Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Mae’n bosib y bydd yn newid byd mawr arnoch pan fyddwch yn ymddeol. Golyga hyn y gallai arian eich cartref fod yn wahanol iawn hefyd. Mae waled y dyfodol yn adnodd sy’n eich helpu i gyfrifo faint o arian y bydd arnoch ei angen, o bosib, yn nes ymlaen yn eich bywyd. Bydd yn gadael i chi gymharu hyn â’ch sefyllfa bresennol.
Dychmygwch mai heddiw yw’r diwrnod yr ydych yn ymddeol. Gallai eich bywyd fod yn wahanol iawn i’r hyn ydyw heddiw. Mae’n siŵr y byddech yn gwneud llawer mwy o rai pethau, a llawer llai o bethau eraill. Meddyliwch am yr hyn y byddai’n ei olygu i’ch arferion gwario. Dyma ambell beth i chi feddwl amdanynt i ddechrau – efallai na fydd pob un yn berthnasol i chi.
Efallai y byddwch yn gwario llai ar:
Efallai y byddwch yn gwario mwy ar:
Bydd waled y dyfodol yn gofyn i chi nodi'r pethau rydych chi'n meddwl y byddwch chi neu'ch teulu yn gwario mwy neu lai arnynt. Bydd yn rhoi gwybod i chi beth allai hyn ei olygu i’ch arian ar gyfer y dyfodol.
Ni fydd dim o’r wybodaeth y byddwch yn ei darparu wrth ddefnyddio waled y dyfodol yn cael ei storio na’i rhannu â neb arall. Dim ond i gyfrifo cyllideb i chi ei hargraffu a’i chadw y caiff ei defnyddio. Mae tri cham i waled y dyfodol, a bydd yn cymryd oddeutu 10 munud i’w cwblhau. Ni fydd angen pob math o waith papur arnoch, ond bydd yn ddefnyddiol i chi gael y canlynol wrth law:
Mae waled y dyfodol yn adnodd syml sy’n eich helpu i gael syniad bras o’r hyn fydd arnoch ei angen pan fyddwch yn ymddeol. Byddwch yn dychmygu eich bod yn ymddeol heddiw. Felly am y tro, peidiwch â phoeni sut bydd prisiau'n newid yn y dyfodol. Meddyliwch am faint mae pethau’n costio i chi heddiw.