Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Wrth i chi nesáu at oed ymddeol, bydd angen i chi wybod beth yw sefyllfa ddiweddaraf eich pensiwn cwmni, eich pensiwn personol a phensiynau’r Wladwriaeth. Rhaid i chi wneud yn siŵr bod gennych chi ddigon o incwm i ddarparu ar gyfer eich anghenion yn y dyfodol. Yma cewch wybod pryd y gallwch chi ymddeol a ble i gael help i weld beth yw sefyllfa ddiweddaraf eich pensiynau, eich cynilion a’ch buddsoddiadau.
Bydd angen i chi benderfynu pryd rydych chi'n dymuno ymddeol. Gallwch chi ddewis dal ati i weithio ar ôl cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth, sef yr oedran cynharaf y gallwch hawlio Pensiwn y Wladwriaeth. Neu fe allwch chi ymddeol yn gynnar a rhoi’r gorau i weithio cyn cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth.
Os byddwch chi’n dal i weithio ar ôl cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth, gallwch ddewis naill ai hawlio eich Pensiwn y Wladwriaeth neu benderfynu gohirio ei hawlio am y tro. Mae llawer o fanteision i ohirio hawlio Pensiwn y Wladwriaeth am y tro. Os byddwch chi’n gohirio ei hawlio am o leiaf bum wythnos, gallech gael taliadau ychwanegol o Bensiwn y Wladwriaeth a delir bob wythnos gyda'ch Pensiwn y Wladwriaeth. Neu gallech gael taliad unswm os byddwch chi’n gohirio hawlio Pensiwn y Wladwriaeth am gyfnod di-dor o flwyddyn o leiaf.
Os ydych chi am barhau i weithio ond eisiau gweithio llai o oriau, gallech ystyried gweithio'n rhan-amser.
Cewch wybod yma beth yw eich oedran Pensiwn y Wladwriaeth, beth yw’r manteision posib i ddal ati i weithio a sut mae gwneud cais i ddal ati i weithio ar ôl cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth.
Os ydych chi’n ystyried rhoi'r gorau i weithio cyn cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth neu ymddeol yn gynnar, efallai y bydd hyn yn effeithio ar eich Pensiwn y Wladwriaeth. Mae faint o Bensiwn y Wladwriaeth gewch chi yn dibynnu ar faint o flynyddoedd cymhwyso sydd gennych o safbwynt cyfraniadau Yswiriant Gwladol dros eich bywyd gweithio. Darllenwch ‘Pensiwn y Wladwriaeth a’ch Credyd Pensiwn’ isod i wneud yn siŵr eich bod yn gymwys i gael Pensiwn llawn y Wladwriaeth.
Efallai y bydd ymddeol yn gynnar yn effeithio ar eich pensiwn personol neu’ch pensiwn cwmni hefyd. Mae’r rheolau ar gyfer pensiynau personol a phensiynau cwmni yn amrywio, gan ddibynnu ar bwy sy’n eu darparu. Bydd angen i chi edrych yn fanwl ar eich pensiwn personol neu’ch pensiwn cwmni i weld sut gallai ymddeol yn gynnar effeithio ar eich sefyllfa.
Gallwch ddarllen mwy yma am sut y gall rhoi'r gorau i weithio cyn cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth effeithio ar eich pensiynau.
Wrth benderfynu pryd i ymddeol, y peth pwysicaf yw gwneud yn siŵr bod gennych chi ddigon o arian i fyw’n gyfforddus. Mae’n ddefnyddiol cyfrifo faint o arian fydd arnoch ei angen a faint o incwm rydych chi’n debygol o’i gael ar ôl i chi ymddeol. I’ch helpu i gynllunio eich incwm yn y dyfodol, dylech edrych yn fanwl ar eich:
Dylech edrych yn fanwl ar eich pensiwn personol neu’ch pensiwn cwmni wrth i chi ddynesu at oed ymddeol er mwyn gwneud yn siŵr y bydd gennych ddigon o incwm pan fyddwch chi'n ymddeol yn y dyfodol. Mae gwerth eich pensiwn personol neu’ch pensiwn cwmni yn dibynnu ar faint sydd wedi cael ei fuddsoddi a pha mor dda mae'r arian wedi cael ei fuddsoddi. Bydd darparwr eich pensiwn personol neu bensiwn cwmni yn dweud wrthych faint sydd gennych.
Cewch wybod yma pryd allwch chi hawlio eich pensiwn personol neu’ch pensiwn cwmni, sut gallwch chi ei gael a ble y gallwch gael rhagor o gyngor.
Os ydych chi wedi colli manylion darparwr eich pensiwn personol neu bensiwn cwmni, efallai y gall y Gwasanaeth Olrhain Pensiynau eich helpu.
Mae’n bosib i chi ganfod faint o Bensiwn y Wladwriaeth rydych chi’n debygol o’i gael pan fyddwch chi’n ymddeol. Gallwch ddefnyddio amlinellydd Pensiwn y Wladwriaeth i gael amcangyfrif yn gyflym. Neu gallwch gael rhagolwg llawn o Bensiwn y Wladwriaeth yn seiliedig ar y cofnod o’ch cyfraniadau Yswiriant Gwladol. Os nad ydych chi’n gymwys i gael Pensiwn y Wladwriaeth, efallai y gallwch ystyried ychwanegu ato.
Os nad oed gennych chi ddigon o flynyddoedd cymhwyso i gael Pensiwn sylfaenol llawn y Wladwriaeth, efallai y bydd angen i chi ychwanegu at eich Pensiwn y Wladwriaeth. Cewch wybod yma pam fyddai angen i chi ychwanegu at eich Pensiwn y Wladwriaeth, a sut mae gwneud iawn am unrhyw ddiffyg.
Os ydych chi ar incwm isel, mae'n bosib y bydd gennych hawl i gael Credyd Pensiwn. Cael gwybod os ydych chi’n gymwys i gael Credyd Pensiwn.
Mae’n syniad da i chi edrych yn fanwl ar eich cyfrifon cynilo i wneud yn siŵr eich bod yn cael cyfradd llog gystadleuol. Os nad ydych chi, efallai y byddwch am ystyried symud eich cynilion i gyfrif arall.
Mae rhai cyfrifon cynilo yn ddefnyddiol iawn o ran rhoi hwb i'ch incwm ar ôl i chi ymddeol, er enghraifft, cyfrifon cynilo sy'n talu llog i chi'n fisol. Darllenwch 'Cynilion a buddsoddiadau' a ‘Savings made clear’ i gael rhagor o wybodaeth am wahanol ffyrdd o gynilo a buddsoddi eich arian.
Os nad ydych chi’n siŵr pa fath o gyfrif cynilo sy’n addas i’ch anghenion chi, mae cynghorwyr ariannol neu'r Gwasanaeth Cynghori ar Bensiynau yn cynnig help a chyngor. Cewch wybodaeth yma am gynghorwyr ariannol a pha gyngor y gallant ei roi i chi ynghylch eich cynilion a’ch buddsoddiadau.
Yn ogystal ag ystyried eich materion ariannol wrth i chi ddynesu at oed ymddeol, mae angen i chi feddwl am ofalu am eich iechyd hefyd. Drwy wneud pethau bach i gadw’n iach ac yn weithgar nawr, gallwch wella’ch siawns o gael bywyd iach ac annibynnol yn y dyfodol.
Mae gwefan y GIG yn cynnwys cyngor defnyddiol ar gadw'n iach i ddynion a menywod rhwng 40 a 60 oed.