Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Os ydych chi wedi colli manylion ynghylch cynllun pensiwn, mae’n bosib y gall y Gwasanaeth Olrhain Pensiynau eich helpu drwy ddarparu cyfeiriad eich cynllun pensiwn. Gallwch wedyn gysylltu â’r cynllun a chael gwybod eich hawl. Cael gwybod beth y gall y Gwasanaeth Olrhain Pensiynau ei wneud i chi a sut y gallwch gysylltu â nhw.
Gall fod yn hawdd anghofio beth yw hanes pensiwn os byddwch yn newid swyddi yn ystod eich bywyd gwaith.
Bydd y Gwasanaeth Olrhain Pensiynau (sy'n rhan o'r Gwasanaeth Pensiwn) yn ceisio eich helpu i ddod o hyd i bensiwn hyd yn oed os nad ydych chi'n siŵr o’r manylion cyswllt. Mae'n gallu cael gafael ar wybodaeth am dros 200,000 o gynlluniau pensiwn. Bydd y Gwasanaeth Olrhain Pensiynau yn defnyddio'r gronfa ddata hon, yn rhad ac am ddim, i chwilio am eich cynllun.
Mae'n bosib y gall y Gwasanaeth Olrhain Pensiynau roi manylion cyswllt cyfredol cynllun pensiwn i chi. Yna, gallwch ddefnyddio'r wybodaeth hon i gysylltu â'r darparwr pensiwn ac i gael gwybod a oes gennych unrhyw hawl i bensiwn.
Bydd angen i chi roi pa wybodaeth i’r Gwasanaeth Olrhain Pensiynau y gallwch. Bydd yn ddefnyddiol os gallwch ddweud wrth y Gwasanaeth Olrhain Pensiynau pa fath o gynllun rydych chi'n chwilio amdano. Mae ganddynt fanylion dau fath o gynllun pensiwn: cynlluniau pensiwn cwmni a chynlluniau pensiwn personol.
Cynllun pensiwn y bydd cyflogwr yn ei gynnig i'w weithwyr yw hwn. Fe'i gelwir hefyd yn gynllun pensiwn yn y gwaith neu'n gynllun pensiwn galwedigaethol.
Os ydych chi'n ceisio olrhain cynllun pensiwn cwmni, dechreuwch drwy weld:
I gael gwybod mwy am Bensiynau Cwmni:
Mae hwn yn gynllun sy'n cael ei brynu gan ddarparwr pensiwn, megis banc, cwmni aswiriant bywyd neu gymdeithas adeiladu. Chi'n unig fydd piau'r pensiwn, sy'n golygu y gallwch ddal ati i gyfrannu ato os byddwch yn newid swydd.
Os ydych chi'n ceisio olrhain cynllun pensiwn personol, dechreuwch drwy weld:
I gael gwybod mwy am Bensiynau Personol:
Gallwch lenwi ffurflen olrhain pensiwn ar-lein a dechrau olrhain eich hen bensiwn yn syth. Ni ddylai gymryd mwy na ryw 15 munud i lenwi'r ffurflen.
Gallwch ffonio'r Gwasanaeth Olrhain Pensiynau ar:
Ffôn: 0845 6002 537 (llinellau ar agor rhwng 8.00 am a 6.00 pm)
Ffôn: +44 191 215 4491 (os ydych yn ffonio o dramor)
Ffôn testun: 0845 3000 169
Gallwch hefyd olrhain eich pensiwn drwy ysgrifennu at y Gwasanaeth Olrhain Pensiynau:
Pension Tracing Service / Y Gwasanaeth Olrhain Pensiynau
The Pension service / Y Gwasanaeth Pensiwn
Tyneview Park
Whitley Road,
Newcastle Upon Tyne
NE98 1BA