Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Cael rhagolwg Pensiwn y Wladwriaeth

Cyfrifwch faint o Bensiwn y Wladwriaeth y gallwch ei gael, a phryd. Mae'r gyfraith wedi newid yn ddiweddar ac mae'r modd y gall rhai pobl gael y wybodaeth hon wedi newid. Mynnwch wybod sut i gael amcangyfrif o'ch Pensiwn y Wladwriaeth.

Cael amcangyfrif o Bensiwn y Wladwriaeth

Mae rhai newidiadau wedi'u gwneud i wasanaethau rhagweld Pensiwn y Wladwriaeth tra bo diweddariadau hanfodol yn cael eu gwneud i systemau cyfrifiadurol Y Gwasanaeth Pensiwn. Mae'r diweddariadau hyn yn angenrheidiol er mwyn adlewyrchu newidiadau pwysig yn rheolau Pensiwn y Wladwriaeth sydd bellach yn gyfraith gwlad.

Bydd y ffordd y byddwch yn cael amcangyfrif o'ch Pensiwn y Wladwriaeth yn dibynnu ar b'un a ydych:

  • yn fenyw a anwyd cyn 6 Ebrill 1953 neu'n ddyn a anwyd cyn 6 Ebrill 1951
  • yn fenyw a anwyd ar 6 Ebrill 1953 neu ar ôl hynny neu'n ddyn a anwyd ar 6 Ebrill 1951 neu ar ôl hynny

Menywod a anwyd cyn 6 Ebrill 1953: dynion a anwyd cyn 6 Ebrill 1951

Ni fydd y newidiadau diweddaraf i reolau Pensiwn y Wladwriaeth yn effeithio arnoch. Mae dwy ffordd y byddwch yn gallu cael amcangyfrif o'ch Pensiwn y Wladwriaeth. Gallwch ddefnyddio proffiliwr Pensiwn y Wladwriaeth neu gael rhagolwg Pensiwn y Wladwriaeth.

Proffiliwr Pensiwn y Wladwriaeth

Gall proffiliwr Pensiwn y Wladwriaeth eich helpu i gynllunio ar gyfer eich ymddeoliad. Mae'n defnyddio gwybodaeth a ddarperir gennych i roi amcangyfrif cyflym i chi o faint o Bensiwn sylfaenol y Wladwriaeth y gallwch ei gael yn seiliedig ar eich cyfraniadau Yswiriant Gwladol hyd yma. Bydd hefyd yn dweud wrthych beth yw'r dyddiad cynharaf y gallwch ei gael.

Rhagolwg Pensiwn y Wladwriaeth

Mae rhagolwg Pensiwn y Wladwriaeth yn rhoi gwybodaeth fanylach i chi am Bensiwn y Wladwriaeth y gallwch ei gael pan fyddwch yn cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth. Mae'n seiliedig ar eich cofnod o gyfraniadau Yswiriant Gwladol, a bydd yn rhoi amcangyfrifon i chi o'ch Pensiwn sylfaenol y Wladwriaeth a'ch Pensiwn ychwanegol y Wladwriaeth ac, os yw'n briodol, eich Budd-dal Ymddeol Graddedig.

Os ydych wedi cael Cod Actifadu gan Borth y Llywodraeth yn ddiweddar, i'ch galluogi i ddefnyddio'r gwasanaeth rhagweld ar-lein, dewiswch y ddolen ganlynol.

Menywod a anwyd ar 6 Ebrill 1953 neu ar ôl hynny: dynion a anwyd ar 6 Ebrill 1951 neu ar ôl hynny

Mae'r Gwasanaeth Pensiwn yn gwneud diweddariadau hanfodol i'w systemau cyfrifiadurol, er mwyn adlewyrchu newidiadau diweddar i Bensiwn y Wladwriaeth. Hyd nes y bydd y diweddariadau hyn wedi'u gwneud, mae dwy ffordd y gallwch gael gwybodaeth bersonol am eich Pensiwn y Wladwriaeth. Y ffordd gyflymaf a hawsaf yw defnyddio proffiliwr Pensiwn y Wladwriaeth i gael amcangyfrif o faint o Bensiwn sylfaenol y Wladwriaeth y gallwch ei gael yn seiliedig ar eich cyfraniadau Yswiriant Gwladol.

Fel arall, gallwch gael amcangyfrif o'ch Pensiwn y Wladwriaeth drwy ofyn am gyfriflen Pensiwn y Wladwriaeth. Bydd y gyfriflen yn seiliedig ar eich cofnod o gyfraniadau Yswiriant Gwladol.

Proffiliwr Pensiwn y Wladwriaeth

Mae proffiliwr Pensiwn y Wladwriaeth yn defnyddio gwybodaeth a ddarperir gennych i roi amcangyfrif cyflym i chi o faint o Bensiwn sylfaenol y Wladwriaeth y gallwch ei gael yn seiliedig ar eich cyfraniadau Yswiriant Gwladol hyd yma. Bydd hefyd yn dweud wrthych beth yw'r dyddiad cynharaf y gallwch ei gael. Byddwch hefyd yn gallu cael gwybodaeth am Bensiwn y Wladwriaeth, a beth y gall y newidiadau ei olygu i chi

Cyfriflen Pensiwn y Wladwriaeth

Bydd cyfriflen Pensiwn y Wladwriaeth yn rhoi amcangyfrifon i chi o faint o Bensiwn sylfaenol y Wladwriaeth a Phensiwn ychwanegol y Wladwriaeth ac, os yw'n briodol, Budd-dal Ymddeol Graddedig y gallwch ei gael. Mae'n seiliedig ar eich cofnod Yswiriant Gwladol ar y dyddiad pan gaiff y gyfriflen ei pharatoi. Nid yw'n rhagolwg o faint o Bensiwn y Wladwriaeth y byddwch yn ei gael pan fyddwch yn cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth.

Gallwch ofyn am y gyfriflen hon dros y ffôn neu drwy'r post.

Beth os ydych eisoes dros oedran Pensiwn y Wladwriaeth?

Os ydych eisoes dros oedran Pensiwn y Wladwriaeth ac wedi oedi cyn hawlio, gallwch gael amcangyfrif o'ch Pensiwn y Wladwriaeth o hyd. Bydd hwn yn seiliedig ar y dyddiad rydych yn bwriadu hawlio yn y dyfodol. Gallwch naill ai:

Mae proffiliwr Pensiwn y Wladwriaeth wedi'i anelu at bobl nad ydynt wedi cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth eto. Fodd bynnag, hyd yn oed os ydych eisoes wedi cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth, gall roi ychydig o wybodaeth ddefnyddiol i chi am Bensiwn y Wladwriaeth.

Dweud wrth Y Gwasanaeth Pensiwn am newid yn eich amgylchiadau

Mynnwch wybod beth sydd angen i chi roi gwybod amdano, megis newid mewn cyfeiriad neu fanylion banc.

Allweddumynediad llywodraeth y DU