cyfnod gofynnol o amser wedi'i nodi yn rheolau'r cynllun. Neu efallai y gallech ei gyfuno â'ch pensiwn gweithle newydd. Os ydych yn ystyried gwneud hyn, mae angen i chi gadarnhau gyda phwy bynnag sy'n cynnal eich cynllun pensiwn p'un a yw hyn yn bosibl a sut i fynd ati i drefnu hyn.

Os byddwch yn penderfynu gadael eich pensiwn yn y fan a'r lle, efallai na fydd hawl gennych i gael rhai o fuddiannau cynllun pensiwn. Er enghraifft, efallai mai dim ond i aelodau'r cynllun pensiwn sydd wedi'u cyflogi gan y cwmni o hyd y bydd 'marw yn y swydd' yn gymwys. Os yw eich pensiwn gweithle yn gynllun pensiwn cyfraniadau diffiniedig, bydd eich cronfa bensiwn yn parhau i gael ei buddsoddi. Byddwch yn parhau i gael cyfriflenni a rhagolygon blynyddol ar sut mae'n perfformio.

Os yw eich pensiwn gweithle yn gynllun pensiwn buddiannau diffiniedig, caiff eich buddiannau eu hailbrisio’n rheolaidd i sicrhau eu bod yn unol â chwyddiant.

Os bydd angen help arnoch i benderfynu ar eich opsiynau pensiwn, gallai'r Gwasanaeth Cynghori ar Bensiynau fod yn fan cychwyn da.

Os byddwch yn symud tŷ

Mae'n bwysig eich bod yn rhoi gwybod i bwy bynnag sy'n cynnal eich cynllun pensiwn am eich cyfeiriad newydd.

Rydych yn gadael eich swydd i ddod yn hunangyflogedig neu'n rhoi'r gorau i weithio

Dylech ystyried pa incwm fydd gennych yn ddiweddarach yn eich bywyd.

Bydd eich cyflogwr yn rhoi'r gorau i dalu i mewn i'ch pensiwn gweithle, ond mae'n bosibl y byddwch yn gallu parhau i gyfrannu ato, os byddwch am wneud hynny. Byddai angen i chi gysylltu â phwy bynnag sy'n cynnal eich cynllun pensiwn i weld a yw hyn yn bosibl ac a fydd cost ynghlwm wrth wneud hyn.

Fel arall, efallai y byddwch am drefnu eich pensiwn personol eich hun, neu roi cynlluniau eraill ar waith ar gyfer eich ymddeoliad. Gallech ddewis pensiwn personol neu bensiwn cyfranddeiliaid sydd ar gael gan amrywiaeth o ddarparwyr pensiwn. Fel arall efallai y byddwch am ystyried defnyddio'r Ymddiriedolaeth Cynilion Cyflogaeth Genedlaethol (NEST). Mae NEST yn gynllun pensiwn gweithle sy'n seiliedig ar ymddiriedolaeth a ddatblygwyd i ddiwallu anghenion y rhan fwyaf o bobl.

Dylech ystyried gofyn am gyngor ariannol annibynnol. Gallech hefyd gysylltu â'r Gwasanaeth Cynghori Ariannol neu'r Gwasanaeth Cynghori ar Bensiynau.

Os byddwch yn marw cyn ymddeol

Mae'r rheolau yn amrywio gan ddibynnu ar y math o gynllun pensiwn gweithle rydych wedi'ch cofrestru ar ei gyfer. Efallai y byddwch yn gallu enwebu (dewis) rhywun i gael yr arian os byddwch yn marw. Cysylltwch â phwy bynnag sy'n cynnal eich pensiwn i gael gwybod a allwch wneud hyn a faint o arian y gallai'r person rydych yn ei enwebu ei gael.

Os gallwch enwebu rhywun, dylai pwy bynnag sy'n cynnal eich pensiwn ofyn i chi gadarnhau'n ysgrifenedig fanylion y person hwnnw. Os na fyddant yn gwneud hyn pan fyddwch yn ymuno â'r pensiwn yn gyntaf, dylech ofyn iddynt am ffurflen enwebu. Gallwch newid eich enwebiad ar unrhyw adeg. Os bydd eich amgylchiadau yn newid, dylech ei ddiweddaru.

Cofiwch: er y bydd yr arian fel arfer yn mynd i bwy bynnag a gaiff ei enwebu, gall sefydliadau sy'n cynnal cynlluniau pensiwn ei dalu i rywun arall os bydd angen. Er enghraifft, os na ellir dod o hyd i'r person a enwebwyd neu ei fod wedi marw.

Codi eich arian o'ch cronfa bensiwn cyn i chi ymddeol

Ar hyn o bryd, ni all y rhan fwyaf o bobl godi arian o unrhyw gynllun pensiwn hyd nes y byddant yn 55 oed o leiaf. Bydd yr union oedran y gallwch gael gafael ar eich pensiwn yn dibynnu ar reolau'r cynllun. I gael gwybodaeth am hyn, gofynnwch i bwy bynnag sy'n cynnal eich cynllun pensiwn.

Cymryd saib o dalu i mewn i'ch pensiwn

Os byddwch am roi'r gorau i dalu i mewn i'ch pensiwn gweithle, gallwch wneud hynny.

Efallai y byddwch am siarad â'ch cyflogwr i gael gwybod beth fydd yn digwydd pan fyddwch yn rhoi'r gorau i dalu i mewn i'ch pensiwn gweithle a sut i ddechrau talu eto.

Lleihau eich taliadau

Mae'n bosibl y byddwch yn gallu lleihau'r swm rydych yn ei dalu i mewn i'ch pensiwn. Byddai'n rhaid i reolau eich cynllun pensiwn ganiatáu hynny a byddai'n rhaid i'ch cyflogwr gytuno i hynny. Fel arfer, dim ond am gyfnod byr y caniateir i chi wneud hyn. Os byddwch am wneud hyn, bydd angen i chi gysylltu â phwy bynnag sy'n cynnal eich cynllun pensiwn.

Os byddwch yn lleihau eich cyfraniad, mae'n bosibl y byddwch yn talu llai na'r isafswm sy'n ofynnol gan safonau newydd y llywodraeth. Os felly, mae'r llywodraeth yn ei gwneud yn ofynnol i'ch cyflogwr gynyddu eich cyfraniadau yn ôl i'r isafswm bob hyn a hyn. Os bydd hyn yn digwydd a'ch bod am leihau eich cyfraniad eto, byddai angen i chi wneud ail gais.

Gwybodaeth bellach

I gael mwy o wybodaeth am bob un o'r sefyllfaoedd uchod, cysylltwch â'r Gwasanaeth Cynghori ar Bensiynau. Mae'n sefydliad annibynnol nad yw'n gwneud elw sy'n rhoi cyngor am ddim ar bensiynau.

Mae'r Gwasanaeth Cynghori Ariannol yn sefydliad annibynnol sy'n rhoi cyngor diduedd am ddim ar arian, gan gynnwys sut i reoli dyled.

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU